Welsh

Breton: Gospels

Jeremiah

36

1 Yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
2 "Cymer sgr�l, ac ysgrifenna arni yr holl eiriau a leferais wrthyt yn erbyn Israel a Jwda a'r holl genhedloedd, o'r dydd y dechreuais lefaru wrthyt, o ddyddiau Joseia hyd heddiw.
3 Efallai y bydd tu375? Jwda, pan glywant am yr holl ddinistr y bwriadaf ei ddwyn arnynt, yn troi, pob un o'i ffordd annuwiol, a minnau'n maddau iddynt eu drygioni a'u pechod."
4 Yna galwodd Jeremeia ar Baruch fab Nereia, ac wrth i Jeremeia lefaru ysgrifennodd Baruch yn y sgr�l yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia.
5 Yna rhoes y gorchymyn hwn i Baruch: "Fe'm rhwystrwyd i rhag mynd i du375?'r ARGLWYDD,
6 ond dos di, ac ar ddydd ympryd darllen o'r sgr�l, yng nghlyw'r bobl yn nhu375?'r ARGLWYDD, holl eiriau'r ARGLWYDD fel y lleferais hwy. Darllen hwy hefyd yng nghlyw holl bobl Jwda a ddaw o'u dinasoedd.
7 Efallai y derbynnir eu gweddi gan yr ARGLWYDD, ac y bydd pob un yn troi o'i ffordd ddrygionus, oherwydd y mae'r llid a'r digofaint a fynegodd yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl hyn yn fawr."
8 Gwnaeth Baruch fab Nereia bob peth a orchmynnodd y proffwyd Jeremeia iddo, a darllenodd yn nhu375?'r ARGLWYDD eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr.
9 Yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, yn y nawfed mis, cyhoeddwyd ympryd gerbron yr ARGLWYDD i drigolion Jerwsalem ac i'r holl bobl a ddaeth o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.
10 Yna darllenodd Baruch holl eiriau Jeremeia o'r sgr�l yng nghlyw'r holl bobl yn nhu375?'r ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia fab Saffan, yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf wrth y fynedfa i'r Porth Newydd yn nhu375?'r ARGLWYDD.
11 Pan glywodd Michaia fab Gemareia, fab Saffan, holl eiriau'r ARGLWYDD o'r llyfr,
12 aeth i lawr i du375?'r brenin, i ystafell yr ysgrifennydd, ac yno yr oedd yr holl swyddogion yn eistedd: Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia fab Semaia, ac Elnathan fab Achbor, a Gemareia fab Saffan, a Sedeceia fab Hananeia, a'r holl swyddogion.
13 Mynegodd Michaia iddynt bob peth a glywodd pan ddarllenodd Baruch o'r sgr�l yng nghlyw'r bobl.
14 Yna anfonodd yr holl swyddogion Jehudi fab Nethaneia, fab Selemeia, fab Cushi, at Baruch a dweud, "Cymer yn dy law y sgr�l a ddarllenaist yng nghlyw'r bobl, a thyrd." Cymerodd Baruch fab Nereia y sgr�l yn ei law, ac aeth atynt.
15 Dywedasant hwythau wrtho, "Eistedd yma, a darllen hi inni." Darllenodd Baruch,
16 a phan glywsant y geiriau, troesant at ei gilydd mewn braw, a dweud wrth Baruch, "Rhaid inni fynegi hyn i gyd i'r brenin."
17 Gofynasant i Baruch, "Eglura inni yn awr sut y bu iti ysgrifennu'r holl eiriau hyn a ddywedodd."
18 Atebodd Baruch, "Ef ei hun oedd yn llefaru wrthyf yr holl eiriau hyn, a minnau'n eu hysgrifennu ag inc ar y sgr�l."
19 Yna dywedodd y swyddogion wrth Baruch, "Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia, a pheidiwch � gadael i neb wybod lle'r ydych."
20 Yna aethant at y brenin i'r llys, ar �l iddynt gadw'r sgr�l yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd, a mynegwyd y cwbl yng nghlyw'r brenin.
21 Yna anfonwyd Jehudi gan y brenin i gyrchu'r sgr�l, a daeth yntau � hi o ystafell Elisama yr ysgrifennydd; a darllenodd Jehudi hi yng nghlyw'r brenin a'r holl swyddogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.
22 Y nawfed mis oedd hi, ac yr oedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy, a'r rhwyll d�n wedi ei chynnau o'i flaen.
23 Pan fyddai Jehudi wedi darllen tair neu bedair colofn, torrai'r brenin hwy � chyllell yr ysgrifennydd, a'u taflu i'w llosgi yn y rhwyll d�n, nes difa'r sgr�l gyfan yn y t�n.
24 Ond nid oedd y brenin na'i weision yn arswydo nac yn rhwygo'u dillad, wrth wrando ar yr holl eiriau hyn.
25 Pan ymbiliodd Elnathan a Delaia a Gemareia ar y brenin i beidio � llosgi'r sgr�l, ni wrandawai arnynt.
26 Yna gorchmynnodd y brenin i Jerahmeel fab y brenin a Seraia fab Asriel a Selemeia fab Abdiel ddal Baruch yr ysgrifennydd a Jeremeia y proffwyd; ond cuddiodd yr ARGLWYDD hwy.
27 Wedi i'r brenin losgi'r sgr�l a'r holl eiriau a ysgrifennodd Baruch o enau Jeremeia, daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
28 "Cymer sgr�l arall, ac ysgrifenna arni'r holl eiriau oedd yn y sgr�l gyntaf, yr un a losgodd Jehoiacim brenin Jwda.
29 A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Fe losgaist ti'r sgr�l hon, gan ddweud, "Pam yr ysgrifennaist arni fod brenin Babilon yn sicr o ddod ac anrheithio'r wlad hon, nes darfod dyn ac anifail oddi arni?"
30 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda: Ni bydd iddo neb i eistedd ar orsedd Dafydd; teflir allan ei gelain i wres y dydd a rhew'r nos.
31 Ymwelaf ag ef ac �'i had a'i weision am eu drygioni, a dwyn arnynt hwy a thrigolion Jerwsalem a phobl Jwda yr holl ddinistr a leferais yn eu herbyn, a hwythau heb wrando.'"
32 Yna cymerodd Jeremeia sgr�l arall, a'i rhoi i Baruch fab Nereia, yr ysgrifennydd, ac ysgrifennodd ef ynddi o enau Jeremeia holl eiriau'r llyfr a losgodd Jehoiacim brenin Jwda. Ychwanegodd atynt hefyd lawer o eiriau tebyg.