1 1 Salm. I Ddafydd.0 O ARGLWYDD, gwaeddaf arnat, brysia ataf; gwrando ar fy llef pan alwaf arnat.
2 Bydded fy ngweddi fel arogldarth o'th flaen, ac estyniad fy nwylo fel offrwm hwyrol.
3 O ARGLWYDD, gosod warchod ar fy ngenau, gwylia dros ddrws fy ngwefusau.
4 Paid � throi fy nghalon at bethau drwg, i fod yn brysur wrth weithredoedd drygionus gyda rhai sy'n wneuthurwyr drygioni; paid � gadael imi fwyta o'u danteithion.
5 Bydded i'r cyfiawn fy nharo mewn cariad a'm ceryddu, ond na fydded i olew'r drygionus eneinio fy mhen, oherwydd y mae fy ngweddi yn wastad yn erbyn eu drygioni.
6 Pan fwrir eu barnwyr yn erbyn craig, byddant yn gwybod mor ddymunol oedd fy ngeiriau.
7 Fel darnau o bren neu o graig ar y llawr, bydd eu hesgyrn wedi eu gwasgaru yng ngenau Sheol.
8 Y mae fy llygaid arnat ti, O ARGLWYDD Dduw; ynot ti y llochesaf; paid �'m gadael heb amddiffyn.
9 Cadw fi o'r rhwyd a osodwyd imi, ac o fagl y gwneuthurwyr drygioni.
10 Bydded i'r drygionus syrthio i'w rhwydau eu hunain, a myfi fy hun yn mynd heibio.