Welsh

Korean

Exodus

5

1 Yna aeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt gadw gu373?yl i mi yn yr anialwch.'"
1그 후에 모세와 아론이 가서 바로에게 이르되 `이스라엘 하나님 여호와의 말씀에 내 백성을 보내라 그들이 광야에서 내 앞에 절기를 지킬 것이니라 하셨나이다'
2 Dywedodd Pharo, "Pwy yw yr ARGLWYDD? Pam y dylwn i ufuddhau iddo a gollwng Israel yn rhydd? Nid wyf yn adnabod yr ARGLWYDD, ac felly nid wyf am ollwng Israel yn rhydd."
2바로가 가로되 `여호와가 누구관대 내가 그 말을 듣고 이스라엘을 보내겠느냐 ? 나는 여호와를 알지 못하니 이스라엘도 보내지 아니하리라'
3 Yna dywedasant, "Y mae Duw'r Hebreaid wedi cyfarfod � ni. Gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD, ein Duw, rhag iddo ein taro � haint neu � chleddyf."
3그들이 가로되 `히브리인의 하나님이 우리에게 나타나셨은즉 우리가 사흘길쯤 광야에 가서 우리 하나님 여호와께 희생을 드리려 하오니 가기를 허락하소서 여호와께서 온역이나 칼로 우리를 치실까 두려워하나이다'
4 Ond dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, "Moses ac Aaron, pam yr ydych yn denu'r bobl oddi wrth eu gwaith? Ewch yn �l at eich gorchwylion."
4애굽왕이 그들에게 이르되 `모세와 아론아 ! 너희가 어찌하여 백성으로 역사를 쉬게 하느냐 ? 가서 너희의 역사나 하라'
5 Dywedodd Pharo hefyd, "Edrychwch, y maent erbyn hyn yn fwy niferus na thrigolion y wlad, ac yr ydych chwi am atal eu gorchwylion!"
5또 가로되 `이제 나라에 이 백성이 많거늘 너희가 그들로 역사를 쉬게 하는도다' 하고
6 Y diwrnod hwnnw, rhoddodd Pharo orchymyn i feistri gwaith y bobl a'u swyddogion,
6바로가 당일에 백성의 간역자들과 패장들에게 명하여 가로되
7 "Peidiwch � rhoi gwellt mwyach i'r bobl i wneud priddfeini; gadewch iddynt fynd a chasglu gwellt iddynt eu hunain.
7`너희는 백성에게 다시는 벽돌 소용의 짚을 전과 같이 주지 말고 그들로 가서 스스로 줍게 하라
8 Ond gofalwch eu bod yn cynhyrchu'r un nifer o briddfeini � chynt, a pheidiwch � lleihau'r nifer iddynt. Y maent yn ddiog, a dyna pam y maent yn gweiddi am gael mynd i aberthu i'w Duw.
8또 그들의 전에 만든 벽돌 수효대로 그들로 만들게 하고 감하지 말라 그들이 게으르므로 소리질러 이르기를 우리가 가서 우리 하나님께 희생을 드리자 하나니
9 Gwnewch y gwaith yn drymach i'r bobl er mwyn iddynt ddal ati i weithio, a pheidiwch � gwrando ar eu celwydd."
9그 사람들의 고역을 무겁게 함으로 수고롭게 하여 그들로 거짓말을 듣지 않게 하라'
10 Aeth meistri gwaith a swyddogion y bobl allan a dweud wrthynt, "Fel hyn y dywed Pharo:
10간역자들과 패장들이 나아가 백성에게 일러 가로되 `바로의 말씀에 내가 너희에게 짚을 주지 아니하리니
11 'Nid wyf am roi gwellt i chwi mwyach, ond rhaid i chwi eich hunain fynd i geisio gwellt ym mha le bynnag y gallwch ei gael; er hynny, ni fydd dim cwtogi ar eich cynnyrch.'"
11너희는 짚을 얻을 곳으로 가서 주우라 너희 일은 조금도 감하지 아니하리라' 하셨느니라
12 Felly, bu raid i'r bobl grwydro trwy holl wlad yr Aifft a chasglu sofl yn lle gwellt.
