1 "Ffowch, blant Benjamin, o ganol Jerwsalem. Canwch utgorn yn Tecoa, a chodwch ffagl ar Beth-hacerem, oherwydd y mae drwg yn crynhoi o'r gogledd, a dinistr mawr.
2 Yr wyf am ddinistrio merch Seion, y ferch deg, foethus.
3 Fe ddaw bugeiliaid �'u praidd hyd ati, gosodant bebyll o'i chylch, a phorant bob un yn ei lain ei hun.
4 'Paratowch ryfel sanctaidd yn ei herbyn; codwch, awn i fyny ganol dydd. Gwae ni! Ciliodd y dydd ac y mae cysgodau'r hwyr yn ymestyn.
5 Codwch, awn i fyny liw nos a distrywiwn ei phalasau.'"
6 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem; hon yw'r ddinas i'w chosbi, nid oes dim ond gorthrymder o'i mewn.
7 Fel y mae dyfroedd yn tarddu mewn ffynnon, felly y mae ei drygioni ynddi hi. Am drais ac ysbail y clywir ynddi; gwaeledd a chleisiau sydd yn wastad ger fy mron.
8 Cymer wers, O Jerwsalem, rhag i mi dy adael yn llwyr, rhag i mi dy wneud yn anrhaith, yn dir anghyfannedd."
9 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Lloffa weddill Israel yn l�n, fel lloffa gwinwydd; fel casglwr grawnwin tyn dy law eilwaith dros y brigau."
10 � phwy y llefaraf i'w rhybuddio, a pheri iddynt glywed? Wele, y mae eu clust yn gaeedig, ac ni allant ddal sylw. Wele, y mae gair yr ARGLWYDD yn ddirmyg iddynt; nid ydynt yn ei ddymuno.
11 Yr wyf finnau'n llawn o lid yr ARGLWYDD; yr wyf wedi blino ar ymatal. "Tywelltir ef ar y plant yn yr heol, ac ar gynulliadau'r ifainc hefyd; delir y gu373?r a'r wraig fel ei gilydd, yr hynafgwr a'r aeddfed mewn dyddiau.
12 Trosglwyddir eu tai i eraill, a'u meysydd a'u gwragedd ynghyd; canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad," medd yr ARGLWYDD.
13 "o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt, y mae pob un yn awchu am elw; o'r proffwyd i'r offeiriad, y maent bob un yn gweithredu'n ffals.
14 Dim ond yn arwynebol y maent wedi iach�u briw fy mhobl, gan ddweud, 'Heddwch! Heddwch!' � ac nid oes heddwch.
15 A oes arnynt gywilydd pan wn�nt ffieidd-dra? Dim cywilydd o gwbl, ac ni allant wrido. Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig; yn nydd eu cosbi fe gwympant," medd yr ARGLWYDD.
16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys." Ond dywedasant, "Ni rodiwn ni ddim ynddi."
17 "Gosodaf wylwyr drosoch," meddai, "gwrandewch ar sain yr utgorn." Ond dywedasant, "Ni wrandawn ni ddim."
18 "Am hynny clywch, genhedloedd, a gwybydd, gynulliad, beth a ddigwydd iddynt.
19 Clyw, wlad, rwyf am ddwyn drwg ar y bobl hyn, ffrwyth eu bwriadau hwy eu hunain. Ni wrandawsant ar fy ngeiriau, a gwrthodasant fy nghyfraith.
20 Pam y cludir i mi thus o Sheba, a chorsen b�r o wlad bell? Nid oes pleser i mi yn eich poethoffrwm, na boddhad yn eich aberth."
21 Am hynny fe ddywed yr ARGLWYDD, "Rwyf am osod i'r bobl hyn feini tramgwydd a'u dwg i lawr; tadau a phlant ynghyd, cymydog a chyfaill, fe'u difethir."
22 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wele, y mae pobl yn dod o dir y gogledd; cenedl gref yn ymysgwyd o bellafoedd y ddaear.
23 Gafaelant mewn bwa a gwaywffon, y maent yn greulon a didostur; y mae eu twrf fel y m�r yn rhuo, marchogant feirch, a dod yn rhengoedd, fel gwu375?r yn mynd i ryfela, yn dy erbyn di, ferch Seion."
24 Clywsom y newydd amdanynt, a llaesodd ein dwylo; daliwyd ni gan ddychryn, gwewyr fel gwraig yn esgor.
25 Paid � mynd allan i'r maes, na rhodio ar y ffordd, oherwydd y mae gan y gelyn gleddyf, ac y mae dychryn ar bob llaw.
26 Merch fy mhobl, gwisga sachliain, ymdreigla yn y lludw; gwna alarnad fel am unig blentyn, galarnad chwerw; oherwydd yn ddisymwth y daw'r distrywiwr arnom.
27 "Gosodais di yn safonwr ac yn brofwr ymhlith fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffyrdd.
28 Y maent i gyd yn gyndyn ac ystyfnig, yn byw yn enllibus. Pres a haearn ydynt; y maent i gyd yn peri distryw.
29 Y mae'r fegin yn chwythu'n gryf, a'r plwm wedi darfod gan y t�n; yn ofer y toddodd y toddydd, oherwydd ni symudwyd y drygioni.
30 Arian gwrthodedig y gelwir hwy, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD hwy."