1 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wele, mi godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon a phreswylwyr Caldea.
2 Anfonaf nithwyr i Fabilon; fe'i nithiant, a gwac�u ei thir; canys d�nt yn ei herbyn o bob tu yn nydd ei blinder.
3 Na thynned y saethwr ei fwa, na gwisgo'i lurig. Peidiwch ag arbed ei gwu375?r ifainc, difethwch yn llwyr ei holl lu.
4 Syrthiant yn farw yn nhir y Caldeaid, wedi eu trywanu yn ei heolydd hi.
5 Canys ni adewir Israel na Jwda yn weddw gan eu Duw, gan ARGLWYDD y Lluoedd; ond y mae gwlad y Caldeaid yn llawn euogrwydd yn erbyn Sanct Israel.
6 Ffowch o ganol Babilon, achubed pob un ei hunan. Peidiwch � chymryd eich difetha gan ei drygioni hi, canys amser dial yw hwn i'r ARGLWYDD; y mae ef yn talu'r pwyth iddi hi.
7 Cwpan aur oedd Babilon yn llaw'r ARGLWYDD, yn meddwi'r holl ddaear; byddai'r cenhedloedd yn yfed o'i gwin, a'r cenhedloedd felly'n mynd yn ynfyd.
8 Yn ddisymwth syrthiodd Babilon, a drylliwyd hi; udwch drosti! Cymerwch falm i'w dolur, i edrych a gaiff hi ei hiach�u.
9 Ceisiem iach�u Babilon, ond ni chafodd ei hiach�u; gadewch hi, ac awn bawb i'w wlad. Canys cyrhaeddodd ei barnedigaeth i'r nefoedd, a dyrchafwyd hi hyd yr wybren.
10 Bu i'r ARGLWYDD ein cyfiawnhau. Dewch, traethwn yn Seion waith yr ARGLWYDD ein Duw.
11 "Hogwch y saethau. Llanwch y cewyll. Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd brenhinoedd Media; canys y mae ei fwriad yn erbyn Babilon, i'w dinistrio. Dial yr ARGLWYDD yw hyn, dial am ei deml.
12 Codwch faner yn erbyn muriau Babilon; cryfhewch y wyliadwriaeth, a darparu gwylwyr a gosod cynllwynwyr; oherwydd bwriadodd a chwblhaodd yr ARGLWYDD yr hyn a lefarodd am drigolion Babilon.
13 Ti, ddinas aml dy drysorau, sy'n trigo gerllaw dyfroedd lawer, daeth diwedd arnat ac ar dy gribddeilio.
14 Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd iddo'i hun, 'Diau imi dy lenwi � phobl mor niferus �'r locustiaid; ond cenir c�n floddest yn dy erbyn.'"
15 Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth, sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, a thrwy ei ddeall estynnodd y nefoedd.
16 Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd, bydd yn peri i darth godi o eithafoedd y ddaear, yn gwneud mellt �'r glaw, ac yn dwyn allan wyntoedd o'i ystordai.
17 Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt.
18 Oferedd u375?nt, a gwaith i'w wawdio; yn amser eu cosbi fe'u difethir.
19 Nid yw Duw Jacob fel y rhain, canys ef yw lluniwr pob peth, ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
20 "Bwyell cad wyt ti i mi, ac erfyn rhyfel. � thi y drylliaf y cenhedloedd, ac y dinistriaf deyrnasoedd;
21 � thi y drylliaf y march a'i farchog, � thi y drylliaf y cerbyd a'r cerbydwr;
22 � thi y drylliaf u373?r a gwraig, � thi y drylliaf henwr a llanc, � thi y drylliaf u373?r ifanc a morwyn;
23 � thi y drylliaf y bugail a'i braidd, � thi y drylliaf yr amaethwr a'i wedd, � thi y drylliaf lywodraethwyr a'u swyddogion.
