Welsh

French 1910

Deuteronomy

9

1 Gwrando, O Israel, yr wyt ti heddiw yn croesi'r Iorddonen i goncro cenhedloedd sy'n fwy ac yn gryfach na thi, a dinasoedd mawr � chaerau cyn uched �'r nefoedd.
1Ecoute, Israël! Tu vas aujourd'hui passer le Jourdain, pour te rendre maître de nations plus grandes et plus puissantes que toi, de villes grandes et fortifiées jusqu'au ciel,
2 Y maent yn ddynion mawr a thal, disgynyddion yr Anacim; fe wyddost ti amdanynt, oherwydd clywaist ddweud, "Pwy a saif o flaen yr Anacim?"
2d'un peuple grand et de haute taille, les enfants d'Anak, que tu connais, et dont tu as entendu dire: Qui pourra tenir contre les enfants d'Anak?
3 Ond deall di heddiw fod yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n croesi o'th flaen, yn d�n ysol, ac y bydd ef yn eu difa a'u darostwng o'th flaen. Byddi dithau'n eu gyrru allan ac yn eu difa yn sydyn, fel yr addawodd yr ARGLWYDD wrthyt.
3Sache aujourd'hui que l'Eternel, ton Dieu, marchera lui-même devant toi comme un feu dévorant, c'est lui qui les détruira, qui les humiliera devant toi; et tu les chasseras, tu les feras périr promptement, comme l'Eternel te l'a dit.
4 Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi eu gyrru allan o'th flaen, paid � dweud, "Daeth yr ARGLWYDD � mi i feddiannu'r wlad hon oherwydd fy nghyfiawnder." Ond o achos drygioni'r cenhedloedd hyn y mae'r ARGLWYDD yn eu gyrru allan o'th flaen.
4Lorsque l'Eternel, ton Dieu, les chassera devant toi, ne dis pas en ton coeur: C'est à cause de ma justice que l'Eternel me fait entrer en possession de ce pays. Car c'est à cause de la méchanceté de ces nations que l'Eternel les chasse devant toi.
5 Nid oherwydd dy gyfiawnder a'th uniondeb yr wyt yn mynd i feddiannu eu gwlad, ond oherwydd drygioni'r cenhedloedd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru allan o'th flaen, ac er mwyn cadarnhau'r gair a dyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob.
5Non, ce n'est point à cause de ta justice et de la droiture de ton coeur que tu entres en possession de leur pays; mais c'est à cause de la méchanceté de ces nations que l'Eternel, ton Dieu, les chasse devant toi, et c'est pour confirmer la parole que l'Eternel a jurée à tes pères, à Abraham, à Isaac et à Jacob.
6 Felly ystyria di nad o achos dy gyfiawnder y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn rhoi iti'r wlad dda hon i'w meddiannu; yn wir, pobl ystyfnig ydych.
6Sache donc que ce n'est point à cause de ta justice que l'Eternel, ton Dieu, te donne ce bon pays pour que tu le possèdes; car tu es un peuple au cou roide.
7 Cofia, a phaid ag anghofio, iti ennyn dig yr ARGLWYDD dy Dduw yn yr anialwch; yr wyt wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r dydd y daethost allan o wlad yr Aifft nes iti ddod i'r lle hwn.
7Souviens-toi, n'oublie pas de quelle manière tu as excité la colère de l'Eternel, ton Dieu, dans le désert. Depuis le jour où tu es sorti du pays d'Egypte jusqu'à votre arrivée dans ce lieu, vous avez été rebelles contre l'Eternel.
8 Digiasoch yr ARGLWYDD yn Horeb, ac yr oedd mor ddig nes iddo fwriadu eich difa.
8A Horeb, vous excitâtes la colère de l'Eternel; et l'Eternel s'irrita contre vous, et eut la pensée de vous détruire.
