1 1 Salm. I Asaff.0 O Dduw, daeth y cenhedloedd i'th etifeddiaeth, a halogi dy deml sanctaidd, a gwneud Jerwsalem yn adfeilion.
2 Rhoesant gyrff dy weision yn fwyd i adar yr awyr, a chnawd dy ffyddloniaid i'r bwystfilod.
3 Y maent wedi tywallt gwaed fel du373?r o amgylch Jerwsalem, ac nid oes neb i'w claddu.
4 Aethom yn watwar i'n cymdogion, yn wawd a dirmyg i'r rhai o'n cwmpas.
5 Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ddig am byth? A yw dy eiddigedd i losgi fel t�n?
6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd nad ydynt yn dy adnabod, ac ar y teyrnasoedd nad ydynt yn galw ar dy enw,
7 am iddynt ysu Jacob a difetha ei drigfan.
8 Paid � dal yn ein herbyn ni ddrygioni ein hynafiaid, ond doed dy dosturi atom ar frys, oherwydd fe'n darostyngwyd yn llwyr.
9 Cymorth ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, oherwydd anrhydedd dy enw; gwared ni, a maddau ein pechodau er mwyn dy enw.
10 Pam y caiff y cenhedloedd ddweud, "Ple mae eu Duw?" Dysger y cenhedloedd yn ein gu373?ydd beth yw dy ddialedd am waed tywalltedig dy weision.
11 Doed ochneidio'r carcharorion hyd atat, ac yn dy nerth mawr arbed y rhai oedd i farw.
12 Taro'n �l seithwaith i'n cymdogion, a hynny i'r byw, y gwatwar a wn�nt wrth dy ddifr�o, O Arglwydd.
13 Yna, byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa, yn dy foliannu am byth, ac yn adrodd dy foliant dros y cenedlaethau.