1 1 C�n Esgyniad.0 Yr wyf yn codi fy llygaid atat ti sy'n eistedd yn y nefoedd.
2 Fel y mae llygaid gweision yn gwylio llaw eu meistr, a llygaid caethferch yn gwylio llaw ei meistres, felly y mae ein llygaid ninnau yn gwylio'r ARGLWYDD ein Duw nes iddo drugarhau wrthym.
3 Bydd drugarog wrthym, O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthym, oherwydd fe gawsom ddigon o sarhad.
4 Yn rhy hir y cawsom ddigon ar wawd y trahaus ac ar sarhad y beilchion.