1 Yn Iconium eto, aethant i mewn i synagog yr Iddewon a llefaru yn y fath fodd nes i liaws mawr o Iddewon a Groegiaid gredu.
1A Icone, Paul et Barnabas entrèrent ensemble dans la synagogue des Juifs, et ils parlèrent de telle manière qu'une grande multitude de Juifs et de Grecs crurent.
2 Ond dyma'r Iddewon a wrthododd gredu yn cyffroi meddyliau'r Cenhedloedd, a'u gwyrdroi yn erbyn y credinwyr.
2Mais ceux des Juifs qui ne crurent point excitèrent et aigrirent les esprits des païens contre les frères.
3 Treuliasant, felly, gryn amser yn llefaru'n hy yn yr Arglwydd, a thystiodd yntau i air ei ras trwy beri gwneud arwyddion a rhyfeddodau trwyddynt hwy.
3Ils restèrent cependant assez longtemps à Icone, parlant avec assurance, appuyés sur le Seigneur, qui rendait témoignage à la parole de sa grâce et permettait qu'il se fît par leurs mains des prodiges et des miracles.
4 Rhannwyd pobl y ddinas; yr oedd rhai gyda'r Iddewon, a rhai gyda'r apostolion.
4La population de la ville se divisa: les uns étaient pour les Juifs, les autres pour les apôtres.
5 Pan wnaed cynnig gan y Cenhedloedd a'r Iddewon, ynghyd �'u harweinwyr, i'w cam�drin a'u llabyddio,
5Et comme les païens et les Juifs, de concert avec leurs chefs, se mettaient en mouvement pour les outrager et les lapider,
6 wedi cael achlust o'r peth ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd Lycaonia, ac i'r wlad o amgylch,
6Paul et Barnabas, en ayant eu connaissance, se réfugièrent dans les villes de la Lycaonie, à Lystre et à Derbe, et dans la contrée d'alentour.
7 ac yno yr oeddent yn cyhoeddi'r newydd da.
7Et ils y annoncèrent la bonne nouvelle.
8 Ac yn Lystra yr oedd yn eistedd ryw ddyn �'i draed yn ddiffrwyth, un cloff o'i enedigaeth, nad oedd erioed wedi cerdded.
8A Lystre, se tenait assis un homme impotent des pieds, boiteux de naissance, et qui n'avait jamais marché.
9 Yr oedd hwn yn gwrando ar Paul yn llefaru. Syllodd yntau arno, a gwelodd fod ganddo ffydd i gael ei iach�u,
9Il écoutait parler Paul. Et Paul, fixant les regards sur lui et voyant qu'il avait la foi pour être guéri,
10 a dywedodd � llais uchel, "Saf yn unionsyth ar dy draed." Neidiodd yntau i fyny a dechrau cerdded.
10dit d'une voix forte: Lève-toi droit sur tes pieds. Et il se leva d'un bond et marcha.
11 Pan welodd y tyrfaoedd yr hyn yr oedd Paul wedi ei wneud, gwaeddasant yn iaith Lycaonia: "Y duwiau a ddaeth i lawr atom ar lun dynion";
11A la vue de ce que Paul avait fait, la foule éleva la voix, et dit en langue lycaonienne: Les dieux sous une forme humaine sont descendus vers nous.
12 a galwasant Barnabas yn Zeus, a Paul yn Hermes, gan mai ef oedd y siaradwr blaenaf.
12Ils appelaient Barnabas Jupiter, et Paul Mercure, parce que c'était lui qui portait la parole.
13 Yr oedd teml Zeus y tu allan i'r ddinas, a daeth yr offeiriad � theirw a thorchau at y pyrth gan fwriadu offrymu aberth gyda'r tyrfaoedd.
13Le prêtre de Jupiter, dont le temple était à l'entrée de la ville, amena des taureaux avec des bandelettes vers les portes, et voulait, de même que la foule, offrir un sacrifice.
14 Pan glywodd yr apostolion, Barnabas a Paul, am hyn, rhwygasant eu dillad, a neidio allan i blith y dyrfa dan weiddi,
14Les apôtres Barnabas et Paul, ayant appris cela, déchirèrent leurs vêtements, et se précipitèrent au milieu de la foule,
15 "Ddynion, pam yr ydych yn gwneud hyn? Bodau dynol ydym ninnau, o'r un anian � chwi. Cyhoeddi newydd da i chwi yr ydym, i'ch troi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw a wnaeth y nef a'r ddaear a'r m�r a phopeth sydd ynddynt.