24 "Talaf yn �l i Fabilon ac i holl breswylwyr Caldea yn eich golwg chwi am yr holl ddrwg a wnaethant i Seion," medd yr ARGLWYDD.
25 "Dyma fi yn dy erbyn di, fynydd dinistr," medd yr ARGLWYDD, "dinistrydd yr holl ddaear. Estynnaf fy llaw yn dy erbyn, a'th dreiglo i lawr o'r creigiau, a'th wneud yn fynydd llosgedig.
26 Ni cheir ohonot faen congl na charreg sylfaen, ond byddi'n anialwch parhaol," medd yr ARGLWYDD.
27 "Codwch faner yn y tir, canwch utgorn ymysg y cenhedloedd, neilltuwch genhedloedd i ryfela yn ei herbyn; galwch yn ei herbyn y teyrnasoedd, Ararat, Minni ac Ascenas. Gosodwch gadlywydd yn ei herbyn, dygwch ymlaen feirch, mor niferus �'r locustiaid heidiog.
28 Neilltuwch genhedloedd yn ei herbyn, brenhinoedd Media a'i llywodraethwyr a'i swyddogion, a holl wledydd eu hymerodraeth.
29 Bydd y ddaear yn crynu ac yn gwingo mewn poen, oherwydd fe saif bwriadau'r ARGLWYDD yn erbyn Babilon, i wneud gwlad Babilon yn anialdir, heb neb yn trigo ynddo.
30 Peidiodd cedyrn Babilon ag ymladd; llechant yn eu hamddiffynfeydd; pallodd eu nerth, aethant fel gwragedd; llosgwyd eu tai, a thorrwyd barrau'r pyrth.
31 Rhed negesydd i gyfarfod negesydd, a chennad i gyfarfod cennad, i fynegi i frenin Babilon fod ei ddinas wedi ei goresgyn o'i chwr.
32 Enillwyd y rhydau, llosgwyd y corsydd � th�n, a daeth braw ar wu375?r y gwarchodlu.
33 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Y mae merch Babilon fel llawr dyrnu adeg ei fathru; ar fyrder daw amser ei chynhaeaf.'"
34 "Fe'm hyswyd ac fe'm hysigwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon; bwriodd fi heibio fel llestr gwag; fel draig fe'm llyncodd; llanwodd ei fol �'m rhannau danteithiol, a'm chwydu allan."
35 Dyweded preswylydd Seion, "Bydded ar Fabilon y trais a wnaed arnaf fi ac ar fy nghnawd!" Dyweded Jerwsalem, "Bydded fy ngwaed ar drigolion Caldea!"
36 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dyma fi'n dadlau dy achos, ac yn dial drosot; disbyddaf ei m�r hi, a sychaf ei ffynhonnau.
37 Bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa i siacaliaid; yn arswyd ac yn syndod, heb neb i breswylio ynddi.
38 "Rhuant ynghyd fel llewod, a chwyrnu fel cenawon llew.
39 Paraf i'w llymeitian ddarfod mewn twymyn, meddwaf hwy nes y byddant yn chwil, ac yn syrthio i drymgwsg diderfyn, diddeffro," medd yr ARGLWYDD.
40 "Dygaf hwy i waered, fel u373?yn i'r lladdfa, fel hyrddod neu fychod geifr.
41 "O fel y goresgynnwyd Babilon ac yr enillwyd balchder yr holl ddaear! O fel yr aeth Babilon yn syndod i'r cenhedloedd!
42 Ymchwyddodd y m�r yn erbyn Babilon, a'i gorchuddio �'i donnau terfysglyd.
43 Aeth ei dinasoedd yn ddiffaith, yn grastir ac anialdir, heb neb yn trigo ynddynt nac unrhyw un yn ymdaith trwyddynt.
44 Cosbaf Bel ym Mabilon, a thynnaf o'i safn yr hyn a lyncodd; ni ddylifa'r cenhedloedd ato ef mwyach, canys syrthiodd muriau Babilon.
