1 Yn nechrau teyrnasiad Sedeceia fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD.
2 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD: "Gwna i ti rwymau a barrau iau, a'u gosod ar dy war;
3 ac anfon at frenhinoedd Edom, Moab, Ammon, Tyrus a Sidon, trwy law'r cenhadau a ddaw i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda.
4 Gorchmynna iddynt ddweud hyn wrth eu meistriaid, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Fel hyn y dywedwch wrth eich meistriaid:
5 "�'m gallu mawr ac �'m braich estynedig gwneuthum y ddaear, a phobl, a'r anifeiliaid sydd ar wyneb y ddaear, a'u rhoi i'r sawl y gwelaf yn dda.
6 Yn awr, rhof y gwledydd hyn oll yn llaw fy ngwas Nebuchadnesar brenin Babilon, a rhof hyd yn oed yr holl anifeiliaid gwyllt iddo ef i'w wasanaethu.
7 Bydd yr holl genhedloedd yn ei wasanaethu ef a'i fab a mab ei fab, nes dod awr ei wlad yntau, a'i feistroli gan genhedloedd niferus a brenhinoedd mawrion.
8 Os bydd cenedl neu deyrnas heb wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, a heb roi ei gwar dan iau brenin Babilon, mi gosbaf y genedl honno �'r cleddyf a newyn a haint," medd yr ARGLWYDD, "nes imi ei dinistrio'n llwyr trwy ei law ef.
9 Peidiwch � gwrando ar eich proffwydi na'ch dewiniaid na'ch breuddwydwyr na'ch hudolion na'ch swynwyr, sy'n llefaru wrthych gan ddweud, 'Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.'
10 Oherwydd proffwydant gelwydd i chwi, er mwyn eich gyrru ymhell o'ch tir, ac i mi eich alltudio ac i chwi drengi.
11 Ond y genedl a rydd ei gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu, gadawaf honno yn ei thir," medd yr ARGLWYDD; "caiff ei drin a thrigo ynddo."'"
12 Lleferais wrth Sedeceia brenin Jwda hefyd yn unol �'r holl eiriau hyn, gan ddweud, "Rhowch eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu ef a'i bobl, er mwyn ichwi gael byw.
13 Pam y byddwch farw, ti a'th bobl, trwy'r cleddyf a newyn a haint, yn �l yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD am y genedl na fydd yn gwasanaethu brenin Babilon?
14 Peidiwch � gwrando ar eiriau'r proffwydi sy'n dweud wrthych, 'Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.' Oherwydd y maent yn proffwydo celwydd i chwi.
15 Yn wir, nid myfi a'u hanfonodd," medd yr ARGLWYDD, "ond proffwydo'n gelwyddog y maent yn fy enw i, er mwyn i mi eich alltudio chwi ac i chwi drengi, chwi a'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi."
16 Yna lleferais wrth yr offeiriaid a'r holl bobl hyn, gan ddweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Peidiwch � gwrando ar eiriau eich proffwydi sy'n proffwydo i chwi fod llestri tu375?'r ARGLWYDD i'w dwyn yn �l o Fabilon yn awr ar fyrder. Y maent yn proffwydo celwydd i chwi;
17 peidiwch � gwrando arnynt, ond gwasanaethwch frenin Babilon, er mwyn ichwi gael byw. Pam y bydd y ddinas hon yn anghyfannedd?
18 Os proffwydi ydynt, ac os yw gair yr ARGLWYDD ganddynt, boed iddynt ymbil yn awr ar ARGLWYDD y Lluoedd rhag i'r llestri a adawyd yn nhu375?'r ARGLWYDD, ac yn nhu375? brenin Jwda ac yn Jerwsalem, fynd i Fabilon.'
19 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd ynghylch y colofnau, y m�r a'r trol�au, ac ynghylch gweddill y llestri a adawyd yn y ddinas hon,
20 heb eu cymryd ymaith gan Nebuchadnesar brenin Babilon pan gaethgludodd Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, o Jerwsalem i Fabilon, ynghyd � holl uchelwyr Jwda a Jerwsalem.
21 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ynghylch y llestri a adawyd yn nhu375?'r ARGLWYDD a thu375? brenin Jwda a Jerwsalem:
22 'I Fabilon y dygir hwy, ac yno y byddant hyd y dydd y ceisiaf fi hwy,' medd yr ARGLWYDD; 'yna fe'u cyrchaf a'u hadfer i'r lle hwn.'"