1 Aeth Dafydd i Nob at yr offeiriad Ahimelech. Daeth yntau i'w gyfarfod dan grynu, a gofyn iddo, "Pam yr wyt ti ar dy ben dy hun, heb neb gyda thi?"
1David se rendit à Nob, vers le sacrificateur Achimélec, qui accourut effrayé au-devant de lui et lui dit: Pourquoi es-tu seul et n'y a-t-il personne avec toi?
2 Ac meddai Dafydd wrth yr offeiriad Ahimelech, "Y brenin sydd wedi rhoi gorchymyn imi, a dweud wrthyf, 'Nid yw neb i wybod dim pam yr anfonais di, na beth a orchmynnais iti.' Ac yr wyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'r milwyr ifainc i'm cyfarfod yn y fan a'r fan.
2David répondit au sacrificateur Achimélec: Le roi m'a donné un ordre et m'a dit: Que personne ne sache rien de l'affaire pour laquelle je t'envoie et de l'ordre que je t'ai donné. J'ai fixé un rendez-vous à mes gens.
3 Yn awr, beth sydd gennyt wrth law? Gad imi gael pum torth, neu'r hyn sydd gennyt."
3Maintenant qu'as-tu sous la main? Donne-moi cinq pains, ou ce qui se trouvera.
4 Atebodd yr offeiriad, "Nid oes gennyf ddim bara cyffredin wrth law; ond y mae yma fara cysegredig � os yw'r milwyr wedi ymgadw'n llwyr oddi wrth wragedd."
4Le sacrificateur répondit à David: Je n'ai pas de pain ordinaire sous la main, mais il y a du pain consacré; si du moins tes gens se sont abstenus de femmes!
5 Atebodd Dafydd, "Yn wir y mae'n hen arfer gennym ymgadw oddi wrth wragedd pan fyddaf yn cychwyn ar ymgyrch, fel bod arfau'r milwyr yn gysegredig; ac os yw felly ar siwrnai gyffredin, pa faint mwy y bydd yr arfau'n gysegredig heddiw?"
5David répondit au sacrificateur: Nous nous sommes abstenus de femmes depuis trois jours que je suis parti, et tous mes gens sont purs: d'ailleurs, si c'est là un acte profane, il sera certainement aujourd'hui sanctifié par celui qui en sera l'instrument.
6 Yna fe roddodd yr offeiriad iddo'r bara cysegredig, gan nad oedd yno ddim ond y bara gosod oedd wedi ei symud o bresenoldeb yr ARGLWYDD, er mwyn gosod bara ffres ar ddiwrnod y cyfnewid.
6Alors le sacrificateur lui donna du pain consacré, car il n'y avait là d'autre pain que du pain de proposition, qu'on avait ôté de devant l'Eternel pour le remplacer par du pain chaud au moment où on l'avait pris.
7 Ar y pryd, yr oedd un o weision Saul yno dan adduned gerbron yr ARGLWYDD; ei enw oedd Doeg yr Edomiad, ac ef oedd penbugail Saul.
7Là, ce même jour, un homme d'entre les serviteurs de Saül se trouvait enfermé devant l'Eternel; c'était un Edomite, nommé Doëg, chef des bergers de Saül.
8 Gofynnodd Dafydd i Ahimelech, "Onid oes yma waywffon neu gleddyf wrth law gennyt? Oherwydd ni ddeuthum �'m cleddyf na'm harfau gyda mi, am fod cymaint brys gyda gorchymyn y brenin."
8David dit à Achimélec: N'as-tu pas sous la main une lance ou une épée? car je n'ai pris avec moi ni mon épée ni mes armes, parce que l'ordre du roi était pressant.
9 Atebodd yr offeiriad, "Beth am gleddyf Goliath y Philistiad, y dyn a leddaist yn nyffryn Ela? Y mae hwnnw yma wedi ei lapio mewn brethyn y tu �l i'r effod. Os wyt ti am hwnnw, cymer ef, oherwydd nid oes yma yr un arall ond hwnnw."
9Le sacrificateur répondit: Voici l'épée de Goliath, le Philistin, que tu as tué dans la vallée des térébinthes; elle est enveloppée dans un drap, derrière l'éphod; si tu veux la prendre, prends-la, car il n'y en a pas d'autre ici. Et David dit: Il n'y en a point de pareille; donne-la-moi.
10 Ac meddai Dafydd, "Nid oes debyg iddo; rho ef imi." Y diwrnod hwnnw ymadawodd Dafydd, ac er mwyn ffoi oddi wrth Saul, aeth at Achis brenin Gath.
10David se leva et s'enfuit le même jour loin de Saül. Il arriva chez Akisch, roi de Gath.
11 Gofynnodd gweision Achis iddo, "Onid hwn yw Dafydd, brenin y wlad? Onid am hwn y maent yn canu wrth ddawnsio, 'Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiynau'?"
11Les serviteurs d'Akisch lui dirent: N'est-ce pas là David, roi du pays? n'est-ce pas celui pour qui l'on chantait en dansant: Saül a frappé ses mille, -Et David ses dix mille?
12 Cymerodd Dafydd y geiriau hyn at ei galon, ac ofnodd rhag Achis brenin Gath.
12David prit à coeur ces paroles, et il eut une grande crainte d'Akisch, roi de Gath.
13 Newidiodd ei ymddygiad o'u blaen, a dechrau ymddwyn fel ynfytyn yn eu mysg, a chripio drysau'r porth, a glafoerio hyd ei farf.
13Il se montra comme fou à leurs yeux, et fit devant eux des extravagances; il faisait des marques sur les battants des portes, et il laissait couler sa salive sur sa barbe.
14 Ac meddai Achis wrth ei weision, "Gallwch weld bod y dyn yn wallgof; pam y daethoch ag ef ataf fi?
14Akisch dit à ses serviteurs: Vous voyez bien que cet homme a perdu la raison; pourquoi me l'amenez-vous?
15 A wyf yn brin o ynfydion, fel eich bod yn dod � hwn o'm blaen i ynfydu? A ddaw hwn i'm tu375??"
15Est-ce que je manque de fous, pour que vous m'ameniez celui-ci et me rendiez témoin de ses extravagances? Faut-il qu'il entre dans ma maison?