1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Gwyn ei fyd y sawl sy'n ystyried y tlawd. Bydd yr ARGLWYDD yn ei waredu yn nydd adfyd;
1למנצח מזמור לדוד אשרי משכיל אל דל ביום רעה ימלטהו יהוה׃
2 bydd yr ARGLWYDD yn ei warchod ac yn ei gadw'n fyw; bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir, ac ni rydd mohono i fympwy ei elynion.
2יהוה ישמרהו ויחיהו יאשר בארץ ואל תתנהו בנפש איביו׃
3 Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal ar ei wely cystudd, ac yn cyweirio'i wely pan fo'n glaf.
3יהוה יסעדנו על ערש דוי כל משכבו הפכת בחליו׃
4 Dywedais innau, "O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf; iach� fi, oherwydd pechais yn d'erbyn."
4אני אמרתי יהוה חנני רפאה נפשי כי חטאתי לך׃
5 Fe ddywed fy ngelynion yn faleisus amdanaf, "Pa bryd y bydd farw ac y derfydd ei enw?"
5אויבי יאמרו רע לי מתי ימות ואבד שמו׃
6 Pan ddaw un i'm gweld, y mae'n siarad yn rhagrithiol, ond yn ei galon yn casglu newydd drwg amdanaf, ac yn mynd allan i'w daenu ar led.
6ואם בא לראות שוא ידבר לבו יקבץ און לו יצא לחוץ ידבר׃
7 Y mae'r holl rai sy'n fy nghas�u yn sisial �'i gilydd, yn meddwl y gwaethaf amdanaf,
7יחד עלי יתלחשו כל שנאי עלי יחשבו רעה לי׃
8 ac yn dweud, "Y mae rhywbeth marwol wedi cydio ynddo; y mae'n orweiddiog, ac ni chyfyd eto."
8דבר בליעל יצוק בו ואשר שכב לא יוסיף לקום׃
9 Y mae hyd yn oed fy nghyfaill agos, y b�m yn ymddiried ynddo, ac a fu'n bwyta wrth fy mwrdd, yn codi ei sawdl yn f'erbyn.
9גם איש שלומי אשר בטחתי בו אוכל לחמי הגדיל עלי עקב׃
10 O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf ac adfer fi, imi gael talu'n �l iddynt.
10ואתה יהוה חנני והקימני ואשלמה להם׃
11 Wrth hyn y gwn dy fod yn fy hoffi: na fydd fy ngelyn yn cael gorfoledd o'm plegid.
11בזאת ידעתי כי חפצת בי כי לא יריע איבי עלי׃
12 Ond byddi di'n fy nghynnal yn fy nghywirdeb, ac yn fy nghadw yn dy bresenoldeb byth.
12ואני בתמי תמכת בי ותציבני לפניך לעולם׃
13 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. Amen ac Amen.
13ברוך יהוה אלהי ישראל מהעולם ועד העולם אמן ואמן׃