Welsh

Breton: Gospels

Psalms

116

1 Yr wyf yn caru'r ARGLWYDD, am iddo wrando ar lef fy ngweddi,
2 am iddo droi ei glust ataf y dydd y gwaeddais arno.
3 Yr oedd clymau angau wedi tynhau amdanaf, a gefynnau Sheol wedi fy nal, a minnau'n dioddef adfyd ac ing.
4 Yna gelwais ar enw'r ARGLWYDD: "Yr wyf yn erfyn, ARGLWYDD, gwared fi."
5 Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn, ac y mae ein Duw ni'n tosturio.
6 Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml; pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd.
7 Gorffwysa unwaith eto, fy enaid, oherwydd bu'r ARGLWYDD yn hael wrthyt;
8 oherwydd gwaredodd fy enaid rhag angau, fy llygaid rhag dagrau, fy nhraed rhag baglu.
9 Rhodiaf gerbron yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.
10 Yr oeddwn yn credu y byddwn wedi fy narostwng; cefais fy nghystuddio'n drwm;
11 yn fy nghyni dywedais, "Y mae pawb yn dwyllodrus."
12 Sut y gallaf dalu i'r ARGLWYDD am ei holl haelioni tuag ataf?
13 Dyrchafaf gwpan iachawdwriaeth, a galw ar enw'r ARGLWYDD.
14 Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD ym mhresenoldeb ei holl bobl.
15 Gwerthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD yw marwolaeth ei ffyddloniaid.
16 O ARGLWYDD, dy was yn wir wyf fi, gwas o hil gweision; yr wyt wedi datod fy rhwymau.
17 Rhof i ti offrwm diolch, a galw ar enw'r ARGLWYDD.
18 Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD ym mhresenoldeb ei holl bobl,
19 yng nghynteddau tu375?'r ARGLWYDD yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.