1 Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel �
2 i gael doethineb ac addysg, i ddeall geiriau deallus,
3 i dderbyn addysg fuddiol, cyfiawnder, barn, ac uniondeb,
4 i roi craffter i'r gwirion, a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc.
5 Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg, a'r deallus yn ennill medrusrwydd,
6 i ddeall dameg a'i dehongliad, dywediadau'r doeth a'u posau.
7 Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth, ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.
8 Fy mab, gwrando ar addysg dy dad, paid � gwrthod cyfarwyddyd dy fam;
9 bydd yn dorch brydferth ar dy ben, ac yn gadwyn am dy wddf.
10 Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid, paid � chytuno � hwy.
11 Fe ddywedant, "Tyrd gyda ni, inni gynllwynio i dywallt gwaed, a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed;
12 fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll;
13 fe gymerwn bob math ar gyfoeth, a llenwi ein tai ag ysbail;
14 bwrw dy goelbren gyda ni, a bydd un pwrs rhyngom i gyd."
15 Fy mab, paid � mynd yr un ffordd � hwy; cadw dy droed oddi ar eu llwybr.
16 Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg, ac yn prysuro i dywallt gwaed.
17 Yn sicr, ofer yw gosod rhwyd yng ngolwg unrhyw aderyn hedegog.
18 Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio, ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain.
19 Dyma dynged pob un awchus am elw; y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau.
20 Y mae doethineb yn galw'n uchel yn y stryd, yn codi ei llais yn y sgw�r,
21 yn gweiddi ar ben y muriau, yn traethu ei geiriau ym mynedfa pyrth y ddinas.
22 Chwi'r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion, ac yr ymhyfryda'r gwatwarwyr mewn gwatwar, ac y cas� ffyliaid wybodaeth?
23 Os newidiwch eich ffyrdd dan fy ngherydd, tywalltaf fy ysbryd arnoch, a gwneud i chwi ddeall fy ngeiriau.
24 Ond am i mi alw, a chwithau heb ymateb, ac imi estyn fy llaw, heb neb yn gwrando;
25 am i chwi ddiystyru fy holl gyngor, a gwrthod fy ngherydd �
26 am hynny, chwarddaf ar eich dinistr, a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch,
27 pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt, a dinistr yn taro fel storm, pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch.
28 Yna galwant arnaf, ond nid atebaf; fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael.
29 Oherwydd iddynt gas�u gwybodaeth, a throi oddi wrth ofn yr ARGLWYDD,
30 a gwrthod fy nghyngor, ac anwybyddu fy holl gerydd,
31 c�nt fwyta o ffrwyth eu ffyrdd, a syrffedu ar eu cynlluniau.
32 Oherwydd bydd anufudd-dod y gwirion yn eu lladd, a difrawder y ffyliaid yn eu difa.
33 Ond bydd yr un a wrendy arnaf yn byw'n ddiogel, yn dawel heb ofni drwg.