1 O mor unig yw'r ddinas a fu'n llawn o bobl! Y mae'r un a fu'n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw, a'r un a fu'n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod.
1Kako osamljena sjedi prijestolnica, nekoć naroda puna; postade kao udovica, nekoć velika među narodima. Vladarica nad pokrajinama, na tlaku sad ide.
2 Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos, a dagrau ar ei gruddiau; nid oes ganddi neb i'w chysuro o blith ei holl gariadon; y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu, ac wedi troi'n elynion iddi.
2Noći provodi gorko plačući, suzama pokriva obraze. Nikog nema da je utješi, od svih koji su je ljubili. Svi je prijatelji iznevjeriše i postaše joj neprijatelji.
3 Aeth Jwda i gaethglud mewn trallod ac mewn gorthrwm mawr; y mae'n byw ymysg y cenhedloedd, ond heb gael lle i orffwys; y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddyd yng nghanol ei gofidiau.
3Izagnan je Juda, u nevolji je i u progonstvu teškom. Sad živi među poganima, ne nalazi počinka. Svi ga gonitelji sustižu u tjesnacima.
4 Y mae ffyrdd Seion mewn galar am nad oes neb yn dod i'r gwyliau; y mae ei holl byrth yn anghyfannedd, a'i hoffeiriaid yn griddfan; y mae ei merched ifainc yn drallodus, a hithau mewn chwerwder.
4Putovi sionski tuguju jer nitko ne dolazi na svetkovine. Sva su vrata razvaljena, svećenici uzdišu, ucviljene su djevice njegove, a on je pun gorčine.
5 Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni, a llwyddodd ei gelynion, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arni o achos amlder ei throseddau; y mae ei phlant wedi mynd ymaith yn gaethion o flaen y gelyn.
5Tlačitelji njegovi sada gospodare, neprijatelji likuju: Jahve ga ucvili zbog grijeha njegovih premnogih. Djeca mu otišla u izgnanstvo pred tlačiteljem.
6 Diflannodd y cyfan o'i hanrhydedd oddi wrth ferch Seion; y mae ei thywysogion fel ewigod sy'n methu cael porfa; y maent wedi ffoi, heb nerth, o flaen yr erlidwyr.
6Povukla se od Kćeri sionske sva slava njezina. Knezovi joj postadoše k'o ovnovi koji paše ne nalaze; nemoćni vrludaju ispred goniča.
7 Yn nydd ei thrallod a'i chyni y mae Jerwsalem yn cofio'r holl drysorau oedd ganddi yn y dyddiau gynt. Pan syrthiodd ei phobl i ddwylo'r gwrthwynebwyr, heb neb i'w chynorthwyo, edrychodd ei gwrthwynebwyr arni a chwerthin o achos ei dinistr.
7Jeruzalem se spominje danÄa bijede i lutanja, kad mu narod dušmanu u ruke pade a nitko mu pomoći ne pruži. Tlačitelji ga gledahu smijući se njegovoj propasti.
8 Pechodd Jerwsalem yn erchyll; am hynny fe aeth yn ffieidd-dra. Y mae pawb oedd yn ei pharchu yn ei dirmygu am iddynt weld ei noethni; y mae hithau'n griddfan ac yn troi draw.
8Teško sagriješi Jeruzalem, postade kao nečistoća ženina. Svi što ga štovahu, sada ga preziru: jer vidješe golotinju njegovu. On samo plače i natrag se okreće.
9 Yr oedd ei haflendid yng ngodre'i dillad; nid ystyriodd ei thynged. Yr oedd ei chwymp yn arswydus, ac nid oedd neb i'w chysuro. Edrych, O ARGLWYDD, ar fy nhrallod, oherwydd y mae'r gelyn wedi gorchfygu.
9Skuti su mu uprljani, nije ni sanjao što ga čeka. Duboko je pao, a nikog da ga tješi. "Pogledaj, Jahve, moju nevolju: jer neprijatelj likuje."
10 Estynnodd y gelyn ei law i gymryd ei holl drysorau; yn wir, gwelodd hi y cenhedloedd yn dod i'w chysegr � rhai yr oeddit ti wedi eu gwahardd yn dod i mewn i'th gynulliad!
10Neprijatelj poseže rukom za svim dragocjenostima njegovim. Gledao je gdje pogani provaljuju u njegovo Svetište, oni kojima si zabranio i pristup u svoj zbor.
11 Yr oedd ei phobl i gyd yn griddfan wrth iddynt chwilio am fara; yr oeddent yn cyfnewid eu trysorau am fwyd i'w cynnal eu hunain. Edrych, O ARGLWYDD, a gw�l, oherwydd euthum yn ddirmyg.
11Sav narod njegov jeca, tražeći kruha; svi daju dragulje za hranu da bi ponovo živnuli. Evo, Jahve, pogledaj kako sam prezren.
