1 Pan oedd Usseia yn un ar bymtheg oed, cymerodd holl bobl Jwda ef a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia.
1ויקחו כל עם יהודה את עזיהו והוא בן שש עשרה שנה וימליכו אתו תחת אביו אמציהו׃
2 Ef a ailadeiladodd Elath a'i hadfer i Jwda wedi i'r brenin farw.
2הוא בנה את אילות וישיבה ליהודה אחרי שכב המלך עם אבתיו׃
3 Un ar bymtheg oed oedd Usseia pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am hanner cant a dwy o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jecholeia o Jerwsalem oedd enw ei fam.
3בן שש עשרה שנה עזיהו במלכו וחמשים ושתים שנה מלך בירושלם ושם אמו יכיליה מן ירושלם׃
4 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Amaseia.
4ויעש הישר בעיני יהוה ככל אשר עשה אמציהו אביו׃
5 Ceisiodd Dduw yn nyddiau Sechareia; ef a'i dysgodd i ofni Duw, a thra oedd yn ceisio'r ARGLWYDD, rhoddodd Duw lwyddiant iddo.
5ויהי לדרש אלהים בימי זכריהו המבין בראת האלהים ובימי דרשו את יהוה הצליחו האלהים׃
6 Aeth allan i ryfela yn erbyn y Philistiaid, a chwalu muriau Gath, Jabne ac Asdod; yna fe adeiladodd ddinasoedd yng nghyffiniau Asdod ac ymysg y Philistiaid.
6ויצא וילחם בפלשתים ויפרץ את חומת גת ואת חומת יבנה ואת חומת אשדוד ויבנה ערים באשדוד ובפלשתים׃
7 Cynorthwyodd Duw ef yn erbyn y Philistiaid, yr Arabiaid oedd yn byw yn Gur-baal, a'r Meuniaid.
7ויעזרהו האלהים על פלשתים ועל הערביים הישבים בגור בעל והמעונים׃
8 Rhoddodd yr Ammoniaid deyrnged i Usseia, ac yr oedd yn enwog hyd at derfyn yr Aifft am ei fod mor rymus.
8ויתנו העמונים מנחה לעזיהו וילך שמו עד לבוא מצרים כי החזיק עד למעלה׃
9 Adeiladodd Usseia dyrau yn Jerwsalem wrth Borth y Gongl, Porth y Glyn a Thro'r Mur, a'u hatgyfnerthu.
9ויבן עזיהו מגדלים בירושלם על שער הפנה ועל שער הגיא ועל המקצוע ויחזקם׃
10 Adeiladodd dyrau hefyd yn yr anialwch, a chloddio llawer o bydewau, am fod ganddo lawer o anifeiliaid yn y Seffela ac ar y gwastadedd; yr oedd ganddo hefyd lafurwyr a gwinllanwyr yn y mynydd-dir ac yng Ngharmel, oherwydd yr oedd yn hoff o'r tir.
10ויבן מגדלים במדבר ויחצב ברות רבים כי מקנה רב היה לו ובשפלה ובמישור אכרים וכרמים בהרים ובכרמל כי אהב אדמה היה׃
11 Yr oedd gan Usseia fyddin o filwyr yn barod i'r gad, wedi eu trefnu'n rhengoedd gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia y swyddog, yn �l cyfarwyddyd Hananeia, un o swyddogion y brenin.
11ויהי לעזיהו חיל עשה מלחמה יוצאי צבא לגדוד במספר פקדתם ביד יעואל הסופר ומעשיהו השוטר על יד חנניהו משרי המלך׃
12 Cyfanswm pennau-teuluoedd y gwroniaid oedd dwy fil chwe chant.
12כל מספר ראשי האבות לגבורי חיל אלפים ושש מאות׃
13 Dan eu gofal hwy yr oedd byddin o dri chant a saith o filoedd a phum cant o ryfelwyr nerthol i gynorthwyo'r brenin yn erbyn y gelyn.
