1 "Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno; dewch, er eich bod heb arian; prynwch a bwytewch. Dewch, prynwch win a llaeth, heb arian a heb d�l.
2 Pam y gwariwch arian am yr hyn nad yw'n fara, a llafurio am yr hyn nad yw'n digoni? Gwrandewch arnaf yn astud, a chewch fwyta'r hyn sydd dda, a mwynhau danteithion.
3 Gwrandewch arnaf, dewch ataf; clywch, a byddwch fyw. Gwnaf � chwi gyfamod tragwyddol, fy ffyddlondeb sicr i Ddafydd.
4 Edrych, rhois ef yn dyst i'r bobl, yn arweinydd a chyfarwyddwr i'r bobl.
5 Edrych, byddi'n galw ar genedl nid adweini, a bydd cenedl nad yw'n dy adnabod yn rhedeg atat; oherwydd yr ARGLWYDD dy Dduw, o achos Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu."
6 Ceisiwch yr ARGLWYDD tra gellir ei gael, galwch arno tra bydd yn agos.
7 Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r un ofer ei fwriadau, a dychwelyd at yr ARGLWYDD, iddo drugarhau wrtho, ac at ein Duw ni, oherwydd fe faddau'n helaeth.
8 "Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i," medd yr ARGLWYDD.
9 "Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear, y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi.
10 Fel y mae'r glaw a'r eira yn disgyn o'r nefoedd, a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau'r ddaear, a gwneud iddi darddu a ffrwythloni, a rhoi had i'w hau a bara i'w fwyta,
11 felly y mae fy ngair sy'n dod o'm genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna'r hyn a ddymunaf, a llwyddo �'m neges.
12 "Mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn heddwch y'ch arweinir; bydd y mynyddoedd a'r bryniau'n bloeddio canu o'ch blaen, a holl goed y maes yn curo dwylo.
13 Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain, a myrtwydd yn lle mieri; bydd hyn yn glod i'r ARGLWYDD, yn arwydd tragwyddol na ddileir mohono."