12 Onid yw hyn o bwys i chwi sy'n mynd heibio? Edrychwch a gwelwch; a oes gofid fel y gofid a osodwyd yn drwm arnaf, ac a ddygodd yr ARGLWYDD arnaf yn nydd ei lid angerddol?
12Svi vi što putem prolazite, pogledajte i vidite ima li boli kakva je bol kojom sam ja pogođen, kojom me Jahve udari u dan žestokog gnjeva svoga!
13 Anfonodd d�n o'r uchelder, a threiddiodd i'm hesgyrn; gosododd rwyd i'm traed, a'm troi'n �l; gwnaeth fi yn ddiffaith ac yn gystuddiol trwy'r dydd.
13S visine pusti oganj, utjera ga u kosti moje. Pred noge mrežu mi razape i tako me nauznak obori; ucvili me, ožalosti za sva vremena.
14 Clymwyd fy nhroseddau amdanaf; plethwyd hwy �'i law ei hun; gosododd ei iau ar fy ngwddf, ac ysigodd fy nerth; rhoddodd yr Arglwydd fi yng ngafael rhai na allaf godi yn eu herbyn.
14Natovario me mojim grijesima, rukom ih svojom pritegnuo; na vrat mi ih navalio, snagu mi oduzeo. Predao me Gospod u ruke njihove, ne mogu se uspraviti.
15 Diystyrodd yr Arglwydd yr holl ryfelwyr oedd ynof; galwodd ar fyddin i ddod yn f'erbyn, i ddifetha fy ngwu375?r ifainc; fel y sethrir grawnwin y sathrodd yr Arglwydd y forwyn, merch Jwda.
15Sve junake iz moje sredine Gospod odbaci: digao je zbor protiv mene da uništi uzdanicu moju. U tijesku izgazi Gospod mene, djevicu, kćerku Judinu.
16 O achos hyn yr wyf yn wylo, ac y mae fy llygad yn llifo gan ddagrau, oherwydd pellhaodd yr un sy'n fy nghysuro ac yn fy nghynnal; y mae fy mhlant wedi eu hanrheithio am fod y gelyn wedi gorchfygu.
16Zato moram plakati, oči mi suze liju, jer daleko je od mene moj tješitelj da mi duh povrati. Sinovi su moji poraženi, odveć silan bijaše neprijatelj.
17 Estynnodd Seion ei dwylo, ond nid oedd neb i'w chysuro; gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r gelynion amgylchynu Jacob o bob cyfeiriad; yr oedd Jerwsalem wedi mynd yn ffieidd-dra yn eu mysg.
17Sion pruža ruke: nema mu tješitelja. Jahve je protiv Jakova sa svih strana pozvao tlačitelje; i tako Jeruzalem postade među njima strašilo.
18 Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn, ond gwrthryfelais yn erbyn ei air. Gwrandewch yn awr, yr holl bobloedd, ac edrychwch ar fy nolur: aeth fy merched a'm dynion ifainc i gaethglud.
18Jahve, on je pravedan; jer riječi se njegovoj protivih. Oh, čujte, narodi svi, gledajte moju bol: djevice moje, moji mladići, svi odoše u izgnanstvo!
19 Gelwais ar fy nghariadon, ond y maent hwy wedi fy mradychu; trengodd f'offeiriaid a'm henuriaid yn y ddinas, wrth chwilio am fwyd i'w cynnal eu hunain.
19Pozvah sve ljubavnike svoje, ali me oni prevariše. Moji svećenici i starješine pogiboše u gradu tražeći hrane da bi ponovo živnuli.
20 Edrych, O ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf; y mae f'ymysgaroedd mewn poen, a'm calon wedi cyffroi, oherwydd yr wyf wedi gwrthryfela i'r eithaf. o'r tu allan, y mae'r cleddyf wedi gwneud rhai'n amddifad; yn y tu375?, nid oes dim ond marwolaeth.
20Pogledaj, Jahve, u kakvoj sam tjeskobi, moja utroba strepi, srce mi se u grudima grči jer bijah opako prkosan! Vani mač pokosi moje sinove, a unutra - smrt.
21 Gwrandewch pan wyf yn griddfan, heb neb i'm cysuro. Clywodd fy holl elynion am fy nhrychineb, a llawenhau am iti wneud hyn; ond byddi di'n dwyn arnynt y dydd a benodaist, a byddant hwythau fel finnau.
21Čuj kako stenjem: nema mi tješitelja! Svi neprijatelji čuju za moju nesreću i likuju što si to učinio! Daj da dođe dan što si ga objavio, da njima bude kao meni.
22 Gad i'w holl ddrygioni ddod i'th sylw, a dwg gosb arnynt, fel y cosbaist fi am fy holl droseddau; oherwydd y mae fy ngriddfannau'n aml, a'm calon yn gystuddiol.
22Neka se pokaže sva njina zloća pred licem tvojim, a onda postupaj s njima kao što si sa mnom postupio za sve grijehe moje! Jer samo uzdišem, a srce moje tuguje.