1 Geiriau Agur fab Jaceh o Massa. Dyma'i eiriau i Ithiel, i Ithiel ac Ucal:
2 Yr wyf yn fwy anwar na neb; nid oes deall dynol gennyf.
3 Ni ddysgais ddoethineb, ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd.
4 Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn? Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn? Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg? Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear? Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?
5 Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi; y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
6 Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau, rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.
7 Gofynnaf am ddau beth gennyt; paid �'u gwrthod cyn imi farw:
8 symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf; paid � rhoi imi dlodi na chyfoeth; portha fi �'m dogn o fwyd,
9 rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu, a dweud, "Pwy yw'r ARGLWYDD?" Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr, a gwneud drwg i enw fy Nuw.
10 Paid � difr�o gwas wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
11 Y mae rhai yn melltithio'u tad, ac yn amharchu eu mam.
12 Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain, ond heb eu glanhau o'u haflendid.
13 Y mae rhai yn ymddwyn yn falch, a'u golygon yn uchel.
14 Y mae rhai �'u dannedd fel cleddyfau, a'u genau fel cyllyll, yn difa'r tlawd o'r tir, a'r anghenus o blith pobl.
15 Y mae gan y gele ddwy ferch sy'n dweud, "Dyro, dyro." Y mae tri pheth na ellir eu digoni, ie, pedwar nad ydynt byth yn dweud, "Digon":
16 Sheol, a'r groth amhlantadwy, a'r tir sydd heb ddigon o ddu373?r, a'r t�n nad yw byth yn dweud, "Digon".
17 Y llygad sy'n gwatwar tad, ac yn dirmygu ufudd-dod i fam, fe'i tynnir allan gan gigfrain y dyffryn, ac fe'i bwyteir gan y fwltur.
18 Y mae tri pheth yn rhyfeddol imi, pedwar na allaf eu deall:
19 ffordd yr eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong ar y cefnfor, a ffordd dyn gyda merch.
20 Dyma ymddygiad y wraig odinebus: y mae'n bwyta, yn sychu ei cheg, ac yn dweud, "Nid wyf wedi gwneud drwg."
21 Y mae tri pheth sy'n cynhyrfu'r ddaear, pedwar na all hi eu dioddef:
22 gwas pan ddaw'n frenin, ffu373?l pan gaiff ormod o fwyd,
23 dynes atgas yn cael gu373?r, a morwyn yn disodli ei meistres.
24 Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach, ond yn eithriadol ddoeth:
25 y morgrug, creaduriaid sydd heb gryfder, ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf;
26 y cwningod, creaduriaid sydd heb nerth, ond sy'n codi eu tai yn y creigiau;
27 y locustiaid, nad oes ganddynt frenin, ond sydd i gyd yn mynd allan yn rhengoedd;
28 a'r fadfall, y gelli ei dal yn dy law, ond sydd i'w chael ym mhalas brenhinoedd.
29 Y mae tri pheth sy'n hardd eu cerddediad, pedwar sy'n rhodio'n urddasol:
30 llew, gwron ymhlith yr anifeiliaid, nad yw'n cilio oddi wrth yr un ohonynt;
31 ceiliog yn torsythu; bwch gafr; a brenin yn arwain ei bobl.
32 Os bu iti ymddwyn yn ff�l trwy ymffrostio, neu gynllwynio drwg, rho dy law ar dy enau.
33 Oherwydd o gorddi llaeth ceir ymenyn, o wasgu'r trwyn ceir gwaed, ac o fegino llid ceir cynnen.