Welsh

Hebrew: Modern

Job

2

1 Unwaith eto daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy.
1ויהי היום ויבאו בני האלהים להתיצב על יהוה ויבוא גם השטן בתכם להתיצב על יהוה׃
2 Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, "O ble y daethost ti?" Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, "O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti."
2ויאמר יהוה אל השטן אי מזה תבא ויען השטן את יהוה ויאמר משט בארץ ומהתהלך בה׃
3 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, "A sylwaist ti ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gu373?r cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg. Y mae'n dal i lynu wrth ei uniondeb, er i ti fy annog i'w ddifetha'n ddiachos."
3ויאמר יהוה אל השטן השמת לבך אל עבדי איוב כי אין כמהו בארץ איש תם וישר ירא אלהים וסר מרע ועדנו מחזיק בתמתו ותסיתני בו לבלעו חנם׃
4 Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, "Croen am groen! Fe rydd dyn y cyfan sydd ganddo am ei einioes.
4ויען השטן את יהוה ויאמר עור בעד עור וכל אשר לאיש יתן בעד נפשו׃
5 Ond estyn di dy law a chyffwrdd �'i esgyrn a'i gnawd; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb."
5אולם שלח נא ידך וגע אל עצמו ואל בשרו אם לא אל פניך יברכך׃
6 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, "Wele ef yn dy law; yn unig arbed ei einioes."
6ויאמר יהוה אל השטן הנו בידך אך את נפשו שמר׃
7 Ac aeth Satan allan o u373?ydd yr ARGLWYDD. Trawyd Job � chornwydydd blin o wadn ei droed i'w gorun,
7ויצא השטן מאת פני יהוה ויך את איוב בשחין רע מכף רגלו עד קדקדו׃
8 a chymerodd ddarn o lestr pridd i'w grafu ei hun, ac eisteddodd ar y domen ludw.
8ויקח לו חרש להתגרד בו והוא ישב בתוך האפר׃
9 Dywedodd ei wraig wrtho, "A wyt am barhau i lynu wrth d'uniondeb? Melltithia Dduw a bydd farw."
9ותאמר לו אשתו עדך מחזיק בתמתך ברך אלהים ומת׃
10 Ond dywedodd ef wrthi, "Yr wyt yn llefaru fel dynes ff�l; os derbyniwn dda gan Dduw, oni dderbyniwn ddrwg hefyd?" Yn hyn i gyd ni phechodd Job � gair o'i enau.
10ויאמר אליה כדבר אחת הנבלות תדברי גם את הטוב נקבל מאת האלהים ואת הרע לא נקבל בכל זאת לא חטא איוב בשפתיו׃
11 Yna clywodd tri chyfaill Job am y cystudd trwm a ddaeth arno. Daeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, pob un o'i le ei hun, a chytuno �'i gilydd i ddod i gydymdeimlo ag ef a'i gysuro.
11וישמעו שלשת רעי איוב את כל הרעה הזאת הבאה עליו ויבאו איש ממקמו אליפז התימני ובלדד השוחי וצופר הנעמתי ויועדו יחדו לבוא לנוד לו ולנחמו׃
12 Pan welsant ef o'r pellter, nid oeddent yn ei adnabod; yna wylasant yn uchel a rhwygo'u dillad a thaflu llwch dros eu pennau i'r awyr.
12וישאו את עיניהם מרחוק ולא הכירהו וישאו קולם ויבכו ויקרעו איש מעלו ויזרקו עפר על ראשיהם השמימה׃
13 Eisteddasant ar y llawr gydag ef am saith diwrnod a saith nos. Ni ddywedodd yr un ohonynt air wrtho, am eu bod yn gweld fod ei boen yn fawr.
13וישבו אתו לארץ שבעת ימים ושבעת לילות ואין דבר אליו דבר כי ראו כי גדל הכאב מאד׃