Welsh

French 1910

Deuteronomy

26

1 Pan ddoi i'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti'n etifeddiaeth, a thithau'n ei meddiannu ac yn byw ynddi,
1Lorsque tu seras entré dans le pays que l'Eternel, ton Dieu, te donne pour héritage, lorsque tu le posséderas et y seras établi,
2 yna cymer o flaenffrwyth holl gnydau'r tir y byddi'n eu casglu yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, a gosod hwy mewn cawell, a mynd i'r lle y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw.
2tu prendras des prémices de tous les fruits que tu retireras du sol dans le pays que l'Eternel, ton Dieu, te donne, tu les mettras dans une corbeille, et tu iras au lieu que choisira l'Eternel, ton Dieu, pour y faire résider son nom.
3 Dos at yr offeiriad a fydd yr adeg honno, a dywed wrtho, "Yr wyf heddiw'n datgan gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw imi ddod i'r wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi inni."
3Tu te présenteras au sacrificateur alors en fonctions, et tu lui diras: Je déclare aujourd'hui à l'Eternel, ton Dieu, que je suis entré dans le pays que l'Eternel a juré à nos pères de nous donner.
4 Yna fe gymer yr offeiriad y cawell o'th law, a'i osod gerbron allor yr ARGLWYDD dy Dduw.
4Le sacrificateur recevra la corbeille de ta main, et la déposera devant l'autel de l'Eternel, ton Dieu.
5 Yr wyt tithau wedyn i ddweud gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, "Aramead ar grwydr oedd fy nhad; aeth i lawr i'r Aifft gyda mintai fechan, a byw yno'n ddieithryn, ond tyfodd yn genedl fawr, rymus a lluosog.
5Tu prendras encore la parole, et tu diras devant l'Eternel, ton Dieu: Mon père était un Araméen nomade; il descendit en Egypte avec peu de gens, et il y fixa son séjour; là, il devint une nation grande, puissante et nombreuse.
6 Yna bu'r Eifftiaid yn ein cam-drin a'n cystuddio a'n cadw mewn caethiwed caled.
6Les Egyptiens nous maltraitèrent et nous opprimèrent, et ils nous soumirent à une dure servitude.
7 Wedi inni weiddi ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, fe glywodd ein cri, a gwelodd ein cystudd a'n llafur caled a'n gorthrwm.
7Nous criâmes à l'Eternel, le Dieu de nos pères. L'Eternel entendit notre voix, et il vit notre oppression, nos peines et nos misères.
8 Daeth � ni allan o'r Aifft � llaw gadarn a braich estynedig, a chyda dychryn mawr a chydag arwyddion a rhyfeddodau.
8Et l'Eternel nous fit sortir d'Egypte, à main forte et à bras étendu, avec des prodiges de terreur, avec des signes et des miracles.
9 Daeth � ni i'r lle hwn, a rhoi inni'r wlad hon, gwlad yn llifeirio o laeth a m�l.
9Il nous a conduits dans ce lieu, et il nous a donné ce pays, pays où coulent le lait et le miel.
10 Ac yn awr dyma fi'n dod � blaenffrwyth cnydau'r tir a roddaist imi, O ARGLWYDD." Rho'r cawell i lawr gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, a moesymgryma o'i flaen.
10Maintenant voici, j'apporte les prémices des fruits du sol que tu m'as donné, ô Eternel! Tu les déposeras devant l'Eternel, ton Dieu, et tu te prosterneras devant l'Eternel, ton Dieu.
11 Yr wyt ti a'r Lefiad, a'r dieithryn fydd yno gyda thi, i lawenhau am yr holl bethau da a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti a'th deulu.
11Puis tu te réjouiras, avec le Lévite et avec l'étranger qui sera au milieu de toi, pour tous les biens que l'Eternel, ton Dieu, t'a donnés, à toi et à ta maison.
12 Pan fyddi wedi gorffen degymu dy holl gynnyrch yn y drydedd flwyddyn, sef blwyddyn y degwm, rho ef i'r Lefiad, y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, iddynt gael bwyta'u gwala yn dy drefi.
12Lorsque tu auras achevé de lever toute la dîme de tes produits, la troisième année, l'année de la dîme, tu la donneras au Lévite, à l'étranger, à l'orphelin et à la veuve; et ils mangeront et se rassasieront, dans tes portes.
13 A dywed gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, "Yr wyf wedi gwac�u'r tu375? o'r hyn oedd wedi ei gysegru, ac wedi ei roi i'r Lefiad, y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, yn union fel y gorchmynnaist imi; nid wyf wedi troseddu yn erbyn yr un o'th orchmynion na'u hanghofio.
13Tu diras devant l'Eternel, ton Dieu: J'ai ôté de ma maison ce qui est consacré, et je l'ai donné au Lévite, à l'étranger, à l'orphelin et à la veuve, selon tous les ordres que tu m'as prescrits; je n'ai transgressé ni oublié aucun de tes commandements.
14 Nid wyf wedi bwyta dim o'r peth cysegredig tra b�m yn galaru, na symud dim ohono tra oeddwn yn aflan, nac offrymu dim ohono i'r marw. Yr wyf wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD fy Nuw, ac wedi gwneud yn union fel y gorchmynnaist imi.
14Je n'ai rien mangé de ces choses pendant mon deuil, je n'en ai rien fait disparaître pour un usage impur, et je n'en ai rien donné à l'occasion d'un mort; j'ai obéi à la voix de l'Eternel, mon Dieu, j'ai agi selon tous les ordres que tu m'as prescrits.
15 Edrych i lawr o'th breswylfod sanctaidd yn y nef, a bendithia dy bobl Israel a'r tir a roddaist inni yn �l d'addewid i'n hynafiaid, sef gwlad yn llifeirio o laeth a m�l."
15Regarde de ta demeure sainte, des cieux, et bénis ton peuple d'Israël et le pays que tu nous as donné, comme tu l'avais juré à nos pères, ce pays où coulent le lait et le miel.
16 Y dydd hwn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn gorchymyn iti gadw'r rheolau a'r deddfau hyn, a gofalu eu cyflawni �'th holl galon ac �'th holl enaid.
16Aujourd'hui, l'Eternel, ton Dieu, te commande de mettre en pratique ces lois et ces ordonnances; tu les observeras et tu les mettras en pratique de tout ton coeur et de toute ton âme.
17 Yr wyt yn cydnabod heddiw mai'r ARGLWYDD yw dy Dduw ac y byddi'n rhodio yn ei lwybrau ac yn cadw ei reolau, ei orchmynion a'i ddeddfau, ac yn ufuddhau iddo.
17Aujourd'hui, tu as fait promettre à l'Eternel qu'il sera ton Dieu, afin que tu marches dans ses voies, que tu observes ses lois, ses commandements et ses ordonnances, et que tu obéisses à sa voix.
18 Y mae'r ARGLWYDD yntau yn cydnabod wrthyt heddiw dy fod yn bobl arbennig iddo'i hun, fel yr addawodd wrthyt, ond iti gadw ei holl orchmynion.
18Et aujourd'hui, l'Eternel t'a fait promettre que tu seras un peuple qui lui appartiendra, comme il te l'a dit, et que tu observeras tous ses commandements,
19 Bydd yn dy osod yn uwch o ran clod, enw ac anrhydedd na'r holl genhedloedd a greodd, ac yn bobl gysegredig i'r ARGLWYDD dy Dduw, fel y dywedodd.
19afin qu'il te donne sur toutes les nations qu'il a créées la supériorité en gloire, en renom et en magnificence, et afin que tu sois un peuple saint pour l'Eternel, ton Dieu, comme il te l'a dit.