Welsh

Korean

1 Kings

15

1 Yn y ddeunawfed flwyddyn i'r Brenin Jeroboam fab Nebat, daeth Abeiam yn frenin ar Jwda.
1느밧의 아들 여로보암 왕 제 십팔년에 아비얌이 유다 왕이 되고
2 Teyrnasodd am dair blynedd yn Jerwsalem, a Maacha merch Abisalom oedd enw ei fam.
2예루살렘에서 삼년을 치리하니라 그 모친의 이름은 마아가라 아비살롬의 딸이더라
3 Dilynodd yr holl bechodau a gyflawnodd ei dad o'i flaen, a'i galon heb fod yn berffaith gywir i'r ARGLWYDD ei Dduw fel yr oedd calon ei dad Dafydd.
3아비얌이 그 부친의 이미 행한 모든 죄를 행하고 그 마음이 그 조상 다윗의 마음 같지 아니하여 그 하나님 여호와 앞에 온전치 못하였으나
4 Ond er mwyn Dafydd rhoddodd yr ARGLWYDD ei Dduw lamp iddo yn Jerwsalem, a sefydlu ei fab ar ei �l a sicrhau Jerwsalem,
4그 하나님 여호와께서 다윗을 위하여 예루살렘에서 저에게 등불을 주시되 그 아들을 세워 후사가 되게 하사 예루살렘을 견고케 하셨으니
5 am fod Dafydd wedi gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb wyro oddi wrth ddim a orchmynnodd iddo drwy ei oes, ar wah�n i achos Ureia'r Hethiad.
5이는 다윗이 헷 사람 우리아의 일 외에는 평생에 여호와 보시기에 정직히 행하고 자기에게 명하신 모든 일을 어기지 아니하였음이라
6 Ond bu rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam ar hyd ei oes.
6르호보암과 여로보암 사이에 사는 날 동안 전쟁이 있었더니
7 Ac onid yw gweddill hanes Abeiam, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? Bu rhyfel hefyd rhwng Abeiam a Jeroboam.
7아비얌과 여로보암 사이에도 전쟁이 있으니라 아비얌의 남은 사적과 무릇 행한 일이 유다 왕 역대지략에 기록되지 아니하였느냐
8 Pan fu farw Abeiam, claddwyd ef yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le.
8아비얌이 그 열조와 함께 자니 다윗성에 장사되고 그 아들 아사가 대신하여 왕이 되니라
9 Yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel y daeth Asa yn frenin Jwda.
9이스라엘 왕 여로보암 제 이십년에 아사가 유다 왕이 되어
10 Teyrnasodd am un mlynedd a deugain yn Jerwsalem, a Maacha merch Abisalom oedd enw ei fam.
10예루살렘에서 사십 일년을 치리하니라 그 모친의 이름은 마아가라 아비살롬의 딸이더라
11 Gwnaeth Asa yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath �'i dad Dafydd.
11아사가 그 조상 다윗같이 여호와 보시기에 정직하게 행하여
12 Trodd buteinwyr y cysegr allan o'r wlad a symud ymaith yr eilunod a wnaeth ei ragflaenwyr.
12남색하는 자를 그 땅에서 쫓아내고 그 열조의 지은 모든 우상을 없이 하고
13 At hyn fe ddiswyddodd ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw a'i llosgi yn nant Cidron.
13또 그 모친 마아가가 아세라의 가증한 우상을 만들었으므로 태후의 위를 폐하고 그 우상을 찍어서 기드론 시냇가에서 불살랐으나
14 Ni symudwyd yr uchelfeydd; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes.
14오직 산당은 없이하지 아니하니라 그러나 아사의 마음이 일평생 여호와 앞에 온전하였으며
15 Dygodd i du375?'r ARGLWYDD yr addunedau o arian, aur a llestri a addawodd ei dad ac yntau.
15저가 그 부친의 구별한 것과 자기의 구별한 것을 여호와의 전에 받들어 드렸으니 곧 은과 금과 기명들이더라
16 Bu rhyfel rhwng Asa a Baasa brenin Israel ar hyd eu hoes.
16아사와 이스라엘 왕 바아사 사이에 일생 전쟁이 있으니라
17 Aeth Baasa brenin Israel yn erbyn Jwda ac adeiladu Rama, rhag gadael i neb fynd a dod at Asa brenin Jwda.
17이스라엘 왕 바아사가 유다를 치러 올라와서 라마를 건축하여 사람을 유다 왕 아사에게 왕래하지 못하게 하려 한지라
18 Yna cymerodd Asa'r holl arian ac aur a adawyd yn nhrysorfeydd tu375?'r ARGLWYDD a thu375?'r brenin, a'u rhoi i'w weision a'u hanfon i Ben-hadad fab Tabrimon, fab Hesion, brenin Syria, a oedd yn byw yn Namascus, a dweud,
18아사가 여호와의 전 곳간과 왕궁 곳간에 남은 은,금을 몰수히 취하여 그 신복의 손에 붙여 다메섹에 거한 아람 왕 헤시온의 손자 다브림몬의 아들 벤하닷에게 보내며 가로되
19 "Bydded cyfamod rhyngof fi a thi, fel yr oedd rhwng fy nhad a'th dad. Rwy'n anfon atat rodd o arian ac aur; tor dy gyfamod gyda Baasa brenin Israel er mwyn iddo gilio'n �l oddi wrthyf."