15en s'écriant: O hommes, pourquoi agissez-vous de la sorte? Nous aussi, nous sommes des hommes de la même nature que vous; et, vous apportant une bonne nouvelle, nous vous exhortons à renoncer à ces choses vaines, pour vous tourner vers le Dieu vivant, qui a fait le ciel, la terre, la mer, et tout ce qui s'y trouve.
16 Yn yr oesoedd a fu, goddefodd ef i'r holl genhedloedd rodio yn eu ffyrdd eu hunain.
16Ce Dieu, dans les âges passés, a laissé toutes les nations suivre leurs propres voies,
17 Ac eto ni adawodd ei hun heb dyst, gan iddo gyfrannu bendithion: rhoi glaw ichwi o'r nef, a thymhorau ffrwythlon, a chyflawnder calon o luniaeth a llawenydd."
17quoiqu'il n'ait cessé de rendre témoignage de ce qu'il est, en faisant du bien, en vous dispensant du ciel les pluies et les saisons fertiles, en vous donnant la nourriture avec abondance et en remplissant vos coeurs de joie.
18 Ond er dweud hyn, o'r braidd yr ataliasant y tyrfaoedd rhag offrymu aberth iddynt.
18A peine purent-ils, par ces paroles, empêcher la foule de leur offrir un sacrifice.
19 Daeth Iddewon yno o Antiochia ac Iconium; ac wedi iddynt berswadio'r tyrfaoedd, lluchiasant gerrig at Paul, a'i lusgo allan o'r ddinas, gan dybio ei fod wedi marw.
19Alors survinrent d'Antioche et d'Icone des Juifs qui gagnèrent la foule, et qui, après avoir lapidé Paul, le traînèrent hors de la ville, pensant qu'il était mort.
20 Ond ffurfiodd y disgyblion gylch o'i gwmpas, a chododd yntau ac aeth i mewn i'r ddinas. Trannoeth, aeth ymaith gyda Barnabas i Derbe.
20Mais, les disciples l'ayant entouré, il se leva, et entra dans la ville. Le lendemain, il partit pour Derbe avec Barnabas.
21 Buont yn cyhoeddi'r newydd da i'r ddinas honno, ac wedi gwneud disgyblion lawer, dychwelsant i Lystra ac i Iconium ac i Antiochia,
21Quand ils eurent évangélisé cette ville et fait un certain nombre de disciples, ils retournèrent à Lystre, à Icone et à Antioche,
22 a chadarnhau eneidiau'r disgyblion a'u hannog i lynu wrth y ffydd, gan ddweud, "Trwy lawer o gyfyngderau yr ydym i fynd i mewn i deyrnas Dduw."
22fortifiant l'esprit des disciples, les exhortant à persévérer dans la foi, et disant que c'est par beaucoup de tribulations qu'il nous faut entrer dans le royaume de Dieu.
23 Penodasant iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a'u cyflwyno, ar �l gwedd�o ac ymprydio, i'r Arglwydd yr oeddent wedi credu ynddo.
23Ils firent nommer des anciens dans chaque Eglise, et, après avoir prié et jeûné, ils les recommandèrent au Seigneur, en qui ils avaient cru.
24 Wedi iddynt deithio trwy Pisidia, daethant i Pamffylia;
24Traversant ensuite la Pisidie, ils vinrent en Pamphylie,
25 ac wedi llefaru'r gair yn Perga, aethant i lawr i Atalia,
25annoncèrent la parole à Perge, et descendirent à Attalie.
26 ac oddi yno hwyliasant i Antiochia, i'r fan lle'r oeddent wedi eu cyflwyno i ras Duw at y gwaith yr oeddent wedi ei gyflawni.
26De là ils s'embarquèrent pour Antioche, d'où ils avaient été recommandés à la grâce de Dieu pour l'oeuvre qu'ils venaient d'accomplir.
27 Wedi iddynt gyrraedd, cynullasant yr eglwys ynghyd ac adrodd gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud gyda hwy, ac fel yr oedd wedi agor drws ffydd i'r Cenhedloedd.
27Après leur arrivée, ils convoquèrent l'Eglise, et ils racontèrent tout ce que Dieu avait fait avec eux, et comment il avait ouvert aux nations la porte de la foi.
28 A threuliasant gryn dipyn o amser gyda'r disgyblion.
28Et ils demeurèrent assez longtemps avec les disciples.