Welsh

Breton: Gospels

Lamentations

2

1 o'r fath dywyllwch a ddygodd yr Arglwydd ar ferch Seion yn ei ddig! Bwriodd ogoniant Israel o'r nefoedd i'r llawr, ac ni chofiodd am ei droedfainc yn nydd ei ddicter.
2 Difethodd yr Arglwydd yn ddiarbed holl drigfannau Jacob; yn ei ddigofaint dinistriodd amddiffynfeydd merch Jwda; taflodd i lawr a difwynodd y deyrnas a'i phenaethiaid.
3 Yn angerdd ei ddig torrodd gyrn Israel i gyd; tynnodd yn �l ei ddeheulaw wrth i'r gelyn ymosod; llosgodd yn Jacob fel fflam d�n yn difa popeth o'i hamgylch.
4 Fel gelyn parat�dd ei fwa, safodd �'i ddeheulaw'n barod, ac fel gwrthwynebwr fe laddodd y cyfan oedd yn ddymunol i'r llygad; tywalltodd ei lid fel t�n ar babell merch Seion.
5 Y mae'r Arglwydd wedi troi'n elyn ac wedi difetha Israel; difethodd ei holl balasau, a dinistrio'i hamddiffynfeydd; gwnaeth i alar a gofid gynyddu i ferch Jwda.
6 Chwalodd ei babell fel chwalu gardd, a dinistrio'r man cyfarfod; gwnaeth yr ARGLWYDD i Seion anghofio ei gu373?yl a'i Saboth; yn angerdd ei lid dirmygodd frenin ac offeiriad.
7 Gwrthododd yr Arglwydd ei allor, a ffieiddio'i gysegr; rhoddodd furiau ei phalasau yn llaw'r gelyn; gwaeddasant hwythau yn nhu375?'r ARGLWYDD fel ar ddydd gu373?yl.
8 Yr oedd yr ARGLWYDD yn benderfynol o ddinistrio mur merch Seion; gosododd linyn mesur arni, ac ni thynnodd yn �l ei law rhag difetha. Gwnaeth i wrthglawdd a mur alaru; aethant i gyd yn wan.
9 Suddodd ei phyrth i'r ddaear; torrodd a maluriodd ef ei barrau. Y mae ei brenin a'i phenaethiaid ymysg y cenhedloedd, ac nid oes cyfraith mwyach; ni chaiff ei phroffwydi weledigaeth gan yr ARGLWYDD.
10 Y mae henuriaid merch Seion yn eistedd yn fud ar y ddaear, wedi taflu llwch ar eu pennau a gwisgo sachliain; y mae merched ifainc Jerwsalem wedi crymu eu pennau i'r llawr.
11 Dallwyd fy llygaid gan ddagrau; y mae f'ymysgaroedd mewn poen. Yr wyf yn tywallt fy nghalon allan o achos dinistr merch fy mhobl, ac am fod plant a babanod yn llewygu yn strydoedd y ddinas.
12 Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau, "Ple cawn ni rawn a gwin?" � wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedig yn strydoedd y ddinas, ac wrth iddynt ymladd am eu bywyd ym mynwes eu mamau.
13 Beth allaf ei ddweud o'th blaid, a beth a ddychmygaf amdanat, ferch Jerwsalem? I bwy y gallaf dy gyffelybu er mwyn dy gysur, y forwyn, ferch Seion? Y mae dy ddolur mor ddwfn �'r m�r, pwy a all dy iach�u?
14 Yr oedd gweledigaethau dy broffwydi yn gelwyddog a thwyllodrus; ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedd er mwyn adfer dy lwyddiant; yr oedd yr oraclau a roddasant iti yn gelwyddog a chamarweiniol.
15 Y mae pob un sy'n mynd heibio yn curo'i ddwylo o'th achos; y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennau ar ferch Jerwsalem: "Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch, ac yn llawenydd yr holl ddaear?"
16 Y mae dy holl elynion yn gweiddi'n groch yn dy erbyn, yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd; dywedant, "Yr ydym wedi ei difetha; dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano; yr ydym wedi cael ei weld!"
17 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a gynlluniodd; cyflawnodd ei fwriad, a drefnodd ers amser maith, a dinistriodd yn ddiarbed; gwnaeth i'r gelyn lawenhau o'th achos, a dyrchafu corn dy wrthwynebwyr.
18 Gwaedda ar yr Arglwydd, O fur merch Seion; tywallt ddagrau'n genllif ddydd a nos; paid ag ymatal na rhoi gorffwys i'th lygaid.
19 Cod, a gwaedda liw nos, ar gychwyn pob gwyliadwriaeth; tywallt dy galon fel du373?r o flaen yr Arglwydd; estyn dy ddwylo tuag ato am fywyd dy blant, sy'n llewygu gan newyn ym mhen pob stryd.
20 Edrych, ARGLWYDD, a gw�l. I bwy y gwnaethost hyn? A yw'r gwragedd i fwyta'u hepil, y plant y maent yn eu hanwesu? A leddir offeiriad a phroffwyd yng nghysegr yr Arglwydd?
21 Gorwedd yr ifanc a'r hen yn y llwch ar y strydoedd; y mae fy merched a'm dynion ifainc wedi syrthio trwy'r cleddyf; lleddaist hwy yn nydd dy ddicter, a'u difa'n ddiarbed.
22 Gelwaist ar fy ymosodwyr o bob cyfeiriad, fel ar ddydd gu373?yl; nid oedd un yn dianc nac yn cael ei arbed yn nydd dicter yr ARGLWYDD; lladdodd fy ngelyn bob un a anwesais ac a fegais.