19`나와 당신 사이에 약조가 있고 내 부친과 당신의 부친 사이에도 있었느니라 내가 당신에게 은금 예물을 보내었으니 와서 이스라엘 왕 바아사와 세운 약조를 깨뜨려서 저로 나를 떠나게 하라'하매
20 Gwrandawodd Ben-hadad ar y Brenin Asa, ac anfon swyddogion ei gatrodau yn erbyn trefi Israel, ac ymosod ar Ijon a Dan ac Abel-beth-maacha a Cinneroth i gyd, a holl wlad Nafftali.
20벤하닷이 아사 왕의 말을 듣고 그 군대장관들을 보내어 이스라엘 성들을 치되 이욘과 단과 아벨벧마아가와 긴네렛 온 땅과 납달리 온 땅을 쳤더니
21 Pan glywodd Baasa, rhoddodd heibio adeiladu Rama ac ymsefydlodd yn Tirsa.
21바아사가 듣고 라마 건축하는 일을 그치고 디르사에 거하니라
22 Yna gorch-mynnodd y Brenin Asa holl Jwda yn ddieithriad i gymryd meini a choed Rama, y bu Baasa yn ei hadeiladu; a defnyddiodd hwy i adeiladu Geba Benjamin a Mispa.
22이에 아사 왕이 온 유다에 영을 내려 한 사람도 모면하지 못하게 하여 바아사가 라마를 건축하던 돌과 재목을 가져오게 하고 그것으로 베냐민의 게바와 미스바를 건축하였더라
23 Ac onid yw gweddill hanes Asa, ei holl wrhydri, y cwbl a wnaeth, a'r dinasoedd a adeiladodd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda, oddieithr iddo yn ei henaint ddioddef o glefyd yn ei draed?
23아사의 남은 사적과 모든 권세와 무릇 그 행한 일과 성읍을 건축한 것이 유다 왕 역대지략에 기록되지 아니하였느냐 그러나 저가 늙을 때에 발에 병이 있었더라
24 Pan fu farw, claddwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd; a daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le.
24아사가 그 열조와 함께 자매 그 열조와 함께 그 조상 다윗의 성에 장사되고 그 아들 여호사밧이 대신하여 왕이 되니라
25 Daeth Nadab fab Jeroboam yn frenin ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda, a theyrnasu am ddwy flynedd ar Israel.
25유다 왕 아사 제 이년에 여로보암의 아들 나답이 이스라엘 왕이 되어 이년을 이스라엘을 다스리니라
26 Gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybr a phechod ei dad, a barodd i Israel bechu.
26저가 여호와 보시기에 악을 행하되 그 아비의 길로 행하며 그가 이스라엘로 범하게 한 그 죄중에 행한지라
27 Gwnaeth Baasa fab Aheia o lwyth Issachar gynllwyn yn ei erbyn, a'i daro i lawr ger Gibbethon, a oedd ym meddiant y Philistiaid, gan fod Nadab yn gwarchae ar Gibbethon gyda holl Israel.
27이에 잇사갈 족속 아히야의 아들 바아사가 저를 모반하여 블레셋 사람에게 속한 깁브돈에서 저를 죽였으니 이는 나답과 온 이스라엘이 깁브돈을 에워싸고 있었음이더라
28 Lladdodd Baasa ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda, a theyrnasodd yn ei le.
28유다 왕 아사 제 삼년에 바아사가 나답을 죽이고 대신하여 왕이 되고
29 Pan ddaeth yn frenin, trawodd holl deulu Jeroboam a'u difa, heb adael un perchen anadl i Jeroboam, yn unol � gair yr ARGLWYDD drwy ei was Aheia o Seilo.
29왕이 될 때에 여로보암의 온 집을 쳐서 생명 있는 자를 하나도 남기지 아니하고 다 멸하였는데 여호와께서 그 종 실로 사람 아히야로 하신 말씀과 같이 되었으니
30 Digwyddodd hyn oherwydd y pechodau a wnaeth Jeroboam, a barodd i Israel bechu wrth ddigio yr ARGLWYDD, Duw Israel.
30이는 여로보암이 범죄하고 또 이스라엘로 범하게 한 죄로 인함이며 또 저가 이스라엘 하나님 여호와의 노를 격동시킨 일을 인함이었더라
31 Ac onid yw gweddill hanes Nadab, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
31나답의 남은 사적과 무릇 행한 일이 이스라엘 왕 역대지략에 기록되지 아니하였느냐
32 Bu rhyfel rhwng Asa a Baasa brenin Israel ar hyd eu hoes.
32아사와 이스라엘 왕 바아사 사이에 일생 전쟁이 있으니라
33 Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda daeth Baasa fab Aheia yn frenin ar Israel yn Tirsa, a theyrnasu am bedair blynedd ar hugain.
33유다 왕 아사 제 삼년에 아히야의 아들 바아사가 디르사에서 온이스라엘의 왕이 되어 이십 사년을 치리하니라
34 Gwnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD a dilyn llwybr a phechod Jeroboam, a barodd i Israel bechu.
34바아사가 여호와 보시기에 악을 행하되 여로보암의 길로 행하며 그가 이스라엘로 범하게 한 그 죄중에 행하였더라