12백성이 애굽 온 땅에 흩어져 곡초 그루터기를 거두어다가 짚을 대신하니
13 Yr oedd y meistri gwaith yn pwyso arnynt gan ddweud, "Gorffennwch y gwaith ar gyfer pob dydd, yn union fel yr oeddech pan oedd gennych wellt."
13간역자들이 그들을 독촉하여 가로되 `너희는 짚이 있을 때와 같이 당일 일을 당일에 마치라' 하며
14 Cafodd y swyddogion a benodwyd gan feistri gwaith Pharo i oruchwylio'r Israeliaid eu curo a'u holi, "Pam na wnaethoch eich dogn o briddfeini heddiw fel cynt?"
14바로의 간역자들이 자기들의 세운바 이스라엘 자손의 패장들을 때리며 가로되 '너희가 어찌하여 어제와 오늘에 만드는 벽돌의 수효를 전과 같이 채우지 아니하였느냐 ?' 하니라
15 Yna daeth swyddogion yr Israeliaid �'u cwyn at Pharo, a dweud, "Pam yr wyt yn trin dy weision fel hyn?
15이스라엘 자손의 패장들이 가서 바로에게 호소하여 가로되 `왕은 어찌하여 종들에게 이같이 하시나이까 ?
16 Nid oes dim gwellt yn cael ei roi i'th weision, ac eto maent yn dweud wrthym am wneud priddfeini! Y mae dy weision yn cael eu curo, ond ar dy bobl di y mae'r bai."
16종들에게 짚을 주지 아니하고 그들이 우리더러 벽돌을 만들라 하나이다 종들이 매를 맞으오니 이는 왕의 백성의 허물이니이다'
17 Dywedodd yntau, "Am eich bod mor ddiog yr ydych yn dweud, 'Gad inni fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.'
17바로가 가로되 `너희가 게으르다, 게으르다 그러므로 너희가 이르기를 우리가 가서 여호와께 희생을 드리자 하는도다
18 Yn awr, ewch ymlaen �'ch gwaith; ac er na roddir gwellt i chwi mwyach, bydd raid i chwi gynhyrchu'r un nifer o briddfeini � chynt."
18이제 가서 일하라 짚은 너희에게 주지 않을지라도 너희가 벽돌을 여수히 바칠지니라'
19 Pan ddywedwyd nad oeddent i leihau'r nifer o briddfeini oedd i'w cynhyrchu mewn diwrnod, gwelodd swyddogion yr Israeliaid eu bod mewn helynt.
19이스라엘 자손의 패장들이 너희의 매일 만드는 벽돌을 조금도 감하지 못하리라 함을 듣고 화가 몸에 미친 줄 알고
20 Wedi iddynt ymadael � Pharo, daeth Moses ac Aaron i'w cyfarfod,
20그들이 바로를 떠나 나올 때에 모세와 아론이 길에 선 것을 만나
21 a dywedodd y swyddogion wrthynt, "Boed i'r ARGLWYDD edrych arnoch a'ch barnu, am ichwi ein gwneud yn ffiaidd yng ngolwg Pharo a'i weision, a rhoi cleddyf iddynt i'n lladd."
21그들에게 이르되 `너희가 우리로 바로의 눈과 그 신하의 눈에 미운 물건이 되게 하고 그들의 손에 칼을 주어 우리를 죽이게 하는도다 여호와는 너희를 감찰하시고 판단하시기를 원하노라'
22 Aeth Moses yn �l at yr ARGLWYDD a dweud, "O ARGLWYDD, pam yr wyt wedi peri'r fath helynt i'r bobl hyn? A pham yr anfonaist fi?
22모세가 여호와께 돌아와서 고하되 `주여, 어찌하여 이 백성으로 학대를 당케 하셨나이까 ? 어찌하여 나를 보내셨나이까 ?
23 Oherwydd er pan ddeuthum at Pharo a llefaru yn dy enw, y mae wedi gwneud drwg i'r bobl hyn, ac nid wyt ti wedi gwneud dim o gwbl i achub eu cam."
23내가 바로에게 와서 주의 이름으로 말함으로부터 그가 이 백성을 더 학대하며 주께서도 주의 백성을 구원치 아니하시나이다'