Welsh

French 1910

Matthew

21

1 Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage a Mynydd yr Olewydd, yna anfonodd Iesu ddau ddisgybl
1Lorsqu'ils approchèrent de Jérusalem, et qu'ils furent arrivés à Bethphagé, vers la montagne des oliviers, Jésus envoya deux disciples,
2 gan ddweud wrthynt, "Ewch i'r pentref sydd gyferbyn � chwi, ac yn syth fe gewch asen wedi ei rhwymo, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hwy a dewch � hwy ataf.
2en leur disant: Allez au village qui est devant vous; vous trouverez aussitôt une ânesse attachée, et un ânon avec elle; détachez-les, et amenez-les-moi.
3 Ac os dywed rhywun rywbeth wrthych, dywedwch, 'Y mae ar y Meistr eu hangen'; a bydd yn eu rhoi ar unwaith."
3Si quelqu'un vous dit quelque chose, vous répondrez: Le Seigneur en a besoin. Et à l'instant il les laissera aller.
4 Digwyddodd hyn fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd:
4Or, ceci arriva afin que s'accomplît ce qui avait été annoncé par le prophète:
5 "Dywedwch wrth ferch Seion, 'Wele dy frenin yn dod atat, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol, llwdn anifail gwaith.'"
5Dites à la fille de Sion: Voici, ton roi vient à toi, Plein de douceur, et monté sur un âne, Sur un ânon, le petit d'une ânesse.
6 Aeth y disgyblion a gwneud fel y gorchmynnodd Iesu iddynt;
6Les disciples allèrent, et firent ce que Jésus leur avait ordonné.
7 daethant �'r asen a'r ebol ato, a rhoesant eu mentyll ar eu cefn, ac eisteddodd Iesu arnynt.
7Ils amenèrent l'ânesse et l'ânon, mirent sur eux leurs vêtements, et le firent asseoir dessus.
8 Taenodd tyrfa fawr iawn eu mentyll ar y ffordd, ac yr oedd eraill yn torri canghennau o'r coed ac yn eu taenu ar y ffordd.
8La plupart des gens de la foule étendirent leurs vêtements sur le chemin; d'autres coupèrent des branches d'arbres, et en jonchèrent la route.
9 Ac yr oedd y tyrfaoedd ar y blaen iddo a'r rhai o'r tu �l yn gweiddi: "Hosanna i Fab Dafydd! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd. Hosanna yn y goruchaf!"
9Ceux qui précédaient et ceux qui suivaient Jésus criaient: Hosanna au Fils de David! Béni soit celui qui vient au nom du Seigneur! Hosanna dans les lieux très hauts!
10 Pan ddaeth ef i mewn i Jerwsalem cynhyrfwyd y ddinas drwyddi. Yr oedd pobl yn gofyn, "Pwy yw hwn?",
10Lorsqu'il entra dans Jérusalem, toute la ville fut émue, et l'on disait: Qui est celui-ci?
11 a'r tyrfaoedd yn ateb, "Y proffwyd Iesu yw hwn, o Nasareth yng Ngalilea."
11La foule répondait: C'est Jésus, le prophète, de Nazareth en Galilée.
12 Aeth Iesu i mewn i'r deml, a bwriodd allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,
12Jésus entra dans le temple de Dieu. Il chassa tous ceux qui vendaient et qui achetaient dans le temple; il renversa les tables des changeurs, et les sièges des vendeurs de pigeons.
13 a dywedodd wrthynt, "Y mae'n ysgrifenedig: 'Gelwir fy nhu375? i yn du375? gweddi, ond yr ydych chwi yn ei wneud yn ogof lladron.'"
13Et il leur dit: Il est écrit: Ma maison sera appelée une maison de prière. Mais vous, vous en faites une caverne de voleurs.
14 A daeth deillion a chloffion ato yn y deml, ac iachaodd hwy.
14Des aveugles et des boiteux s'approchèrent de lui dans le temple. Et il les guérit.
15 Ond pan welodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaeth, a'r plant yn gweiddi yn y deml, "Hosanna i Fab Dafydd!", aethant yn ddig,
15Mais les principaux sacrificateurs et les scribes furent indignés, à la vue des choses merveilleuses qu'il avait faites, et des enfants qui criaient dans le temple: Hosanna au Fils de David!
16 a dywedasant wrtho, "A wyt yn clywed beth y mae'r rhain yn ei ddweud?" Atebodd Iesu, "Ydwyf. Onid ydych erioed wedi darllen: 'O enau babanod a phlant sugno y darperaist fawl i ti dy hun'?"
