Welsh

Breton: Gospels

Romans

15

1 Y mae'n ddyletswydd arnom ni, y rhai cryf, oddef gwendidau'r rhai sy'n eiddil eu cydwybod, a pheidio �'n plesio ein hunain.
2 Y mae pob un ohonom i blesio ein cymydog, gan anelu at yr hyn sydd dda er adeiladu ein gilydd.
3 Oherwydd nid ei blesio ei hun a wnaeth Crist. I'r gwrthwyneb, fel y mae'n ysgrifenedig: "Y mae gwaradwydd y rhai oedd yn dy waradwyddo di wedi syrthio arnaf fi."
4 Ac fe ysgrifennwyd yr Ysgrythurau gynt er mwyn ein dysgu ni, er mwyn i ni, trwy ddyfalbarhad a thrwy eu hanogaeth hwy, ddal ein gafael yn ein gobaith.
5 A rhodded Duw, ffynhonnell pob dyfalbarhad ac anogaeth, i chwi fod yn gyt�n eich meddwl ymhlith eich gilydd, yn �l ewyllys Crist Iesu,
6 er mwyn ichwi, yn unfryd ac yn unllais, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
7 Am hynny, derbyniwch eich gilydd, fel y derbyniodd Crist chwi, er gogoniant Duw.
8 Oherwydd yr wyf yn dweud bod Crist wedi dod yn was i'r Iddewon er mwyn dangos geirwiredd Duw, sef ei fod yn cadarnhau'r addewidion i'r hynafiaid,
9 a hefyd er mwyn i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd. Fel y mae'n ysgrifenedig: "Oherwydd hyn, clodforaf di ymysg y Cenhedloedd, a chanaf i'th enw."
10 Ac y mae'n dweud eilwaith: "Llawenhewch, Genhedloedd, ynghyd �'i bobl ef."
11 Ac eto: "Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd, a'r holl bobloedd yn dyblu'r mawl."
12 Y mae Eseia hefyd yn dweud: "Fe ddaw gwreiddyn Jesse, y gu373?r sy'n codi i lywodraethu'r Cenhedloedd; arno ef y bydd y Cenhedloedd yn seilio'u gobaith."
13 A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi � phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Gl�n, yn gorlifo � gobaith.
14 Yr wyf fi, o'm rhan fy hun, yn gwbl sicr, fy nghyfeillion, eich bod chwithau yn llawn daioni, yn gyforiog o bob gwybodaeth, ac yn alluog i hyfforddi eich gilydd.
15 B�m braidd yn hy arnoch mewn mannau yn fy llythyr, wrth geisio deffro eich cof. Ond gwneuthum hyn ar bwys y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras,
16 i fod yn weinidog Crist Iesu i'r Cenhedloedd, yn gweini fel offeiriad ar Efengyl Duw, er mwyn cyflwyno'r Cenhedloedd iddo yn offrwm cymeradwy, offrwm wedi ei gysegru gan yr Ysbryd Gl�n.
17 Yng Nghrist Iesu, felly, y mae gennyf le i ymffrostio yn fy ngwasanaeth i Dduw,
18 oherwydd nid wyf am feiddio s�n am ddim ond yr hyn a gyflawnodd Crist trwof fi, yn y dasg o ennill y Cenhedloedd i ufuddhau iddo, mewn gair a gweithred,
19 trwy rym arwyddion a rhyfeddodau, trwy nerth Ysbryd Duw. Ac felly, yr wyf fi wedi cwblhau cyhoeddi Efengyl Crist mewn cylch eang, o Jerwsalem cyn belled ag Ilyricum.
20 Yn hyn oll fe'i cedwais yn nod i bregethu'r Efengyl yn y mannau hynny yn unig oedd heb glywed s�n am enw Crist, rhag i mi fod yn adeiladu ar sylfaen rhywun arall;
21 fel y mae'n ysgrifenedig: "Bydd y rheini na chyhoeddwyd dim wrthynt amdano yn gweld, a'r rheini na chlywsant ddim amdano yn deall."
22 Hwn oedd y rhwystr a'm cadwodd cyhyd o amser rhag dod atoch chwi.
23 Ond yn awr, a minnau heb faes cenhadol mwyach yn yr ardaloedd hyn, a'r awydd arnaf ers blynyddoedd lawer i ddod atoch chwi
24 pryd bynnag y byddaf ar fy ffordd i Sbaen, yr wyf yn gobeithio ymweld � chwi wrth fynd trwodd, a chael fy hebrwng gennych ar fy nhaith yno, ar �l mwynhau eich cwmni am ychydig.
25 Ond ar hyn o bryd yr wyf ar fy ffordd i Jerwsalem, i fynd � chymorth i'r saint yno.
26 Oherwydd y mae Macedonia ac Achaia wedi gweld yn dda gyfrannu i gronfa ar ran y tlodion ymhlith y saint yn Jerwsalem.
27 Gwelsant yn dda, do, ond yr oeddent hefyd dan ddyled iddynt. Oherwydd os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u trysor ysbrydol hwy, y mae'n ddyled ar y Cenhedloedd weini arnynt mewn pethau tymhorol.
28 Felly, pan fyddaf wedi cyflawni'r gorchwyl hwn, a gosod y casgliad yn ddiogel yn eu dwylo, caf gychwyn ar y daith i Sbaen a galw heibio i chwi.
29 Gwn y bydd fy ymweliad � chwi dan fendith gyflawn Crist.
30 Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy'r cariad sy'n ffrwyth yr Ysbryd: ymunwch � mi yn fy ymdrech, a gwedd�o ar Dduw trosof,
31 ar i mi gael fy arbed rhag yr anghredinwyr yn Jwdea, ac i'r cymorth sydd gennyf i Jerwsalem fod yn dderbyniol gan y saint;
32 ac felly i mi gael dod atoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, a'm hatgyfnerthu yn eich cwmni.
33 A Duw yr heddwch fyddo gyda chwi oll! Amen.