Welsh

Breton: Gospels

Psalms

77

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Jeduthun. I Asaff. Salm.0 Gwaeddais yn uchel ar Dduw, yn uchel ar Dduw, a chlywodd fi.
2 Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd, ac yn y nos estyn fy nwylo'n ddiflino; nid oedd cysuro ar fy enaid.
3 Pan feddyliaf am Dduw, yr wyf yn cwyno; pan fyfyriaf, fe balla f'ysbryd. Sela.
4 Cedwaist fy llygaid rhag cau; fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad.
5 Af yn �l i'r dyddiau gynt a chofio am y blynyddoedd a fu;
6 meddyliaf ynof fy hun yn y nos, myfyriaf, a'm holi fy hunan,
7 "A wrthyd yr Arglwydd am byth, a pheidio � gwneud ffafr mwyach?
8 A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr, a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau?
9 A yw Duw wedi anghofio trugarhau? A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?" Sela.
10 Yna dywedais, "Hyn yw fy ngofid: A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?
11 Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD, a chofio am dy ryfeddodau gynt.
12 Meddyliaf am dy holl waith, a myfyriaf am dy weithredoedd.
13 O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd; pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?
14 Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol; dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd.
15 �'th fraich gwaredaist dy bobl, disgynyddion Jacob a Joseff. Sela.
16 Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw, gwelodd y dyfroedd di ac arswydo; yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu.
17 Tywalltodd y cymylau ddu373?r, ac yr oedd y ffurfafen yn taranu; fflachiodd dy saethau ar bob llaw.
18 Yr oedd su373?n dy daranau yn y corwynt, goleuodd dy fellt y byd; ysgydwodd y ddaear a chrynu.
19 Aeth dy ffordd drwy'r m�r, a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol; ond ni welwyd �l dy gamau.
20 Arweiniaist dy bobl fel praidd, trwy law Moses ac Aaron.