Welsh

Breton: Gospels

Psalms

94

1 O ARGLWYDD, Dduw dial, Dduw dial, ymddangos.
2 Cyfod, O farnwr y ddaear, rho eu haeddiant i'r balch.
3 Am ba hyd y bydd y drygionus, ARGLWYDD, y bydd y drygionus yn gorfoleddu?
4 Y maent yn tywallt eu parabl trahaus; y mae'r holl wneuthurwyr drygioni'n ymfalch�o.
5 Y maent yn sigo dy bobl, O ARGLWYDD, ac yn poenydio dy etifeddiaeth.
6 Lladdant y weddw a'r estron, a llofruddio'r amddifad,
7 a dweud, "Nid yw'r ARGLWYDD yn gweld, ac nid yw Duw Jacob yn sylwi."
8 Deallwch hyn, chwi'r dylaf o bobl! Ffyliaid, pa bryd y byddwch ddoeth?
9 Onid yw'r un a blannodd glust yn clywed, a'r un a luniodd lygad yn gweld?
10 Onid oes gan yr un sy'n disgyblu cenhedloedd gerydd, a'r un sy'n dysgu pobl wybodaeth?
11 Y mae'r ARGLWYDD yn gwybod meddyliau pobl, mai gwynt ydynt.
12 Gwyn ei fyd y sawl a ddisgybli, O ARGLWYDD, ac a ddysgi allan o'th gyfraith,
13 i roi iddo lonyddwch rhag dyddiau adfyd, nes agor pwll i'r drygionus.
14 Oherwydd nid yw'r ARGLWYDD yn gwrthod ei bobl, nac yn gadael ei etifeddiaeth;
15 oherwydd dychwel barn at y rhai cyfiawn, a bydd yr holl rai uniawn yn ei dilyn.
16 Pwy a saif drosof yn erbyn y drygionus, a sefyll o'm plaid yn erbyn gwneuthurwyr drygioni?
17 Oni bai i'r ARGLWYDD fy nghynorthwyo byddwn yn fuan wedi mynd i dir distawrwydd.
18 Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro, yr oedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.
19 Er bod pryderon fy nghalon yn niferus, y mae dy gysuron di'n fy llawenhau.
20 A fydd cynghrair rhyngot ti a llywodraeth distryw, sy'n cynllunio niwed trwy gyfraith?
21 Cytunant �'i gilydd am fywyd y cyfiawn, a chondemnio'r dieuog i farw.
22 Ond y mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn i mi, a'm Duw yn graig i'm llochesu.
23 Daw �'u camweddau eu hunain yn �l arnynt, ac fe'u diddyma am eu drygioni. Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu diddymu.