1 Molwch yr ARGLWYDD. Da yw canu mawl i'n Duw ni, oherwydd hyfryd a gweddus yw mawl.
2 Y mae'r ARGLWYDD yn adeiladu Jerwsalem, y mae'n casglu rhai gwasgaredig Israel.
3 Y mae'n iach�u'r rhai drylliedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.
4 Y mae'n pennu nifer y s�r, ac yn rhoi enwau arnynt i gyd.
5 Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth; y mae ei ddoethineb yn ddifesur.
6 Y mae'r ARGLWYDD yn codi'r rhai gostyngedig, ond yn bwrw'r drygionus i'r llawr.
7 Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch, canwch fawl i'n Duw �'r delyn.
8 Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd � chymylau, ac yn darparu glaw i'r ddaear; y mae'n gwisgo'r mynyddoedd � glaswellt, a phlanhigion at wasanaeth pobl.
9 Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid, a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran.
10 Nid yw'n ymhyfrydu yn nerth march, nac yn cael pleser yng nghyhyrau gu373?r;
11 ond pleser yr ARGLWYDD yw'r rhai sy'n ei ofni, y rhai sy'n gobeithio yn ei gariad.
12 Molianna yr ARGLWYDD, O Jerwsalem; mola dy Dduw, O Seion,
13 oherwydd cryfhaodd farrau dy byrth, a bendithiodd dy blant o'th fewn.
14 Y mae'n rhoi heddwch i'th derfynau, ac yn dy ddigoni �'r u375?d gorau.
15 Y mae'n anfon ei orchymyn i'r ddaear, ac y mae ei air yn rhedeg yn gyflym.
16 Y mae'n rhoi eira fel gwl�n, yn taenu barrug fel lludw,
17 ac yn gwasgaru ei rew fel briwsion; pwy a all ddal ei oerni ef?
18 Y mae'n anfon ei air, ac yn eu toddi; gwna i'w wynt chwythu, ac fe lifa'r dyfroedd.
19 Y mae'n mynegi ei air i Jacob, ei ddeddfau a'i farnau i Israel;
20 ni wnaeth fel hyn ag unrhyw genedl, na dysgu iddynt ei farnau. Molwch yr ARGLWYDD.