16Ils lui dirent: Entends-tu ce qu'ils disent? Oui, leur répondit Jésus. N'avez-vous jamais lu ces paroles: Tu as tiré des louanges de la bouche des enfants et de ceux qui sont à la mamelle?
17 Yna gadawodd Iesu hwy ac aeth allan o'r ddinas i Fethania, a threuliodd y nos yno.
17Et, les ayant laissés, il sortit de la ville pour aller à Béthanie, où il passa la nuit.
18 Yn y bore, wrth iddo ddychwelyd i'r ddinas, daeth chwant bwyd arno.
18Le matin, en retournant à la ville, il eut faim.
19 A phan welodd ffigysbren ar fin y ffordd aeth ato, ond ni chafodd ddim arno ond dail yn unig. Dywedodd wrtho, "Na fydded ffrwyth arnat ti byth mwy." Ac ar unwaith crinodd y ffigysbren.
19Voyant un figuier sur le chemin, il s'en approcha; mais il n'y trouva que des feuilles, et il lui dit: Que jamais fruit ne naisse de toi! Et à l'instant le figuier sécha.
20 Pan welodd y disgyblion hyn, fe ryfeddasant a dweud, "Sut y crinodd y ffigysbren ar unwaith?"
20Les disciples, qui virent cela, furent étonnés, et dirent: Comment ce figuier est-il devenu sec en un instant?
21 Atebodd Iesu hwy, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd, heb amau dim, nid yn unig fe wnewch yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, ond hyd yn oed os dywedwch wrth y mynydd hwn, 'Coder di a bwrier di i'r m�r', hynny a fydd.
21Jésus leur répondit: Je vous le dis en vérité, si vous aviez de la foi et que vous ne doutiez point, non seulement vous feriez ce qui a été fait à ce figuier, mais quand vous diriez à cette montagne: Ote-toi de là et jette-toi dans la mer, cela se ferait.
22 A beth bynnag oll y gofynnwch amdano mewn gweddi, os ydych yn credu, fe'i cewch."
22Tout ce que vous demanderez avec foi par la prière, vous le recevrez.
23 Daeth Iesu i'r deml, a phan oedd yn dysgu yno daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ato a gofyn, "Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn?"
23Jésus se rendit dans le temple, et, pendant qu'il enseignait, les principaux sacrificateurs et les anciens du peuple vinrent lui dire: Par quelle autorité fais-tu ces choses, et qui t'a donné cette autorité?
24 Atebodd Iesu hwy, "Fe ofynnaf finnau un peth i chwi, ac os atebwch hwnnw, fe ddywedaf finnau wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.
24Jésus leur répondit: Je vous adresserai aussi une question; et, si vous m'y répondez, je vous dirai par quelle autorité je fais ces choses.
25 Bedydd Ioan, o ble yr oedd? Ai o'r nef ai o'r byd daearol?" Dechreusant ddadlau �'i gilydd a dweud, "Os dywedwn, 'O'r nef', fe ddywed wrthym, 'Pam, ynteu, na chredasoch ef?'
25Le baptême de Jean, d'où venait-il? du ciel, ou des hommes? Mais ils raisonnèrent ainsi entre eux; Si nous répondons: Du ciel, il nous dira: Pourquoi donc n'avez-vous pas cru en lui?
26 Ond os dywedwn, 'O'r byd daearol', y mae arnom ofn y dyrfa, oherwydd y mae pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd."
26Et si nous répondons: Des hommes, nous avons à craindre la foule, car tous tiennent Jean pour un prophète.
27 Atebasant Iesu, "Ni wyddom ni ddim." Ac meddai yntau wrthynt, "Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.
27Alors ils répondirent à Jésus: Nous ne savons. Et il leur dit à son tour: Moi non plus, je ne vous dirai pas par quelle autorité je fais ces choses.
28 "Ond beth yw eich barn chwi ar hyn? Yr oedd dyn a chanddo ddau fab. Aeth at y cyntaf a dweud, 'Fy mab, dos heddiw a gweithia yn y winllan.'
28Que vous en semble? Un homme avait deux fils; et, s'adressant au premier, il dit: Mon enfant, va travailler aujourd'hui dans ma vigne.
29 Atebodd yntau, 'Na wnaf'; ond yn ddiweddarach newidiodd ei feddwl a mynd.
29Il répondit: Je ne veux pas. Ensuite, il se repentit, et il alla.
