Welsh

Korean

1 Kings

4

1 Yr oedd Solomon yn frenin ar holl Israel.
1솔로몬 왕이 온 이스라엘의 왕이 되었고
2 Dyma weinidogion y goron: Asareia fab Sadoc yn offeiriad;
2그의 신하들은 이러하니라 사독의 아들 아사리아는 제사장이요
3 Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, yn ysgrifenyddion; Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur;
3시사의 아들 엘리호렙과, 아히야는 서기관이요 아힐룻의 아들 여호사밧은 사관이요
4 Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin; Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid;
4여호야다의 아들 브나야는 군대장관이요, 사독과 아비아달은 제사장이요
5 Asareia fab Nathan yn bennaeth y rhaglawiaid; Sabud fab Nathan, yr offeiriad, yn gyfaill y brenin;
5나단의 아들 아사리아는 관리장이요, 나단의 아들 사붓은 대신이니 왕의 벗이요
6 Ahisar yn arolygwr y tu375?; Adoniram fab Abda yn swyddog llafur gorfod.
6아히살은 궁내대신이요, 압다의 아들 아도니람은 감역관이더라
7 Yr oedd gan Solomon ddeuddeg rhaglaw yn holl Israel yn gofalu am ymborth y brenin a'i du375?; am fis yn y flwyddyn y gofalai pob un am yr ymborth.
7솔로몬이 또 온 이스라엘 위에 열 두 관장을 두매 그 사람들이 왕과 왕실을 위하여 식물을 예비하되 각기 일년에 한달씩 식물을 예비하였으니
8 Dyma'u henwau: Ben-hur yn ucheldir Effraim;
8그 이름은 이러하니라 에브라임 산지에는 벤훌이요
9 Ben-decar yn Macas a Saalbim a Beth-semes ac Elon-beth-hanan;
9마가스와, 사알빔과, 벧세메스와, 엘론벧하난에는 벤데겔이요
10 Ben-hesed yn Aruboth (ganddo ef yr oedd Socho a holl diriogaeth Heffer);
10아룹봇에는 벤헤셋이니 소고와 헤벨 온 땅을 저가 주관하였으며
11 Ben-abinadab yn holl Naffath-dor (Taffath, merch Solomon, oedd ei wraig);
11돌 높은 땅 온 지방에는 벤아비나답이니 저는 솔로몬의 딸 다밧으로 아내를 삼았으며
12 Baana fab Ahilud yn Taanach a Megido a holl Beth-sean, sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Beth-sean hyd Abel-mehola a thu hwnt i Jocmeam;
12다아낙과, 므깃도와, 이스르엘 아래 사르단 가에 있는 벧소안 온 땅은 아힐룻의 아들 바아나가 맡았으니 벧소안에서부터 아벨므홀라에 이르고 욕느암 바깥까지 미쳤으며
13 Ben-geber yn Ramoth-gilead (ganddo ef yr oedd Hafoth-jair fab Manasse, sydd yn Gilead, a Hebel-argob, sydd yn Basan � trigain o ddinasoedd mawr � chaerau a barrau pres);
13길르앗 라못에는 벤게벨이니 저는 길르앗에 있는 므낫세의 아들 야일의 모든 촌을 주관하였고 또 바산 아르곱 땅의 성벽과 놋빗 장 있는 큰 성읍 육십을 주관하였으며
14 Ahinadab fab Ido yn Mahanaim;
14마하나임에는 잇도의 아들 아히나답이요
15 Ahimaas yn Nafftali (cymerodd ef Basemath, merch Solomon, yn wraig);
15납달리에는 아히마아스니 저는 솔로몬의 딸 바스맛으로 아내를 삼았으며
16 Baana fab Jusai yn Aser ac Aloth;
16아셀과 아롯에는 후새의 아들 바아나요
17 Jehosaffat fab Parus yn Issachar;
17잇사갈에는 바루아의 아들 여호사밧이요
18 Simei fab Ela yn Benjamin;
18베냐민에는 엘라의 아들 시므이요
19 Geber fab Uri yn nhiriogaeth Gilead (gwlad Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Basan). Yr oedd un prif raglaw dros y wlad.
19아모리 사람의 왕 시혼과 바산왕 옥의 나라 길르앗 땅에는 우리의 아들 게벨이니 그 땅에서는 저 한사람만 관장이 되었더라
20 Yr oedd Jwda ac Israel mor niferus �'r tywod ar lan y m�r; yr oeddent yn bwyta ac yn yfed yn llawen.
20유다와 이스라엘의 인구가 바닷가의 모래 같이 많게 되매 먹고 마시며 즐거워하였으며
