1 Paid � chenfigennu wrth bobl ddrwg, na dymuno bod yn eu cwmni;
2 oherwydd y maent hwy'n meddwl am drais, a'u genau'n s�n am drybini.
3 Fe adeiledir tu375? trwy ddoethineb, a'i sicrhau trwy wybodaeth.
4 Trwy ddeall y llenwir ystafelloedd � phob eiddo gwerthfawr a dymunol.
5 Y mae'r doeth yn fwy grymus na'r cryf, a'r un deallus na'r un nerthol;
6 oherwydd gelli drefnu dy frwydr � medrusrwydd, a chael buddugoliaeth � llawer o gynghorwyr.
7 Y mae doethineb allan o gyrraedd y ffu373?l; nid yw'n agor ei geg yn y porth.
8 Bydd yr un sy'n cynllunio i wneud drwg yn cael ei alw yn ddichellgar.
9 Y mae dichell y ffu373?l yn bechod, ac y mae pobl yn ffieiddio'r gwatwarwr.
10 Os torri dy galon yn nydd cyfyngder, yna y mae dy nerth yn wan.
11 Achub y rhai a ddygir i farwolaeth; rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd.
12 Os dywedi, "Ni wyddem ni am hyn", onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall? Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod, ac yn talu i bob un yn �l ei waith.
13 Fy mab, bwyta f�l, oherwydd y mae'n dda, ac y mae diliau m�l yn felys i'th enau.
14 Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd; os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol, ac ni thorrir ymaith dy obaith.
15 Paid � llechu fel drwgweithredwr wrth drigfan y cyfiawn, a phaid ag ymosod ar ei gartref.
16 Er i'r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd; ond fe feglir y drygionus gan adfyd.
17 Paid � llawenhau pan syrth dy elyn, nac ymfalch�o pan feglir ef,
18 rhag i'r ARGLWYDD weld, a bod yn anfodlon, a throi ei ddig oddi wrtho.
19 Na fydd ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.
20 Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg, a diffoddir goleuni'r drygionus.
21 Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin; paid � bod yn anufudd iddynt,
22 oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt, a phwy a u373?yr y distryw a achosant ill dau?
23 Dyma hefyd eiriau'r doethion: Nid yw'n iawn dangos ffafr mewn barn.
24 Pwy bynnag a ddywed wrth yr euog, "Yr wyt yn ddieuog", fe'i melltithir gan bobloedd a'i gollfarnu gan genhedloedd.
25 Ond caiff y rhai sy'n eu ceryddu foddhad, a daw gwir fendith arnynt.
26 Y mae rhoi ateb gonest fel rhoi cusan ar wefusau.
27 Rho drefn ar dy waith y tu allan, a threfna'r hyn sydd yn dy gae, ac yna adeilada dy du375?.
28 Paid � thystio yn erbyn dy gymydog yn ddiachos, na thwyllo �'th eiriau.
29 Paid � dweud, "Gwnaf iddo fel y gwnaeth ef i mi; talaf iddo yn �l ei weithred."
30 Euthum heibio i faes un diog, ac i winllan un disynnwyr,
31 a sylwais eu bod yn llawn drain, a danadl drostynt i gyd, a'u mur o gerrig wedi ei chwalu.
32 Edrychais arnynt ac ystyried; sylwais a dysgu gwers:
33 ychydig gwsg, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i orffwys,
34 a daw tlodi atat fel dieithryn creulon, ac angen fel gu373?r arfog.