Welsh

Breton: Gospels

Psalms

90

1 1 Gweddi. I Moses, gu373?r Duw.0 Arglwydd, buost yn amddiffynfa i ni ymhob cenhedlaeth.
2 Cyn geni'r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a'r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.
3 Yr wyt yn troi pobl yn �l i'r llwch, ac yn dweud, "Trowch yn �l, chwi feidrolion."
4 Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwg fel doe sydd wedi mynd heibio, ac fel gwyliadwriaeth yn y nos.
5 Yr wyt yn eu sgubo ymaith fel breuddwyd; y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore �
6 yn tyfu ac yn adfywio yn y bore, ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino.
7 Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig, ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd.
8 Gosodaist ein camweddau o'th flaen, ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb.
9 Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig, a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid.
10 Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes, neu efallai bedwar ugain trwy gryfder, ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder; �nt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.
11 Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter, a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni?
12 Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth.
13 Dychwel, O ARGLWYDD. Am ba hyd? Trugarha wrth dy weision.
14 Digona ni yn y bore �'th gariad, inni gael gorfoleddu a llawenhau ein holl ddyddiau.
15 Rho inni lawenydd gynifer o ddyddiau ag y blinaist ni, gynifer o flynyddoedd ag y gwelsom ddrygfyd.
16 Bydded dy weithredoedd yn amlwg i'th weision, a'th ogoniant i'w plant.
17 Bydded trugaredd yr Arglwydd ein Duw arnom; llwydda waith ein dwylo inni, llwydda waith ein dwylo.