30 Yna fe aeth y tad at y mab arall a gofyn yr un modd. Atebodd hwnnw, 'Fe af fi, syr'; ond nid aeth.
30S'adressant à l'autre, il dit la même chose. Et ce fils répondit: Je veux bien, seigneur. Et il n'alla pas.
31 Prun o'r ddau a gyflawnodd ewyllys y tad?" "Y cyntaf," meddent. Dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych fod y casglwyr trethi a'r puteiniaid yn mynd i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
31Lequel des deux a fait la volonté du père? Ils répondirent: Le premier. Et Jésus leur dit: Je vous le dis en vérité, les publicains et les prostituées vous devanceront dans le royaume de Dieu.
32 Oherwydd daeth Ioan atoch yn dangos ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef. Ond fe gredodd y casglwyr trethi a'r puteiniaid ef. A chwithau, ar �l ichwi weld hynny, ni newidiasoch eich meddwl a dod i'w gredu.
32Car Jean est venu à vous dans la voie de la justice, et vous n'avez pas cru en lui. Mais les publicains et les prostituées ont cru en lui; et vous, qui avez vu cela, vous ne vous êtes pas ensuite repentis pour croire en lui.
33 "Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tu375? a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tu373?r. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.
33Ecoutez une autre parabole. Il y avait un homme, maître de maison, qui planta une vigne. Il l'entoura d'une haie, y creusa un pressoir, et bâtit une tour; puis il l'afferma à des vignerons, et quitta le pays.
34 A phan ddaeth amser y cynhaeaf yn agos, anfonodd ei weision at y tenantiaid i dderbyn ei ffrwythau.
34Lorsque le temps de la récolte fut arrivé, il envoya ses serviteurs vers les vignerons, pour recevoir le produit de sa vigne.
35 Daliodd y tenantiaid ei weision; curasant un, a lladd un arall a llabyddio un arall.
35Les vignerons, s'étant saisis de ses serviteurs, battirent l'un, tuèrent l'autre, et lapidèrent le troisième.
36 Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd � hwy.
36Il envoya encore d'autres serviteurs, en plus grand nombre que les premiers; et les vignerons les traitèrent de la même manière.
37 Yn y diwedd anfonodd atynt ei fab, gan ddweud, 'Fe barchant fy mab.'
37Enfin, il envoya vers eux son fils, en disant: Ils auront du respect pour mon fils.
38 Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, 'Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.'
38Mais, quand les vignerons virent le fils, ils dirent entre eux: Voici l'héritier; venez, tuons-le, et emparons-nous de son héritage.
39 A chymerasant ef, a'i fwrw allan o'r winllan, a'i ladd.
39Et ils se saisirent de lui, le jetèrent hors de la vigne, et le tuèrent.
40 Felly pan ddaw perchen y winllan, beth a wna i'r tenantiaid hynny?"
40Maintenant, lorsque le maître de la vigne viendra, que fera-t-il à ces vignerons?
41 "Fe lwyr ddifetha'r dyhirod," meddent wrtho, "a gosod y winllan i denantiaid eraill, rhai fydd yn rhoi'r ffrwythau iddo yn eu tymhorau."
41Ils lui répondirent: Il fera périr misérablement ces misérables, et il affermera la vigne à d'autres vignerons, qui lui en donneront le produit au temps de la récolte.
42 Dywedodd Iesu wrthynt, "Onid ydych erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau: 'Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni'?
42Jésus leur dit: N'avez-vous jamais lu dans les Ecritures: La pierre qu'ont rejetée ceux qui bâtissaient Est devenue la principale de l'angle; C'est du Seigneur que cela est venu, Et c'est un prodige à nos yeux?
43 Am hynny 'rwy'n dweud wrthych y cymerir teyrnas Dduw oddi wrthych chwi, ac fe'i rhoddir i genedl sy'n dwyn ei ffrwythau hi.
43C'est pourquoi, je vous le dis, le royaume de Dieu vous sera enlevé, et sera donné à une nation qui en rendra les fruits.
44 A'r sawl sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria."
44Celui qui tombera sur cette pierre s'y brisera, et celui sur qui elle tombera sera écrasé.
45 Pan glywodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid ei ddamhegion, gwyddent mai amdanynt hwy yr oedd yn s�n.
45Après avoir entendu ses paraboles, les principaux sacrificateurs et les pharisiens comprirent que c'était d'eux que Jésus parlait,
46 Yr oeddent yn ceisio ei ddal, ond yr oedd arnynt ofn y tyrfaoedd, am eu bod hwy yn ei gyfrif ef yn broffwyd.
46et ils cherchaient à se saisir de lui; mais ils craignaient la foule, parce qu'elle le tenait pour un prophète.