1 Y mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf, oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion, a chysuro'r toredig o galon; i gyhoeddi rhyddid i'r caethion, a rhoi gollyngdod i'r carcharorion;
2 i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD a dydd dial ein Duw ni; i ddiddanu pawb sy'n galaru,
3 a gofalu am alarwyr Seion; a rhoi iddynt goron yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, mantell moliant yn lle digalondid. Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.
4 Ailadeiladant hen adfeilion, cyfodant fannau a fu'n anghyfannedd; atgyweiriant ddinasoedd diffaith ac anghyfanhedd�dra llawer oes.
5 Bydd dieithriaid yn gweini fel bugeiliaid i'ch praidd, ac estroniaid fydd eich garddwyr a'ch gwinllanwyr.
6 Gelwir chwi'n offeiriaid yr ARGLWYDD, a'ch enwi'n weinidogion ein Duw ni; cewch fwyta o olud y cenhedloedd ac ymffrostio yn eu cyfoeth.
7 Yn lle'r rhan ddwbl o gywilydd, yn lle'r gwarth a'r cwynfan a ddaeth i'w rhan, fe etifeddant ran ddwbl yn eu gwlad, a chael llawenydd di-baid.
8 "Oherwydd 'rwyf fi, yr ARGLWYDD, yn hoffi cyfiawnder, ac yn cas�u trais a chamwri; rhof iddynt eu gwobr yn ddi�feth, a gwnaf gyfamod tragwyddol � hwy.
9 Bydd eu plant yn adnabyddus ymysg y cenhedloedd, a'u hil ymhlith y bobloedd; bydd pawb fydd yn eu gweld yn eu cydnabod yn genedl a fendithiodd yr ARGLWYDD."
10 Llawenychaf yn fawr yn yr ARGLWYDD, gorfoleddaf yn fy Nuw; canys gwisgodd amdanaf wisgoedd iachawdwriaeth, taenodd fantell cyfiawnder drosof, fel y bydd priodfab yn gwisgo'i dorch, a phriodferch yn ei haddurno'i hun �'i thlysau.
11 Fel y gwna'r ddaear i'r blagur dyfu, a'r ardd i'r hadau egino, felly y gwna'r ARGLWYDD Dduw i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.