1 O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau! Wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl.
2 O na bai gennyf yn yr anialwch lety fforddolion! Gadawn fy mhobl, a mynd i ffwrdd oddi wrthynt. Canys y maent oll yn odinebwyr, ac yn gwmni o dwyllwyr.
3 "Plygasant eu tafod, fel bwa, i gelwydd; ac nid ar bwys gwirionedd yr aethant yn gryf yn y wlad. Aethant o un drwg i'r llall, ac nid ydynt yn fy adnabod i," medd yr ARGLWYDD.
4 "Gocheled pob un ei gymydog, ac na rodded neb goel ar ei berthynas; canys yn sicr disodlwr yw pob perthynas, ac enllibiwr yw pob cymydog.
5 Y mae pob un yn twyllo'i gymydog, heb ddweud y gwir; dysgodd i'w dafod ddweud celwydd, troseddodd, ac ymflino nes methu edifarhau.
6 Pentyrrant ormes ar ormes, twyll ar dwyll; gwrthodant fy adnabod i," medd yr ARGLWYDD.
7 Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Rwyf am eu toddi a'u puro hwy. Beth arall a wnaf o achos merch fy mhobl?
8 Saeth yn lladd yw eu tafod; y mae'n llefaru'n dwyllodrus. Y mae'n traethu heddwch wrth ei gymydog, ond yn ei galon yn gosod cynllwyn iddo.
9 Onid ymwelaf � hwy am y pethau hyn?" medd yr ARGLWYDD. "Oni ddialaf ar y fath genedl � hon?
10 Codaf wylofain a chwynfan am y mynyddoedd, a galarnad am lanerchau'r anialwch; canys y maent wedi eu dinistrio fel nad � neb heibio, ac ni chlywant fref y gwartheg; y mae adar y nef a'r anifeiliaid hefyd wedi ffoi ymaith.
11 Gwnaf Jerwsalem yn garneddau ac yn drigfan bleiddiaid; a gwnaf ddinasoedd Jwda yn ddiffeithwch heb breswylydd."
12 Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall hyn? Wrth bwy y traethodd genau yr ARGLWYDD, er mwyn iddo fynegi? Pam y dinistriwyd y tir, a'i ddifa fel anialwch heb neb yn ei dramwyo?
13 Dywedodd yr ARGLWYDD, "Am iddynt wrthod fy nghyfraith a roddais o'u blaen hwy, heb ei dilyn a heb wrando ar fy llais,
14 ond rhodio yn �l ystyfnigrwydd eu calon, a dilyn Baalim, fel y dysgodd eu hynafiaid iddynt,
15 am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Wele, bwydaf y bobl hyn � wermod, a'u diodi � du373?r gwenwynig.
16 Gwasgaraf hwy ymysg cenhedloedd nad ydynt hwy na'u hynafiaid wedi eu hadnabod, ac anfonaf gleddyf ar eu h�l nes gorffen eu difetha."
17 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Ystyriwch! Galwch ar y galar-wragedd i ddod; anfonwch am y gwragedd medrus, iddynt hwythau ddod.
18 Bydded iddynt frysio, a chodi cwynfan amdanom, er mwyn i'n llygaid ollwng dagrau, a'n hamrannau ddiferu du373?r.
19 Canys clywyd su373?n cwynfan o Seion, 'Pa fodd yr aethom yn anrhaith, a'n gwaradwyddo yn llwyr? Gadawsom ein gwlad, bwriwyd i lawr ein trigfannau.'"
20 Clywch, wragedd, air yr ARGLWYDD, a derbynied eich clust air ei enau ef. Dysgwch gwynfan i'ch merched, a galargan bawb i'w gilydd.
21 Y mae angau wedi dringo trwy ein ffenestri, a dod i'n palasau, i ysgubo'r plant o'r heolydd a'r rhai ifainc o'r lleoedd agored.
22 Llefara, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Bydd celaneddau yn disgyn fel tom ar wyneb maes, fel ysgubau ar �l y medelwr heb neb i'w cynnull.'"
23 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, na'r cryf yn ei gryfder, na'r cyfoethog yn ei gyfoeth.
24 Ond y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn hyn: ei fod yn fy neall ac yn fy adnabod i, mai myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n gweithredu'n ffyddlon, yn gwneud barn a chyfiawnder ar y ddaear, ac yn ymhyfrydu yn y pethau hyn," medd yr ARGLWYDD.
25 "Wele'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "pan gosbaf bob cenedl enwaededig,
26 sef yr Aifft, Jwda ac Edom, plant Ammon a Moab, a phawb o drigolion yr anialwch sydd �'u talcennau'n foel. Oherwydd y mae'r holl genhedloedd yn ddienwaededig, a holl du375? Israel heb enwaedu arnynt yn eu calon."