Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

59

1 Nid aeth llaw'r ARGLWYDD yn rhy fyr i achub, na'i glust yn rhy drwm i glywed;
2 ond eich camweddau chwi a ysgarodd rhyngoch a'ch Duw, a'ch pechodau chwi a barodd iddo guddio'i wyneb fel nad yw'n eich clywed.
3 Y mae'ch dwylo'n halogedig gan waed, a'ch bysedd gan gamwedd; y mae'ch gwefusau'n dweud celwydd, a'ch tafod yn sibrwd twyll.
4 Nid oes erlynydd teg na diffynnydd gonest, ond y maent yn ymddiried mewn gwegi ac yn llefaru twyll, yn feichiog o niwed ac yn esgor ar ddrygioni.
5 Y maent yn deor wyau gwiberod, ac yn nyddu gwe pryf' copyn; os bwyti o'r wyau, byddi farw; os torri un, daw neidr allan.
6 Nid yw gwe pryf' copyn yn gwneud dillad; nid oes neb yn gwneud gwisg ohoni; ofer yw eu gweithredoedd i gyd, a'u dwylo'n llunio trais.
7 Y mae eu traed yn rhuthro at gamwedd, ac yn brysio i dywallt gwaed diniwed; bwriadau maleisus yw eu bwriadau, distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd;
8 ni wyddant am ffordd heddwch, nid oes cyfiawnder ar eu llwybrau; y mae eu ffyrdd i gyd yn gam, ac nid oes heddwch i neb sy'n eu cerdded.
9 Am hynny, ciliodd barn oddi wrthym, ac nid yw cyfiawnder yn cyrraedd atom; edrychwn am oleuni, ond tywyllwch a gawn, am ddisgleirdeb, ond mewn caddug y cerddwn;
10 'rydym yn ymbalfalu ar y pared fel deillion, yn ymbalfalu fel rhai heb lygaid; 'rydym yn baglu ganol dydd fel pe bai'n gyfnos, fel y meirw yn y cysgodion.
11 'Rydym i gyd yn chwyrnu fel eirth, yn cwyno ac yn cwyno fel colomennod; 'rydym yn disgwyl am gyfiawnder, ond nis cawn, am iachawdwriaeth, ond ciliodd oddi wrthym.
12 Y mae ein troseddau yn niferus ger dy fron, a'n pechodau yn tystio yn ein herbyn; y mae'n troseddau'n amlwg inni, ac yr ydym yn cydnabod ein camweddau:
13 gwrthryfela a gwadu'r ARGLWYDD, troi ymaith oddi wrth ein Duw, llefaru trawster a gwrthgilio, myfyrio a dychmygu geiriau celwyddog.
14 Gwthir barn o'r neilltu, ac y mae cyfiawnder yn cadw draw, oherwydd cwympodd gwirionedd ar faes y dref, ac ni all uniondeb ddod i mewn.
15 Y mae gwirionedd yn eisiau, ac ysbeilir yr un sy'n ymwrthod � drygioni. Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, ac yr oedd yn ddrwg yn ei olwg nad oedd barn i'w chael.
16 Gwelodd nad oedd neb yn malio, rhyfeddodd nad oedd neb yn ymyrryd; yna daeth ei fraich ei hun � buddugoliaeth iddo, a chynhaliodd ei gyfiawnder ef.
17 Gwisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; gwisgodd ddillad dialedd, a rhoi eiddigedd fel mantell amdano.
18 Bydd yn talu i bawb yn �l ei haeddiant � llid i'w wrthwynebwyr, cosb i'w elynion; bydd yn rhoi eu haeddiant i'r ynysoedd.
19 Felly, ofnant enw'r ARGLWYDD yn y gorllewin, a'i ogoniant yn y dwyrain; oherwydd fe ddaw fel afon mewn llif yn cael ei gyrru gan ysbryd yr ARGLWYDD.
20 "Fe ddaw gwaredydd i Seion, at y rhai yn Jacob sy'n cefnu ar wrthryfel," medd yr ARGLWYDD.
21 "Dyma," medd yr ARGLWYDD, "fy nghyfamod � hwy. Bydd fy ysbryd i arnat, a gosodaf fy ngeiriau yn dy enau; nid ymadawant oddi wrthyt nac oddi wrth dy blant, na phlant dy blant, o'r pryd hwn hyd byth," medd yr ARGLWYDD.