1 1 I Ddafydd. Masc�l.0 Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod.
1לדוד משכיל אשרי נשוי פשע כסוי חטאה׃
2 Gwyn ei fyd y sawl nad yw'r ARGLWYDD yn cyfrif ei fai yn ei erbyn, ac nad oes dichell yn ei ysbryd.
2אשרי אדם לא יחשב יהוה לו עון ואין ברוחו רמיה׃
3 Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod, a minnau'n cwyno ar hyd y dydd.
3כי החרשתי בלו עצמי בשאגתי כל היום׃
4 Yr oedd dy law yn drwm arnaf ddydd a nos; sychwyd fy nerth fel gan wres haf. Sela.
4כי יומם ולילה תכבד עלי ידך נהפך לשדי בחרבני קיץ סלה׃
5 Yna, bu imi gydnabod fy mhechod wrthyt, a pheidio � chuddio fy nrygioni; dywedais, "Yr wyf yn cyffesu fy mhechodau i'r ARGLWYDD"; a bu i tithau faddau euogrwydd fy mhechod. Sela.
5חטאתי אודיעך ועוני לא כסיתי אמרתי אודה עלי פשעי ליהוה ואתה נשאת עון חטאתי סלה׃
6 Am hynny fe wedd�a pob un ffyddlon arnat ti yn nydd cyfyngder, a phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd mawr, ni fyddant yn cyrraedd ato ef.
6על זאת יתפלל כל חסיד אליך לעת מצא רק לשטף מים רבים אליו לא יגיעו׃
7 Yr wyt ti'n gysgod i mi; cedwi fi rhag cyfyngder; amgylchi fi � chaneuon gwaredigaeth. Sela.
7אתה סתר לי מצר תצרני רני פלט תסובבני סלה׃
8 Hyfforddaf di a'th ddysgu yn y ffordd a gymeri; fe gadwaf fy ngolwg arnat.
8אשכילך ואורך בדרך זו תלך איעצה עליך עיני׃
9 Paid � bod fel march neu ful direswm y mae'n rhaid wrth ffrwyn a genfa i'w dofi cyn y d�nt atat.
9אל תהיו כסוס כפרד אין הבין במתג ורסן עדיו לבלום בל קרב אליך׃
10 Daw poenau lawer i'r drygionus; ond am y sawl sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD, bydd ffyddlondeb yn ei amgylchu.
10רבים מכאובים לרשע והבוטח ביהוה חסד יסובבנו׃
11 Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, a gorfoleddwch, rai cyfiawn; canwch yn uchel, pob un o galon gywir.
11שמחו ביהוה וגילו צדיקים והרנינו כל ישרי לב׃