Welsh

Breton: Gospels

Psalms

81

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. I Asaff.0 Canwch fawl i Dduw, ein nerth; bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw Jacob.
2 Rhowch g�n a chanu'r tympan, y delyn fwyn a'r nabl.
3 Canwch utgorn ar y lleuad newydd, ar y lleuad lawn, ar ddydd ein gu373?yl.
4 Oherwydd y mae hyn yn ddeddf yn Israel, yn rheol gan Dduw Jacob,
5 wedi ei roi'n orchymyn i Joseff pan ddaeth allan o wlad yr Aifft. Clywaf iaith nad wyf yn ei hadnabod.
6 Ysgafnheais y baich ar dy ysgwydd, a rhyddhau dy ddwylo oddi wrth y basgedi.
7 Pan waeddaist mewn cyfyngder, gwaredais di, ac atebais di yn ddirgel yn y taranau; profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela.
8 Gwrando, fy mhobl, a dygaf dystiolaeth yn dy erbyn. O na fyddit yn gwrando arnaf fi, Israel!
9 Na fydded gennyt dduw estron, a phaid ag ymostwng i dduw dieithr.
10 Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th ddygodd i fyny o'r Aifft; agor dy geg, ac fe'i llanwaf.
11 Ond ni wrandawodd fy mhobl ar fy llais, ac nid oedd Israel yn fodlon arnaf;
12 felly anfonais hwy ymaith yn eu cyndynrwydd i wneud fel yr oeddent yn dymuno.
13 "O na fyddai fy mhobl yn gwrando arnaf, ac na fyddai Israel yn rhodio yn fy ffyrdd!
14 Byddwn ar fyrder yn darostwng eu gelynion, ac yn troi fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr."
15 Byddai'r rhai sy'n cas�u'r ARGLWYDD yn ymgreinio o'i flaen, a dyna eu tynged am byth.
16 Byddwn yn dy fwydo �'r u375?d gorau, ac yn dy ddigoni � m�l o'r graig.