Welsh

Breton: Gospels

Jeremiah

21

1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD pan anfonodd y Brenin Sedeceia ato ef Pasur fab Malcheia a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia, a dweud,
2 "Ymofyn �'r ARGLWYDD drosom ni, oherwydd y mae Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn. Tybed a wna yr ARGLWYDD � ni yn �l ei holl ryfeddodau, a pheri iddo gilio ymaith oddi wrthym?"
3 Dywedodd Jeremeia wrthynt, "Dyma'r hyn a ddywedwch wrth Sedeceia:
4 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Wele fi'n troi arnoch chwi yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo i ymladd yn erbyn brenin Babilon a'r Caldeaid, sy'n gwarchae arnoch o'r tu allan i'r gaer; fe'u casglaf hwy i ganol y ddinas hon.
5 Byddaf fi fy hun yn rhyfela yn eich erbyn, a'm llaw wedi ei hestyn allan, a'm braich yn gref, mewn soriant a llid a digofaint mawr.
6 Trawaf drigolion y ddinas hon, yn ddyn ac yn anifail; byddant farw o haint mawr.
7 Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, rhof Sedeceia brenin Jwda a'i weision, a'r bobl a weddillir yn y ddinas hon wedi'r haint a'r cleddyf a'r newyn, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael eu gelynion a'r rhai a geisiai eu heinioes. Bydd ef yn eu taro � min y cleddyf, heb dosturio wrthynt nac arbed nac estyn trugaredd.'
8 "Wrth y bobl hyn hefyd dywed, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n gosod o'ch blaen ffordd bywyd a ffordd marwolaeth.
9 Bydd y sawl sy'n aros yn y ddinas hon yn marw drwy gleddyf neu newyn neu haint, a'r sawl sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Caldeaid sy'n gwarchae arnoch yn byw; bydd yn arbed ei fywyd.
10 Gosodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg ac nid er da, medd yr ARGLWYDD; fe'i rhoddir yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei llosgi � th�n.'
11 "Wrth du375? brenin Jwda dywed, 'Clyw air yr ARGLWYDD.
12 Tu375? Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Barnwch yn uniawn yn y bore, achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr, rhag i'm llid fynd allan yn d�n, a llosgi heb neb i'w ddiffodd, oherwydd eich gweithredoedd drwg.'
13 "Wele fi yn dy erbyn, ti breswylydd y dyffryn wrth graig y gwastadedd," medd yr ARGLWYDD. "Fe ddywedwch chwi, 'Pwy ddaw i waered yn ein herbyn? Pwy ddaw i mewn i'n gw�l?'
14 Talaf i chwi yn �l ffrwyth eich gweithredoedd," medd yr ARGLWYDD. "Cyneuaf d�n yn ei choedwig, ac ysa bob peth o'i hamgylch."