1 1 Salm. I ddiolch.0 Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
2 Addolwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd, dewch o'i flaen � ch�n.
3 Gwybyddwch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw; ef a'n gwnaeth, a'i eiddo ef ydym, ei bobl a defaid ei borfa.
4 Dewch i mewn i'w byrth � diolch, ac i'w gynteddau � mawl. Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.
5 Oherwydd da yw'r ARGLWYDD; y mae ei gariad hyd byth, a'i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.