Welsh

Korean

1 Chronicles

20

1 Tua throad y flwyddyn, yr adeg y byddai'r brenhinoedd yn mynd i ryfela, arweiniodd Joab y fyddin allan a distrywio Ammon a gosod Rabba dan warchae; ond fe arhosodd Dafydd yn Jerwsalem. Trawodd Joab Rabba a'i dinistrio.
1해가 돌아와서 왕들의 출전할 때가 되매 요압이 그 군대를 거느리고 나가서 암몬 자손의 땅을 훼파하고 가서 랍바를 에워싸고 다윗은 예루살렘에 그대로 있더니 요압이 랍바를 쳐서 함락시키매
2 Yna cymerodd Dafydd goron eu brenin oddi ar ei ben a chael ei bod yn pwyso talent o aur, a bod gem gwerthfawr ynddi; fe'i rhoed ar ben Dafydd.
2다윗이 그 왕의 머리에서 보석있는 면류관을 취하여 달아보니 중량이 금 한 달란트라 그 면류관을 자기 머리에 쓰니라 다윗이 또 그 성에서 노략한 물건을 무수히 내어오고
3 Dygodd o'r ddinas lawer o ysbail, ac aeth �'r bobl oedd ynddi ymaith a'u gosod i lafurio � llifiau a cheibiau heyrn a bwyeill. Gwnaeth Dafydd yr un modd � holl drefi'r Ammoniaid, ac yna dychwelodd ef a'r holl fyddin i Jerwsalem.
3그 가운데 백성을 끌어 내어 톱질과 써레질과 도끼질을 하게 하니라 다윗이 암몬 자손의 모든 성읍을 이같이 하고 모든 백성과 함께 예루살렘으로 돌아오니라
4 Ar �l hynny bu rhyfel yn erbyn y Philistiaid yn Geser. Y tro hwnnw lladdwyd Sippai, un o dylwyth y Reffaim, gan Sibbechai yr Husathiad.
4이 후에 블레셋 사람과 게셀에서 전쟁할 때에 후사 사람 십브개가 장대한 자의 아들중에 십배를 쳐 죽이매 저희가 항복하였더라
5 A bu rhyfel eilwaith yn erbyn y Philistiaid, a lladdwyd Lahmi, brawd Goliath o Gath, gan Elhanan fab Jair; yr oedd coes gwaywffon Goliath fel carfan gwehydd.
5다시 블레셋 사람과 전쟁할 때에 야일의 아들 엘하난이 가드 사람 골리앗의 아우 라흐미를 죽였는데 이 사람의 창자루는 베틀채 같았더라
6 Pan fu rhyfel eto yn Gath, yr oedd yno gawr o ddyn gyda chwech o fysedd ar bob llaw a throed, pedwar ar hugain i gyd; ac yr oedd yntau yn hanu o'r Reffaim.
6또 가드에서 전쟁할 때에 그 곳에 키 큰 자 하나는 매 손과 매 발에 가락이 여섯씩 모두 스물 넷이 있는데 저도 장대한 자의 소생이라
7 Bwriodd sen ar Israel, ond lladdwyd ef gan Jonathan fab Simei, brawd Dafydd.
7저가 이스라엘을 능욕하는 고로 다윗의 형 시므아의 아들 요나단이 저를 죽이니라
8 Yr oedd y rhain yn hanu o'r Reffaim yn Gath, a chwympasant trwy law Dafydd a'i weision.
8가드 장대한 자의 소생이라도 다윗의 손과 그 신복의 손에 다 죽었더라