Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

57

1 Y mae'r cyfiawn yn darfod amdano heb neb yn malio; cymerir ymaith bobl deyryngar heb neb yn malio. Ond cyn dyfod drygfyd cymerir ymaith y cyfiawn,
2 ac fe � i dangnefedd; a gorffwyso yn ei wely y bydd y sawl sy'n rhodio'n gywir.
3 "Dewch yma, chwi blant hudoles, epil y godinebwr a'r butain.
4 Pwy yr ydych yn ei wawdio? Ar bwy yr ydych yn gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod? Onid plant gwrthryfelgar ydych, ac epil twyll,
5 chwi sy'n llosgi gan nwyd dan bob pren derw, dan bob pren gwyrddlas, ac yn aberthu plant yn y glynnoedd, yn holltau'r clogwyni?
6 Ymhlith cerrig llyfn y dyffryn y mae dy ddewis; yno y mae dy ran. Iddynt hwy y tywelltaist ddiodoffrwm, ac y dygaist fwydoffrwm. A gaf fi fy nhawelu am hyn?
7 Gwnaethost dy wely ar fryn uchel a dyrchafedig, a mynd yno i offrymu aberth.
8 Gosodaist dy arwydd ar gefn y drws a'r pyst, a'm gadael i a'th ddinoethi dy hun; aethost i fyny yno i daenu dy wely ac i daro bargen � hwy. 'Rwyt wrth dy fodd yn gorwedd gyda hwy, a gweld eu noethni.
9 Ymwelaist � Molech gydag olew, ac amlhau dy beraroglau; anfonaist dy negeswyr i bob cyfeiriad, a'u gyrru hyd yn oed i Sheol.
10 Blinaist gan amlder dy deithio, ond ni ddywedaist, 'Dyna ddigon.' Enillaist dy gynhaliaeth, ac am hynny ni ddiffygiaist.
11 "Pwy a wnaeth iti arswydo ac ofni, a gwneud iti fod yn dwyllodrus, a'm hanghofio, a pheidio � meddwl amdanaf? Oni f�m ddistaw, a hynny'n hir, a thithau heb fy ofni?
12 Cyhoeddaf dy gyfiawnder a'th weithredoedd. Ni fydd dy eilunod o unrhyw les iti;
13 pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu. Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd, ac awel yn eu chwythu i ffwrdd. Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fi yn meddiannu'r ddaear, ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd."
14 Fe ddywedir, "Gosodwch sylfaen, paratowch ffordd; symudwch bob rhwystr oddi ar ffordd fy mhobl."
15 Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig, sydd �'i drigfan yn nhragwyddoldeb, a'i enw'n Sanctaidd: "Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd, 'rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd, i adfywio'r rhai isel eu hysbryd, a bywhau calon y rhai cystuddiol.
16 Ni fyddaf yn ymryson am byth nac yn dal dig yn dragywydd, rhag i'w hysbryd ballu o'm blaen; oherwydd myfi a greodd eu hanadl.
17 Digiais wrtho am ei wanc pechadurus, a'i daro, a throi mewn dicter oddi wrtho; aeth yntau rhagddo'n gyndyn yn ei ffordd ei hun,
18 ond gwelais y ffordd yr aeth. Iach�f ef, a rhoi gorffwys iddo;
19 cysuraf ef, a rhoi geiriau cysur i'w alarwyr. Heddwch i'r pell ac i'r agos," medd yr ARGLWYDD, "a mi a'i hiach�f ef."
20 Ond y mae'r drygionus fel m�r tonnog na fedr ymdawelu, a'i ddyfroedd yn corddi llaid a baw.
21 "Nid oes heddwch i'r drygionus," medd fy Nuw.