Welsh

Breton: Gospels

Psalms

75

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Salm. I Asaff. C�n.0 Diolchwn i ti, O Dduw, diolchwn i ti; y mae dy enw yn agos wrth adrodd am dy ryfeddodau.
2 Manteisiaf ar yr amser penodedig, ac yna barnaf yn gywir.
3 Pan fo'r ddaear yn gwegian, a'i holl drigolion, myfi sy'n cynnal ei cholofnau. Sela.
4 Dywedaf wrth yr ymffrostgar, "Peidiwch ag ymffrostio", ac wrth y drygionus, "Peidiwch � chodi'ch corn;
5 peidiwch � chodi'ch corn yn uchel na siarad yn haerllug wrth eich Craig."
6 Nid o'r dwyrain na'r gorllewin nac o'r anialwch y bydd dyrchafu,
7 ond Duw fydd yn barnu � yn darostwng y naill ac yn codi'r llall.
8 Oherwydd y mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDD, a'r gwin yn ewynnu ac wedi ei gymysgu; fe dywallt ddiod ohono, a bydd holl rai drygionus y ddaear yn ei yfed i'r gwaelod.
9 Ond clodforaf fi am byth, a chanaf fawl i Dduw Jacob,
10 am ei fod yn torri ymaith holl gyrn y drygionus, a chyrn y cyfiawn yn cael eu dyrchafu.