Welsh

Hebrew: Modern

Esther

5

1 Ar y trydydd dydd, rhoddodd Esther ei gwisg frenhinol amdani a sefyll yng nghyntedd mewnol y palas gyferbyn ag ystafell y brenin. Yr oedd y brenin yn eistedd ar ei orsedd frenhinol yn y palas gyferbyn �'r fynedfa.
1ויהי ביום השלישי ותלבש אסתר מלכות ותעמד בחצר בית המלך הפנימית נכח בית המלך והמלך יושב על כסא מלכותו בבית המלכות נכח פתח הבית׃
2 Pan welodd y brenin y Frenhines Esther yn sefyll yn y cyntedd, fe enillodd hi ei ffafr, ac estynnodd ati'r deyrnwialen aur oedd yn ei law; daeth hithau yn nes a chyffwrdd � blaen y deyrnwialen.
2ויהי כראות המלך את אסתר המלכה עמדת בחצר נשאה חן בעיניו ויושט המלך לאסתר את שרביט הזהב אשר בידו ותקרב אסתר ותגע בראש השרביט׃
3 Yna dywedodd y brenin wrthi, "Beth sy'n bod, Frenhines Esther? Beth bynnag a geisi, hyd hanner fy nheyrnas, fe'i cei."
3ויאמר לה המלך מה לך אסתר המלכה ומה בקשתך עד חצי המלכות וינתן לך׃
4 Atebodd Esther, "Os gw�l y brenin yn dda, hoffwn iddo ef a Haman ddod i'r wledd a baratoais iddo heddiw."
4ותאמר אסתר אם על המלך טוב יבוא המלך והמן היום אל המשתה אשר עשיתי לו׃
5 Gorchmynnodd y brenin gyrchu Haman ar frys, er mwyn gwneud fel y dymunai Esther; yna fe aeth y brenin a Haman i'r wledd a barat�dd Esther.
5ויאמר המלך מהרו את המן לעשות את דבר אסתר ויבא המלך והמן אל המשתה אשר עשתה אסתר׃
6 Wrth iddynt yfed gwin, dywedodd y brenin wrth Esther, "Fe gei di beth bynnag y gofynni amdano. Gwneir beth bynnag a fynni, hyd hanner y deyrnas."
6ויאמר המלך לאסתר במשתה היין מה שאלתך וינתן לך ומה בקשתך עד חצי המלכות ותעש׃
7 Atebodd Esther, "Dyma fy nghais a'm dymuniad:
7ותען אסתר ותאמר שאלתי ובקשתי׃
8 os cefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac os gw�l ef yn dda roi fy neisyfiad a gwneud fy nymuniad, bydded i'r brenin a Haman ddod i'r wledd yr wyf fi am ei pharatoi iddynt; yna yfory gwnaf fel y mae'r brenin yn dweud."
8אם מצאתי חן בעיני המלך ואם על המלך טוב לתת את שאלתי ולעשות את בקשתי יבוא המלך והמן אל המשתה אשר אעשה להם ומחר אעשה כדבר המלך׃
9 Y diwrnod hwnnw aeth Haman allan yn llawen a hapus. Ond pan welodd ef Mordecai ym mhorth y brenin, ac yntau'n gwrthod codi na dangos parch tuag ato, gwylltiodd yn enbyd ag ef;
9ויצא המן ביום ההוא שמח וטוב לב וכראות המן את מרדכי בשער המלך ולא קם ולא זע ממנו וימלא המן על מרדכי חמה׃
10 ond ymataliodd, ac aeth adref. Yna galwodd ar ei gyfeillion, a'i wraig Seres,
10ויתאפק המן ויבוא אל ביתו וישלח ויבא את אהביו ואת זרש אשתו׃
11 ac adroddodd wrthynt am ei olud mawr, am nifer ei feibion, ac am y modd y dyrchafodd y brenin ef trwy ei osod uwchlaw'r tywysogion a'r gweision.
11ויספר להם המן את כבוד עשרו ורב בניו ואת כל אשר גדלו המלך ואת אשר נשאו על השרים ועבדי המלך׃
12 Ac ychwanegodd, "Ni wahoddodd y Frenhines Esther neb ond myfi i fynd gyda'r brenin i'r wledd a wnaeth; ac fe'm gwahoddodd i fynd ati yfory eto gyda'r brenin.
12ויאמר המן אף לא הביאה אסתר המלכה עם המלך אל המשתה אשר עשתה כי אם אותי וגם למחר אני קרוא לה עם המלך׃
13 Ond nid yw hyn oll yn rhoi unrhyw foddhad i mi tra gwelaf Mordecai yr Iddew yn eistedd ym mhorth y brenin."
13וכל זה איננו שוה לי בכל עת אשר אני ראה את מרדכי היהודי יושב בשער המלך׃
14 Dywedodd Seres ei wraig a phob un o'i gyfeillion wrtho, "Gwneler crocbren hanner can cufydd o uchder, ac yn y bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno. Yna dos yn llawen i'r wledd gyda'r brenin." Yr oedd hyn wrth fodd Haman, ac fe wnaeth y crocbren.
14ותאמר לו זרש אשתו וכל אהביו יעשו עץ גבה חמשים אמה ובבקר אמר למלך ויתלו את מרדכי עליו ובא עם המלך אל המשתה שמח וייטב הדבר לפני המן ויעש העץ׃