1 Gwell yw'r tlawd sy'n byw'n onest na'r un twyllodrus ei eiriau, ac yntau'n ynfyd.
2 Nid oes gwerth mewn brwdfrydedd heb ddeall; y mae'r chwim ei droed yn colli'r ffordd.
3 Ffolineb rhywun sy'n difetha'i ffordd, ond yn erbyn yr ARGLWYDD y mae'n dal dig.
4 Y mae cyfoeth yn amlhau cyfeillion, ond colli ei gyfaill y mae'r tlawd.
5 Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb, ac ni ddianc yr un sy'n dweud celwydd.
6 Y mae llawer yn ceisio ffafr pendefig, a phawb yn gyfaill i'r sawl sy'n rhoi.
7 Y mae holl frodyr y tlawd yn ei gas�u; gymaint mwy y pellha'i gyfeillion oddi wrtho! Y mae'n eu dilyn � geiriau, ond nid ydynt yno.
8 Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd, a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni.
9 Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb, a difethir yr un sy'n dweud celwydd.
10 Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd, na rheoli tywysogion i gaethwas.
11 Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar, a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.
12 Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc, ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt.
13 Y mae mab ynfyd yn ddinistr i'w dad, a checru gwraig fel diferion parhaus.
14 Oddi wrth rieni yr etifeddir tu375? a chyfoeth, ond gan yr ARGLWYDD y ceir gwraig ddeallus.
15 Y mae segurdod yn dwyn trymgwsg, ac i'r diogyn daw newyn.
16 Y mae'r un sy'n cadw gorchymyn yn ei ddiogelu ei hun, ond bydd y sawl sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw.
17 Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD, ac fe d�l ef yn �l iddo am ei weithred.
18 Cerydda dy fab tra bo gobaith iddo, ond gofala beidio �'i ladd.
19 Daw cosb ar y gwyllt ei dymer; er iti ei helpu, rhaid gwneud hynny eto.
20 Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth, er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd.
21 Niferus yw bwriadau meddwl pobl, ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll.
22 Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch, a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog.
23 Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd, a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed.
24 Er i'r diogyn wthio'i law i'r ddysgl, eto nid yw'n ei chodi at ei enau.
25 Os curi'r gwatwarwr, bydd y gwirion yn dysgu gwers; os ceryddi'r deallus, ef ei hun sy'n ennill gwybodaeth.
26 Y mae'r sawl sy'n cam-drin ei dad ac yn diarddel ei fam yn fab gwaradwyddus ac amharchus.
27 Fy mab, os gwrthodi wrando ar gerydd, byddi'n troi oddi wrth eiriau gwybodaeth.
28 Y mae tyst anonest yn gwatwar barn, a genau'r drygionus yn parablu camwedd.
29 Trefnwyd cosb ar gyfer gwatwarwyr, a chernodiau i gefn ynfydion.