Welsh

Breton: Gospels

Psalms

143

1 1 Salm. I Ddafydd.0 ARGLWYDD, clyw fy ngweddi, gwrando ar fy neisyfiad. Ateb fi yn dy ffyddlondeb � yn dy gyfiawnder.
2 Paid � mynd i farn �'th was, oherwydd nid oes neb byw yn gyfiawn o'th flaen di.
3 Y mae'r gelyn wedi fy ymlid, ac wedi sathru fy mywyd i'r llawr; gwnaeth imi eistedd mewn tywyllwch, fel rhai wedi hen farw.
4 Y mae fy ysbryd yn pallu ynof, a'm calon wedi ei dal gan arswyd.
5 Yr wyf yn cofio am y dyddiau gynt, yn myfyrio ar y cyfan a wnaethost, ac yn meddwl am waith dy ddwylo.
6 Yr wyf yn estyn fy nwylo atat ti, ac yn sychedu amdanat fel tir sych. Sela.
7 Brysia i'm hateb, O ARGLWYDD, y mae fy ysbryd yn pallu; paid � chuddio dy wyneb oddi wrthyf, neu byddaf fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll.
8 P�r imi glywed yn y bore am dy gariad, oherwydd yr wyf wedi ymddiried ynot ti; gwna imi wybod pa ffordd i'w cherdded, oherwydd yr wyf wedi dyrchafu fy enaid atat ti.
9 O ARGLWYDD, gwareda fi oddi wrth fy ngelynion, oherwydd atat ti yr wyf wedi ffoi am gysgod.
10 Dysg imi wneud dy ewyllys, oherwydd ti yw fy Nuw; bydded i'th ysbryd daionus fy arwain ar hyd tir gwastad.
11 Er mwyn dy enw, O ARGLWYDD, cadw fy einioes; yn dy gyfiawnder dwg fi o'm cyfyngder,
12 ac yn dy gariad difetha fy ngelynion; dinistria'r holl rai sydd yn fy ngorthrymu, oherwydd dy was wyf fi.