Welsh

Breton: Gospels

Proverbs

10

1 Dyma ddiarhebion Solomon: Y mae mab doeth yn gwneud ei dad yn llawen, ond mab ff�l yn dwyn gofid i'w fam.
2 Nid oes elw o drysorau a gaed mewn drygioni, ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag marwolaeth.
3 Nid yw'r ARGLWYDD yn gadael i'r cyfiawn newynu, ond y mae'n siomi chwant y rhai drwg.
4 Y mae llaw segur yn dwyn tlodi, ond llaw ddiwyd yn peri cyfoeth.
5 Y mae mab sy'n cywain yn yr haf yn ddeallus, ond un sy'n cysgu trwy'r cynhaeaf yn dod � chywilydd.
6 Bendithion sy'n disgyn ar y cyfiawn, ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
7 Y mae cofio'r cyfiawn yn dwyn bendith, ond y mae enw'r drwg yn diflannu.
8 Y mae'r doeth yn derbyn gorchymyn, ond y ff�l ei siarad yn cael ei ddifetha.
9 Y mae'r un sy'n byw'n uniawn yn cerdded yn ddiogel, ond darostyngir yr un sy'n gwyrdroi ei ffyrdd.
10 Y mae wincio �'r llygad yn achosi helbul, ond cerydd agored yn peri heddwch.
11 Ffynnon bywyd yw geiriau'r cyfiawn, ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
12 Y mae casineb yn achosi cynnen, ond y mae cariad yn cuddio pob trosedd.
13 Ar wefusau'r deallus ceir doethineb, ond rhoddir gwialen ar gefn y disynnwyr.
14 Y mae'r doeth yn trysori deall, ond dwyn dinistr yn agos a wna siarad ff�l.
15 Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn, ond dinistr y tlawd yw ei dlodi.
16 Cyflog y cyfiawn yw bywyd, ond cynnyrch y drwg yw pechod.
17 Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd, ond gwrthod cerydd yn arwain ar ddisberod.
18 Y mae gwefusau twyllodrus yn anwesu casineb, a ff�l yw'r un sy'n enllibio.
19 Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo, ond y mae'r deallus yn atal ei eiriau.
20 Y mae tafod y cyfiawn fel arian dethol, ond diwerth yw calon yr un drwg.
21 Y mae geiriau'r cyfiawn yn cynnal llawer, ond y mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr.
22 Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth, ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi.
23 Gwneud anlladrwydd sy'n ddifyrrwch i'r ff�l, ond doethineb yw hyfrydwch y deallus.
24 Yr hyn a ofna a ddaw ar y drygionus, ond caiff y cyfiawn ei ddymuniad.
25 Ar �l y storm, ni bydd s�n am y drygionus, ond y mae sylfaen y cyfiawn yn dragwyddol.
26 Fel finegr i'r dannedd, neu fwg i'r llygaid, felly y mae'r diogyn i'w feistr.
27 Y mae ofn yr ARGLWYDD yn estyn dyddiau, ond mae blynyddoedd y rhai drygionus yn cael eu byrhau.
28 Y mae gobaith y cyfiawn yn troi'n llawenydd, ond derfydd gobaith y drygionus.
29 Y mae ffordd yr ARGLWYDD yn noddfa i'r uniawn, ond yn ddinistr i'r rhai a wna ddrwg.
30 Ni symudir y cyfiawn byth, ond nid erys y drygionus ar y ddaear.
31 Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb, ond torrir ymaith y tafod twyllodrus.
32 Gu373?yr gwefusau'r cyfiawn beth sy'n gymeradwy, ond twyllodrus yw genau'r drygionus.