13ועל ידם חיל צבא שלש מאות אלף ושבעת אלפים וחמש מאות עושי מלחמה בכח חיל לעזר למלך על האויב׃
14 Ar gyfer yr holl fyddin parat�dd Usseia darianau, gwaywffyn, helmau, llurigau, bw�u a cherrig ffyn tafl.
14ויכן להם עזיהו לכל הצבא מגנים ורמחים וכובעים ושרינות וקשתות ולאבני קלעים׃
15 Yn Jerwsalem, gyda chymorth gweithwyr medrus, gwnaeth beiriannau ar gyfer y tyrau a'r conglau, i daflu saethau a cherrig mawr. Yr oedd yn enwog ymhell ac agos, am ei fod yn cael ei gynorthwyo'n rhyfeddol nes iddo ddod yn rymus.
15ויעש בירושלם חשבנות מחשבת חושב להיות על המגדלים ועל הפנות לירוא בחצים ובאבנים גדלות ויצא שמו עד למרחוק כי הפליא להעזר עד כי חזק׃
16 Ond wedi iddo fynd yn rymus aeth ei falchder yn drech nag ef; troseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD ei Dduw trwy fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD i arogldarthu ar allor yr arogldarth.
16וכחזקתו גבה לבו עד להשחית וימעל ביהוה אלהיו ויבא אל היכל יהוה להקטיר על מזבח הקטרת׃
17 Aeth Asareia yr offeiriad i mewn ar ei �l gyda phedwar ugain o wu375?r dewr a oedd yn offeiriaid yr ARGLWYDD.
17ויבא אחריו עזריהו הכהן ועמו כהנים ליהוה שמונים בני חיל׃
18 Safasant o flaen y Brenin Usseia a dweud wrtho, "Nid gennyt ti, Usseia, y mae'r hawl i arogldarthu i'r ARGLWYDD, ond gan yr offeiriaid, meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu. Dos allan o'r cysegr, oherwydd troseddaist; ni chei anrhydedd gan yr ARGLWYDD Dduw."
18ויעמדו על עזיהו המלך ויאמרו לו לא לך עזיהו להקטיר ליהוה כי לכהנים בני אהרן המקדשים להקטיר צא מן המקדש כי מעלת ולא לך לכבוד מיהוה אלהים׃
19 Ffromodd Usseia. Yn ei law yr oedd thuser i arogldarthu, ac fel yr oedd yn ffromi wrth yr offeiriaid fe dorrodd gwahanglwyf allan ar ei dalcen, yn ngu373?ydd yr offeiriaid yn nhu375?'r ARGLWYDD yn ymyl allor yr arogldarth.
19ויזעף עזיהו ובידו מקטרת להקטיר ובזעפו עם הכהנים והצרעת זרחה במצחו לפני הכהנים בבית יהוה מעל למזבח הקטרת׃
20 Edrychodd Asareia yr archoffeiriad a'r holl offeiriaid arno a gweld y gwahanglwyf ar ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno.
20ויפן אליו עזריהו כהן הראש וכל הכהנים והנה הוא מצרע במצחו ויבהלוהו משם וגם הוא נדחף לצאת כי נגעו יהוה׃
21 Aeth yntau allan ar frys, oherwydd i'r ARGLWYDD ei daro. A bu'r Brenin Usseia yn wahanglwyfus hyd ddydd ei farw, yn byw o'r neilltu yn ei du375? o achos y gwahanglwyf, ac wedi ei dorri allan o du375?'r ARGLWYDD. Daeth Jotham ei fab i oruchwylio'r palas ac i reoli pobl y wlad.
21ויהי עזיהו המלך מצרע עד יום מותו וישב בית החפשות מצרע כי נגזר מבית יהוה ויותם בנו על בית המלך שופט את עם הארץ׃
22 Am weddill hanes Usseia, o'r dechrau i'r diwedd, fe'i hysgrifennwyd gan y proffwyd Eseia fab Amos.
22ויתר דברי עזיהו הראשנים והאחרנים כתב ישעיהו בן אמוץ הנביא׃
23 Bu farw Usseia, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr mewn man claddu yn perthyn i'r brenhinoedd, oherwydd dywedasant, "Yr oedd yn wahan-glwyfus." A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.
23וישכב עזיהו עם אבתיו ויקברו אתו עם אבתיו בשדה הקבורה אשר למלכים כי אמרו מצורע הוא וימלך יותם בנו תחתיו׃