9 Pan euthum i fyny i'r mynydd i dderbyn y llechau, llechau'r cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD � chwi, fe arhosais ar y mynydd am ddeugain diwrnod a deugain nos heb fwyta nac yfed.
9Lorsque je fus monté sur la montagne, pour prendre les tables de pierre, les tables de l'alliance que l'Eternel a traitée avec vous, je demeurai sur la montagne quarante jours et quarante nuits, sans manger de pain et sans boire d'eau;
10 Rhoddodd yr ARGLWYDD imi y ddwy lechen, llechau yr ysgrifennwyd arnynt gan fys Duw, ac arnynt yr oedd yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y t�n ar y mynydd ar ddydd y cynulliad.
10et l'Eternel me donna les deux tables de pierre écrites du doigt de Dieu, et contenant toutes les paroles que l'Eternel vous avait dites sur la montagne, du milieu du feu, le jour de l'assemblée.
11 Ar ddiwedd y deugain diwrnod a deugain nos, rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r ddwy lechen, llechau'r cyfamod,
11Ce fut au bout des quarante jours et des quarante nuits que l'Eternel me donna les deux tables de pierre, les tables de l'alliance.
12 a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cod, dos i lawr ar unwaith o'r mynydd hwn, oherwydd y mae dy bobl, a ddygaist allan o'r Aifft, wedi gwneud peth llygredig; y maent wedi rhuthro i droi o'r ffordd a orchmynnais iddynt, ac wedi gwneud iddynt eu hunain ddelw dawdd."
12L'Eternel me dit alors: Lève-toi, descends en hâte d'ici; car ton peuple, que tu as fait sortir d'Egypte, s'est corrompu. Ils se sont promptement écartés de la voie que je leur avais prescrite; ils se sont fait une image de fonte.
13 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Gwelais fod y bobl hyn yn bobl ystyfnig.
13L'Eternel me dit: Je vois que ce peuple est un peuple au cou roide.
14 Gad lonydd imi, er mwyn imi eu difa a dileu eu henw o dan y nefoedd, a'th wneud di'n genedl gryfach a mwy niferus na hwy."
14Laisse-moi les détruire et effacer leur nom de dessous les cieux; et je ferai de toi une nation plus puissante et plus nombreuse que ce peuple.
15 Yna trois a dod i lawr o'r mynydd � dwy lechen y cyfamod yn fy nwylo, ac yr oedd y mynydd yn llosgi gan d�n.
15Je retournai et je descendis de la montagne toute en feu, les deux tables de l'alliance dans mes deux mains.
16 Gwelais eich bod wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw trwy wneud i chwi eich hunain ddelw dawdd ar ffurf llo, a rhuthro i droi o'r ffordd a orchmynnodd yr ARGLWYDD ichwi.
16Je regardai, et voici, vous aviez péché contre l'Eternel, votre Dieu, vous vous étiez fait un veau de fonte, vous vous étiez promptement écartés de la voie que vous avait prescrite l'Eternel.
17 Cydiais yn y ddwy lechen a'u taflu o'm dwylo a'u torri yn eich gu373?ydd.
17Je saisis les deux tables, je les jetai de mes mains, et je les brisai sous vos yeux.
18 Yna syrthiais i lawr gerbron yr ARGLWYDD, fel o'r blaen, a b�m am ddeugain diwrnod a deugain nos heb fwyta nac yfed o achos eich holl bechodau, sef gwneud drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD a'i ddigio.
18Je me prosternai devant l'Eternel, comme auparavant, quarante jours et quarante nuits, sans manger de pain et sans boire d'eau, à cause de tous les péchés que vous aviez commis en faisant ce qui est mal aux yeux de l'Eternel, pour l'irriter.
19 Yr oeddwn yn ofni'r dig a'r cynddaredd yr oedd yr ARGLWYDD yn eu dangos tuag atoch gan feddwl eich difa, ond gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf y tro hwn eto.
