Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

50

1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Ple, felly, mae llythyr ysgar eich mam, a roddais i'w gyrru ymaith? Neu, i ba echwynnwr y gwerthais chwi? O achos eich camweddau y gwerthwyd chwi, ac oherwydd eich troseddau y gyrrwyd eich mam ymaith.
2 Pam nad oedd neb yma pan ddeuthum, na neb yn ateb pan elwais? A yw fy llaw yn rhy fyr i achub, neu a wyf yn rhy wan i waredu? Gwelwch, 'rwy'n sychu'r m�r �'m dicter, ac yn troi afonydd yn ddiffeithwch; y mae eu pysgod yn drewi o ddiffyg du373?r, ac yn trengi o sychder.
3 'Rwy'n gwisgo'r nefoedd � galarwisg, ac yn rhoi sachliain yn amdo iddynt."
4 Rhoes yr ARGLWYDD Dduw i mi dafod un yn dysgu, i wybod sut i gynnal y diffygiol � gair; bob bore y mae'n agor fy nghlust i wrando fel un yn dysgu.
5 Agorodd yr ARGLWYDD Dduw fy nghlust, ac ni wrthwynebais innau, na chilio'n �l.
6 Rhoddais fy nghefn i'r curwyr, a'm cernau i'r rhai a dynnai'r farf; ni chuddiais fy wyneb rhag gwaradwydd na phoer.
7 Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal, am hynny ni chaf fy sarhau; felly gosodaf fy wyneb fel callestr, a gwn na'm cywilyddir.
8 Y mae'r hwn sy'n fy nghyfiawnhau wrth law. Pwy a ddadlau i'm herbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd; pwy a'm gwrthwyneba? Gadewch iddo nes�u ataf.
9 Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal: pwy a'm condemnia? Byddant i gyd yn treulio fel dilledyn a ysir gan wyfyn.
10 Pwy bynnag ohonoch sy'n ofni'r ARGLWYDD, gwrandawed ar lais ei was. Yr un sy'n rhodio mewn tywyllwch heb olau ganddo, ymddirieded yn enw'r ARGLWYDD, a phwyso ar ei Dduw.
11 Ond chwi i gyd, sy'n cynnau t�n ac yn goleuo tewynion, rhodiwch wrth lewyrch eich t�n, a'r tewynion a oleuwyd gennych. Dyma'r hyn a ddaw i chwi o'm llaw: byddwch yn gorwedd mewn dioddefaint.