1 1 C�n Esgyniad.0 Y mae'r rhai sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD fel Mynydd Seion, na ellir ei symud, ond sy'n aros hyd byth.
2 Fel y mae'r mynyddoedd o amgylch Jerwsalem, felly y mae'r ARGLWYDD o amgylch ei bobl yn awr a hyd byth.
3 Ni chaiff teyrnwialen y drygionus orffwys ar y tir sy'n rhan i'r rhai cyfiawn, rhag i'r cyfiawn estyn eu llaw at anghyfiawnder.
4 Gwna ddaioni, O ARGLWYDD, i'r rhai da ac i'r rhai uniawn o galon.
5 Ond am y rhai sy'n gwyro i'w ffyrdd troellog, bydded i'r ARGLWYDD eu dinistrio gyda'r gwneuthurwyr drygioni. Bydded heddwch ar Israel!