1 Paul, carcharor Crist Iesu, a Timotheus ein brawd, at Philemon, ein cydweithiwr annwyl,
2 ac Apffia, ein chwaer, ac Archipus, ein cydfilwr; ac at yr eglwys sy'n ymgynnull yn dy du375?.
3 Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
4 Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser wrth gofio amdanat yn fy ngwedd�au,
5 oherwydd fy mod yn clywed am dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu ac at yr holl saint.
6 Yr wyf yn deisyf y bydd y ffydd, sy'n gyffredin i ti a ninnau, yn gyfrwng effeithiol i ddyfnhau dealltwriaeth o'r holl ddaioni sy'n eiddo i ni yng Nghrist.
7 Oherwydd cefais lawer o lawenydd a symbyliad trwy dy gariad, gan fod calonnau'r saint wedi eu llonni drwot ti, fy mrawd.
8 Gan hynny, er bod gennyf berffaith ryddid yng Nghrist i roi gorchymyn i ti ynglu375?n �'th ddyletswydd,
9 yr wyf yn hytrach, ar sail cariad, yn apelio atat. Ie, myfi, Paul, a mi'n llysgennad Crist Iesu, ac yn awr hefyd yn garcharor drosto,
10 apelio yr wyf atat ar ran fy mhlentyn, Onesimus, un y deuthum yn dad iddo yn y carchar.
11 Bu ef gynt yn ddi-fudd i ti, ond yn awr y mae'n fuddiol iawn i ti ac i minnau.
12 Yr wyf yn ei anfon yn �l atat, ac yntau bellach yn rhan ohonof fi.
13 Mi hoffwn ei gadw gyda mi, er mwyn iddo weini arnaf yn dy le di tra byddaf yng ngharchar o achos yr Efengyl.
14 Ond ni fynnwn wneud dim heb dy gydsyniad di, rhag i'th garedigrwydd fod o orfod, nid o wirfodd.
15 Efallai, yn wir, mai dyma'r rheswm iddo gael ei wahanu oddi wrthyt dros dro, er mwyn iti ei dderbyn yn �l am byth,
16 nid fel caethwas mwyach ond fel un sy'n fwy na chaethwas, yn frawd annwyl � annwyl iawn i mi, ond anwylach fyth i ti, fel dyn ac fel Cristion.
17 Os wyt, felly, yn fy ystyried i yn gymar, derbyn ef fel pe bait yn fy nerbyn i.
18 Os gwnaeth unrhyw gam � thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf fi.
19 Yr wyf fi, Paul, yn ysgrifennu �'m llaw fy hun: fe dalaf fi yn �l, a hynny heb s�n dy fod ti'n ddyledus i mi hyd yn oed amdanat dy hun.
20 Ie, frawd, mi fynnwn gael ffafr gennyt ti yn yr Arglwydd; llonna fy nghalon i yng Nghrist.
21 Yr wyf yn ysgrifennu atat mewn sicrwydd y byddi'n ufuddhau; gwn y byddi'n gwneud mwy nag yr wyf yn ei ofyn.
22 Yr un pryd hefyd, paratoa lety imi, oherwydd rwy'n gobeithio y caf fy rhoi i chwi mewn ateb i'ch gwedd�au.
23 Y mae Epaffras, fy nghydgarcharor yng Nghrist Iesu, yn dy gyfarch;
24 a Marc, Aristarchus, Demas a Luc, fy nghydweithwyr.
25 Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd chwi!