1 Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynglu375?n �'r cenhedloedd,
2 am yr Aifft, ynglu375?n � lluoedd Pharo Necho brenin yr Aifft pan oeddent yn Carchemis yn ymyl yr Ewffrates, wedi i Nebuchadnesar brenin Babilon eu gorchfygu yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:
3 "Cymerwch fwcled a tharian, ewch yn eich blaen i'r frwydr.
4 Cenglwch y ceffylau, marchogwch y meirch, safwch yn barod, pawb �'i helm, gloywch eich gwaywffyn, gwisgwch eich llurigau.
5 Beth a welaf? Y maent mewn braw, ciliant yn �l, lloriwyd eu cedyrn; ffoesant ar ffrwst, heb edrych yn �l; dychryn ar bob llaw!" medd yr ARGLWYDD.
6 "Ni all y buan ffoi, na'r cadarn ddianc; tua'r gogledd ar lan yr Ewffrates y baglant ac y syrthiant.
7 "Pwy yw hon sy'n codi fel y Neil, fel afonydd �'u dyfroedd yn dygyfor?
8 Yr Aifft sy'n codi fel y Neil, fel afonydd �'u dyfroedd yn dygyfor. Ac meddai, 'Fe godaf a gorchuddio'r ddaear; dinistriaf bob dinas a'i thrigolion.'
9 Ymlaen, chwi feirch; rhuthrwch, chwi gerbydau rhyfel. Allan, chwi wu375?r cedyrn � Ethiopiaid a gwu375?r Put, sy'n dwyn tarian; gwu375?r o Lydia, sy'n arfer tynnu bwa.
10 Hwn yw dydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, dydd dialedd i ddial ar ei elynion. Ysa'r cleddyf nes syrffedu; meddwa ar eu gwaed. Canys bydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd yn cynnal aberth yng ngwlad y gogledd, wrth afon Ewffrates.
11 Dos i fyny i Gilead, a chymer falm, O wyryf, ferch yr Aifft; yn ofer y cymeraist gyffuriau lawer, canys ni fydd gwellhad i ti.
12 Fe glyw'r cenhedloedd am dy waradwydd, ac y mae dy waedd yn llenwi'r ddaear; cadarn yn syrthio yn erbyn cadarn, a'r ddau'n cwympo gyda'i gilydd."
13 Dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth y proffwyd Jeremeia pan oedd Nebuchadnesar brenin Babilon ar ddod i daro gwlad yr Aifft:
14 "Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch yn Migdol, hysbyswch yn Noff ac yn Tahpanhes; dywedwch, 'Saf, a bydd barod, canys y mae cleddyf yn ysu o'th amgylch.'
15 Pam yr ysgubwyd Apis ymaith, a pham na ddaliodd dy darw ei dir? Yr ARGLWYDD a'i bwriodd i lawr.
16 Parodd i luoedd faglu a syrthio y naill yn erbyn y llall. Dywedasant, 'Cyfodwch, dychwelwn at ein pobl, i wlad ein genedigaeth, rhag cleddyf y gorthrymwr.'
17 Rhowch yn enw ar Pharo brenin yr Aifft, 'Y Broliwr a gollodd ei gyfle'.
18 Cyn wired �'m bod yn fyw," medd y Brenin � ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw � "fe ddaw, fel Tabor ymhlith y mynyddoedd, a Charmel uwchlaw'r m�r.
19 Casgla iti becyn ar gyfer caethglud, ti, drigiannydd yr Aifft; canys bydd Noff yn anghyfannedd; fe'i difethir, a bydd heb breswylydd.
20 "Heffer gyda'r brydferthaf yw'r Aifft, ond daeth cleren o'r gogledd arni.
21 Yr oedd ei milwyr cyflog yn ei chanol fel lloi pasgedig; a throesant hwythau hefyd ymaith, a ffoi ynghyd, heb oedi; canys daeth dydd eu gofid arnynt, ac awr eu cosbi.
22 Y mae ei su373?n fel sarff yn hisian, canys daeth y gelyn yn llu, daeth yn ei herbyn � bwyeill; fel rhai yn cymynu coed,
23 torrant i lawr ei choedydd," medd yr ARGLWYDD. "Canys ni ellir eu rhifo; y maent yn amlach eu rhif na locustiaid, heb rifedi arnynt.
24 Cywilyddir merch yr Aifft, a'i rhoi yng ngafael pobl y gogledd."
25 Dywedodd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, "Byddaf yn cosbi Thebes, a Pharo a'r Aifft, a'i duwiau a'i brenhinoedd, Pharo a'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
26 Rhof hwy yng ngafael y rhai sy'n ceisio'u heinioes, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael ei weision; ac wedi hynny cyfanheddir hi fel o'r blaen," medd yr ARGLWYDD.
27 "Ond tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni; paid ag arswydo, Israel; canys dyma fi'n dy achub o bell, a'th had o wlad eu caethiwed. Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.
28 Tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni," medd yr ARGLWYDD, "canys yr wyf fi gyda thi; gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gyrrais di atynt; ond ni wnaf ddiwedd arnat ti. Disgyblaf di mewn barn, ni'th adawaf yn ddi-gosb."