19Car j'étais effrayé à la vue de la colère et de la fureur dont l'Eternel était animé contre vous jusqu'à vouloir vous détruire. Mais l'Eternel m'exauça encore cette fois.
20 Yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig iawn wrth Aaron ac yn bwriadu ei ddifa, ond ymbiliais ar ei ran yr adeg honno.
20L'Eternel était aussi très irrité contre Aaron, qu'il voulait faire périr, et pour qui j'intercédai encore dans ce temps-là.
21 Cymerais y llo yr oeddech wedi pechu wrth ei wneud, a'i losgi yn y t�n, ei guro a'i falu'n f�n nes ei fod yn llwch, ac yna teflais y llwch i'r nant oedd yn llifo o'r mynydd.
21Je pris le veau que vous aviez fait, ce produit de votre péché, je le brûlai au feu, je le broyai jusqu'à ce qu'il fût réduit en poudre, et je jetai cette poudre dans le torrent qui descend de la montagne.
22 Digiasoch yr ARGLWYDD yn Tabera, yn Massa ac yn Cibroth-hattaafa.
22A Tabeéra, à Massa, et à Kibroth-Hattaava, vous excitâtes la colère de l'Eternel.
23 Yna pan anfonodd yr ARGLWYDD chwi o Cades-barnea a dweud wrthych, "Ewch i fyny i feddiannu'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi", gwrthryfela a wnaethoch yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a gwrthod ymddiried ynddo a gwrando ar ei lais.
23Et lorsque l'Eternel vous envoya à Kadès-Barnéa, en disant: Montez, et prenez possession du pays que je vous donne! vous fûtes rebelles à l'ordre de l'Eternel, votre Dieu, vous n'eûtes point foi en lui, et vous n'obéîtes point à sa voix.
24 Yr ydych wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r dydd y deuthum i'ch adnabod.
24Vous avez été rebelles contre l'Eternel depuis que je vous connais.
25 Yna syrthiais i lawr gerbron yr ARGLWYDD am ddeugain diwrnod a deugain nos, oherwydd iddo ddweud ei fod am eich difa.
25Je me prosternai devant l'Eternel, je me prosternai quarante jours et quarante nuits, parce que l'Eternel avait dit qu'il voulait vous détruire.
26 Gwedd�ais ar yr ARGLWYDD a dweud, "O Arglwydd DDUW, paid � dinistrio dy bobl, dy etifeddiaeth a achubaist �'th gryfder trwy ddod � hwy allan o'r Aifft � llaw gadarn.
26Je priai l'Eternel, et je dis: Seigneur Eternel, ne détruis pas ton peuple, ton héritage, que tu as racheté dans ta grandeur, que tu as fait sortir d'Egypte par ta main puissante.
27 Cofia dy weision, Abraham, Isaac a Jacob; paid ag edrych ar ystyfnigrwydd, drygioni a phechod y bobl hyn,
27Souviens-toi de tes serviteurs, Abraham, Isaac et Jacob. Ne regarde point à l'opiniâtreté de ce peuple, à sa méchanceté et à son péché,
28 rhag i drigolion y wlad y daethost � hwy allan ohoni ddweud, 'Am ei fod yn methu mynd � hwy i'r wlad a addawodd iddynt, ac am ei fod yn eu cas�u, y daeth yr ARGLWYDD � hwy allan i'w lladd yn yr anialwch.'
28de peur que le pays d'où tu nous as fait sortir ne dise: C'est parce que l'Eternel n'avait pas le pouvoir de les mener dans le pays qu'il leur avait promis, et c'est parce qu'il les haïssait, qu'il les a fait sortir pour les faire mourir dans le désert.
29 Ond dy bobl di ydynt, dy etifeddiaeth a ddygaist allan �'th nerth mawr ac �'th fraich estynedig."
29Ils sont pourtant ton peuple et ton héritage, que tu as fait sortir d'Egypte par ta grande puissance et par ton bras étendu.