21 Yr oedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd o afon Ewffrates drwy wlad Philistia at derfyn yr Aifft, a hwythau'n dwyn teyrnged ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei fywyd.
21솔로몬이 하수에서부터 블레셋 사람의 땅에 이르기까지와 애굽지경에 미치기까지의 모든 나라를 다스리므로 그 나라들이 공을 바쳐 솔로몬의 사는 동안에 섬겼더라
22 Ymborth beunyddiol Solomon oedd deg corus ar hugain o beilliaid a thrigain corus o flawd;
22솔로몬의 일일분 식물은 가는 밀가루가 삼십석이요, 굵은 밀가루가 육십석이요,
23 deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen o'r borfa, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, gafrewigod, ewigod, a dofednod breision.
23살진 소가 열이요, 초장의 소가 스물이요, 양이 일백이며, 그 외에 수사슴과, 노루와, 암사슴과, 살진 새들이었더라
24 Yr oedd yn llywodraethu'n frenin dros y gwledydd i'r gorllewin o'r Ewffrates, o Tiffsa hyd Gasa, dros yr holl frenhinoedd i'r gorllewin o'r afon.
24솔로몬이 하수 이편을 딥사에서부터 가사까지 모두 다스리므로 하수 이편의 모든 왕이 다 관할한 바 되매 저가 사방에 둘린 민족과 평화가 있었으니
25 Cafodd heddwch ar bob tu, ac yr oedd Jwda ac Israel yn trigo'n ddiogel, holl ddyddiau Solomon, pob un dan ei winwydden a'i ffigysbren, o Dan hyd Beerseba.
25솔로몬의 사는 동안에 유다와 이스라엘이 단에서부터 브엘세바에 이르기 까지 각기 포도나무 아래와 무화과나무 아래서 안연히 살았더라
26 Yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau ar gyfer ei geffylau-cerbyd, a deuddeng mil o feirch.
26솔로몬의 병거의 말의 외양간이 사만이요, 마병이 일만 이천이며
27 Gofalai'r rhaglawiaid hynny, pob un yn ei fis, am ymborth ar gyfer y Brenin Solomon a phawb a dd�i at ei fwrdd; nid oedd dim yn eisiau.
27그 관장들은 각각 자기 달에 솔로몬왕과 왕의 상에 참여하는 모든 자를 위하여 먹을 것을 예비하여 부족함이 없게 하였으며
28 Dygent hefyd haidd a gwellt i'r ceffylau a'r meirch cyflym, i'r man lle'r oedd i fod, pob un yn �l a ddisgwylid ganddo.
28또 저희가 각기 직무를 따라 말과 준마에게 먹일 보리와 꼴을 그 말의 있는 곳으로 가져왔더라
29 Rhoddodd Duw i Solomon ddoeth-ineb a deall helaeth, ac amgyffrediad mor eang � thraeth y m�r.
29하나님이 솔로몬에게 지혜와 총명을 심히 많이 주시고 또 넓은 마음을 주시되 바닷가의 모래 같이 하시니
30 Rhagorodd doethineb Solomon ar ddoethineb holl bobl y Dwyrain a'r Aifft;
30솔로몬의 지혜가 동양 모든 사람의 지혜와 애굽의 모든 지혜보다 뛰어난지라
31 yr oedd yn ddoethach nag unrhyw un, hyd yn oed Ethan yr Esrahiad, neu Heman, Calcol a Darda, meibion Mahol; yr oedd ei fri wedi ymledu trwy'r holl genhedloedd oddi amgylch.
31저는 모든 사람보다 지혜로와서 예스라 사람 에단과, 마홀의 아들 헤만과 갈골과, 다르다보다 나으므로 그 이름이 사방 모든 나라에 들렸더라
32 Llefarodd dair mil o ddiarhebion, ac yr oedd ei ganeuon yn rhifo mil a phump.
32저가 잠언 삼천을 말하였고 그 노래는 일천 다섯이며
33 Traethodd am brennau, o'r cedrwydd sydd yn Lebanon hyd yr isop sy'n tyfu o'r pared; hefyd am anifeiliaid ac ehediaid, am ymlusgiaid a physgod.
33저가 또 초목을 논하되 레바논 백향목으로부터 담에 나는 우슬초까지 하고 저가 또 짐승과 새와 기어 다니는 것과 물고기를 논한지라
34 Daethant o bob cenedl i wrando doethineb Solomon, ac o blith holl frenhinoedd y ddaear a glywodd am ei ddoethineb.
34모든 민족 중에서 솔로몬의 지혜의 소문을 들은 천하 모든 왕 중에서 그 지혜를 들으러 왔더라