45 Ewch allan ohoni, fy mhobl; achubed pob un ei hunan rhag angerdd llid yr ARGLWYDD.
46 "Gochelwch rhag i'ch calon lwfrhau, a pheidiwch ag ofni rhag chwedlau a daenir drwy'r wlad. Clywir si un flwyddyn, a si drachefn y flwyddyn wedyn; ceir trais yn y wlad a llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.
47 Oherwydd y mae'r dyddiau'n dod y cosbaf ddelwau Babilon; bydd yr holl wlad yn waradwydd, a'i lladdedigion i gyd yn syrthio yn ei chanol.
48 Yna fe orfoledda'r nefoedd a'r ddaear, a phob peth sydd ynddynt, yn erbyn Babilon, oherwydd daw anrheithwyr o'r gogledd yn ei herbyn," medd yr ARGLWYDD.
49 "Rhaid i Fabilon syrthio oherwydd lladdedigion Israel, fel y syrthiodd lladdedigion yr holl ddaear oherwydd Babilon.
50 Ewch heb oedi, chwi y rhai a ddihangodd rhag y cleddyf; cofiwch yr ARGLWYDD yn y pellteroedd, galwch Jerwsalem i gof.
51 'Gwaradwyddwyd ni,' meddwch, 'pan glywsom gerydd, gorchuddiwyd ein hwyneb � gwarth, canys daeth estroniaid i gynteddoedd sanctaidd tu375?'r ARGLWYDD.'
52 "Am hynny, dyma'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "y cosbaf ei delwau ac y griddfana'r rhai clwyfedig trwy'r holl wlad.
53 Er i Fabilon ddyrchafu i'r nefoedd, a diogelu ei hamddiffynfa uchel, daw ati anrheithwyr oddi wrthyf fi," medd yr ARGLWYDD.
54 "Clyw! Daw gwaedd o Fabilon, dinistr mawr o wlad y Caldeaid.
55 Oherwydd anrheithia'r ARGLWYDD Fabilon, a distewi ei su373?n mawr. Bydd ei thonnau'n rhuo fel dyfroedd yn dygyfor, a'i thwrf yn codi.
56 Oblegid daw anrheithiwr yn ei herbyn, yn erbyn Babilon; delir ei chedyrn, dryllir eu bwa, oherwydd bydd yr ARGLWYDD, Duw dial, yn talu iddynt yn llawn.
57 Meddwaf ei thywysogion a'i doethion, ei llywodraethwyr a'i swyddogion, a'i gwu375?r cedyrn; cysgant hun ddiderfyn, ddiddeffro," medd y Brenin � ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
58 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Dryllir i'r llawr furiau llydan Babilon; llosgir ei phyrth uchel � th�n; yn ofer y llafuriodd y bobloedd, a bydd ymdrech y cenhedloedd yn gorffen mewn t�n."
59 Dyma hanes gorchymyn y proffwyd Jeremeia i Seraia fab Nereia, fab Maaseia, pan aeth i Fabilon gyda Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad. Swyddog cyflenwi oedd Seraia.
60 Ysgrifennodd Jeremeia mewn llyfr yr holl aflwydd oedd i ddod ar Fabilon, yr holl eiriau hyn a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon.
61 A dywedodd Jeremeia wrth Seraia, "Pan ddoi i Fabilon, edrych ar hwn, a darllen yr holl eiriau hyn,
62 ac yna dywed, 'O ARGLWYDD, lleferaist yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio, fel na byddai ynddo na dyn nac anifail yn byw, ond iddo fod yn anghyfannedd tragwyddol.'
63 Pan orffenni ddarllen y llyfr, rhwyma garreg wrtho a'i fwrw i ganol afon Ewffrates,
64 a dywed, 'Fel hyn y suddir Babilon; ni fydd yn codi mwyach wedi'r dinistr a ddygaf arni; a diffygiant.'" Dyma ddiwedd geiriau Jeremeia.