1 Ynglu375?n � dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cydgynnull ni ato ef, yr wyf yn deisyf arnoch, gyfeillion,
1Now we beg you, brethren, by the coming of our Lord Jesus Christ and our gathering together to him,
2 beidio � chymryd eich ysgwyd yn ddisymwth allan o'ch pwyll, na'ch cynhyrfu gan ddatganiad ysbryd, neu air, neu lythyr yn honni ei fod oddi wrthym ni, i'r perwyl fod Dydd yr Arglwydd eisoes wedi dod.
2that ye be not soon shaken in mind, nor troubled, neither by spirit, nor by word, nor by letter, as [if it were] by us, as that the day of the Lord is present.
3 Peidiwch � chymryd eich twyllo gan neb mewn unrhyw fodd; oherwydd ni ddaw'r Dydd hwnnw nes i'r gwrthgiliad ddod yn gyntaf, ac i'r un digyfraith, plentyn colledigaeth, gael ei ddatguddio.
3Let not any one deceive you in any manner, because [it will not be] unless the apostasy have first come, and the man of sin have been revealed, the son of perdition;
4 Dyma'r gwrthwynebydd sy'n ymddyrchafu yn erbyn pob un a elwir yn dduw neu sy'n wrthrych addoliad, nes eistedd ei hunan yn nheml Duw, gan gyhoeddi mai ef sydd Dduw.
4who opposes and exalts himself on high against all called God, or object of veneration; so that he himself sits down in the temple of God, shewing himself that he is God.
5 Onid ydych yn cofio fy mod wedi dweud hyn wrthych pan oeddwn eto gyda chwi?
5Do ye not remember that, being yet with you, I said these things to you?
6 Ac yn awr, gwyddoch am yr hyn sydd yn ei ddal yn �l er mwyn sicrhau mai yn ei briod amser y datguddir ef.
6And now ye know that which restrains, that he should be revealed in his own time.
7 Oherwydd y mae grym dirgelwch anghyfraith eisoes ar waith, eithr dim ond nes y bydd yr hwn sydd yn awr yn ei ddal yn �l wedi ei symud o'r ffordd.
7For the mystery of lawlessness already works; only [there is] he who restrains now until he be gone,
8 Ac yna fe ddatguddir yr un digyfraith, a bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd ag anadl ei enau, ac yn ei ddiddymu trwy ysblander ei ddyfodiad.
8and then the lawless one shall be revealed, whom the Lord Jesus shall consume with the breath of his mouth, and shall annul by the appearing of his coming;
9 Bydd dyfodiad yr un digyfraith yn digwydd trwy weithrediad Satan; fe'i nodweddir gan bob math o nerth ac arwyddion a rhyfeddodau gau,
9whose coming is according to the working of Satan in all power and signs and wonders of falsehood,
10 a chan bob twyll anghyfiawn, i ddrygu'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth am iddynt beidio � derbyn cariad at y gwirionedd a chael eu hachub.
10and in all deceit of unrighteousness to them that perish, because they have not received the love of the truth that they might be saved.
11 Oherwydd hyn y mae Duw yn anfon arnynt dwyll, i beri iddynt gredu celwydd,
11And for this reason God sends to them a working of error, that they should believe what is false,
12 ac felly bydd pawb sydd heb gredu'r gwirionedd, ond wedi ymhyfrydu mewn anghyfiawnder, yn cael eu barnu.
12that all might be judged who have not believed the truth, but have found pleasure in unrighteousness.
13 Ond fe ddylem ni ddiolch i Dduw bob amser amdanoch chwi, gyfeillion annwyl gan yr Arglwydd, am i Dduw eich dewis chwi fel y rhai cyntaf i brofi iachawdwriaeth trwy waith sancteiddiol gan yr Ysbryd a thrwy gredu'r gwirionedd.
13But we ought to give thanks to God always for you, brethren beloved of [the] Lord, that God has chosen you from [the] beginning to salvation in sanctification of [the] Spirit and belief of [the] truth:
14 I hyn y galwodd ef chwi, trwy'r Efengyl yr ydym ni yn ei phregethu: i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.
14whereto he has called you by our glad tidings, to [the] obtaining of [the] glory of our Lord Jesus Christ.
15 Am hynny, gyfeillion, safwch yn gadarn, a glynwch wrth y traddodiadau yr ydych wedi eu dysgu gennym ni, naill ai ar air neu trwy lythyr.
15So then, brethren, stand firm, and hold fast the instructions which ye have been taught, whether by word or by our letter.
16 A bydded i'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw ein Tad, yr hwn sydd wedi ein caru ac wedi rhoi i ni ddiddanwch tragwyddol a gobaith da trwy ras,
16But our Lord Jesus Christ himself, and our God and Father, who has loved us, and given [us] eternal consolation and good hope by grace,
17 ddiddanu eich calonnau a'ch cadarnhau ym mhob gweithred a gair da!
17encourage your hearts, and establish you in every good work and word.