1 Yna galwodd Jacob ar ei feibion, ac meddai, "Dewch ynghyd, imi ddweud wrthych beth fydd eich hynt yn y dyddiau sydd i ddod.
1야곱이 그 아들들을 불러 이르되 너희는 모이라 너희의 후일에 당할 일을 내가 너희에게 이르리라
2 "Dewch yma a gwrandewch, feibion Jacob, gwrandewch ar Israel eich tad.
2너희는 모여 들으라 야곱의 아들들아 너희 아비 이스라엘에게 들을지어다 !
3 "Reuben, ti yw fy nghyntafanedig, fy ngrym a blaenffrwyth fy nerth, yn rhagori mewn balchder, yn rhagori mewn gallu,
3르우벤아 너는 내 장자요 나의 능력이요 나의 기력의 시작이라 위광이 초등하고 권능이 탁월하도다마는
4 yn aflonydd fel du373?r; ni ragori mwyach, oherwydd dringaist i wely dy dad, dringaist i'm gorweddfa a'i halogi.
4물의 끓음 같았은즉 너는 탁월치 못하리니 네가 아비의 침상에 올라 더럽혔음이로다 그가 내 침상에 올랐었도다
5 "Y mae Simeon a Lefi yn frodyr; arfau creulon yw eu ceibiau.
5시므온과 레위는 형제요 그들의 칼은 잔해하는 기계로다
6 Na fydded imi fynd i'w cyngor, na pherthyn i'w cwmni; oherwydd yn eu llid lladdasant wu375?r, a thorri llinynnau gar yr ychen fel y mynnent.
6내 혼아, 그들의 모의에 상관하지 말지어다 내 영광아 그들의 집회에 참여하지 말지어다 그들이 그 분노대로 사람을 죽이고 그 혈기대로 소의 발목 힘줄을 끊었음이로다
7 Melltigedig fyddo eu llid am ei fod mor arw, a'u dicter am ei fod mor greulon; rhannaf hwy yn Jacob a'u gwasgaru yn Israel.
7그 노염이 혹독하니 저주를 받을 것이요 분기가 맹렬하니 저주를 받을 것이라 내가 그들을 야곱중에서 나누며 이스라엘 중에서 흩으리로다
8 "Jwda, fe'th ganmolir gan dy frodyr; bydd dy law ar war dy elynion, a meibion dy dad yn ymgrymu iti.
8유다야, 너는 네 형제의 찬송이 될지라 ! 네 손이 네 원수의 목을 잡을 것이요 네 아비의 아들들이 네 앞에 절하리로다
9 Jwda, cenau llew ydwyt, yn codi oddi ar yr ysglyfaeth, fy mab; yn plygu a chrymu fel llew, ac fel llewes; pwy a'i cyfyd?
9유다는 사자 새끼로다 내 아들아 ! 너는 움킨 것을 찢고 올라 갔도다 그의 엎드리고 웅크림이 수사자 같고 암사자 같으니 누가 그를 범할 수 있으랴
10 Ni fydd y deyrnwialen yn ymadael � Jwda, na ffon y deddfwr oddi rhwng ei draed, hyd oni ddaw i Seilo; iddo ef y bydd ufudd-dod y bobloedd.
10홀이 유다를 떠나지 아니하며 치리자의 지팡이가 그 발 사이에서 떠나지 아니하시기를 실로가 오시기까지 미치리니 그에게 모든 백성이 복종하리로다
11 Bydd yn rhwymo'i ebol wrth y winwydden, a'r llwdn asyn wrth y winwydden b�r; bydd yn golchi ei wisg mewn gwin, a'i ddillad yng ngwaed grawnwin.
11그의 나귀를 포도나무에 매며 그 암나귀 새끼를 아름다운 포도나무에 맬 것이며 또 그 옷을 포도주에 빨며 그 복장을 포도즙에 빨리로다
12 Bydd ei lygaid yn dywyllach na gwin, a'i ddannedd yn wynnach na llaeth.
12그 눈은 포도주로 인하여 붉겠고 그 이는 우유로 인하여 희리로다
13 "Bydd Sabulon yn byw ar lan y m�r; bydd yn borthladd llongau, a bydd ei derfyn hyd Sidon.
13스불론은 해변에 거하리니 그곳은 배 매는 해변이라 그 지경이 시돈까지리로다
14 "Y mae Issachar yn asyn cryf, yn gorweddian rhwng y corlannau;
14잇사갈은 양의 우리 사이에 꿇어 앉은 건장한 나귀로다
15 pan fydd yn gweld lle da i orffwyso, ac mor hyfryd yw'r tir, fe blyga'i ysgwydd i'r baich, a dod yn gaethwas dan orfod.
15그는 쉴 곳을 보고 좋게 여기며 토지를 보고 아름답게 여기고 어깨를 내려 짐을 메고 압제 아래서 섬기리로다
16 "Bydd Dan yn barnu ei bobl fel un o lwythau Israel.
16단은 이스라엘의 한 지파같이 그 백성을 심판하리로다
17 Bydd Dan yn sarff ar y ffordd, ac yn neidr ar y llwybr, yn brathu sodlau'r march nes i'r marchog syrthio yn wysg ei gefn.
17단은 길의 뱀이요 첩경의 독사리로다 말굽을 물어서 그 탄 자로 뒤로 떨어지게 하리로다
18 "Disgwyliaf am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD!
18여호와여 ! 나는 주의 구원을 기다리나이다
19 "Gad, daw ysbeilwyr i'w ymlid, ond bydd ef yn eu hymlid hwy.
19갓은 군대의 박격을 받으나 도리어 그 뒤를 추격하리로다
20 "Aser, bras fydd ei fwyd, ac fe rydd ddanteithion gweddus i frenin.
20아셀에게서 나는 식물은 기름진 것이라 그가 왕의 진수를 공궤하리로다
21 "Y mae Nafftali yn dderwen ganghennog, yn lledu brigau teg.
21납달리는 놓인 암사슴이라 아름다운 소리를 발하는도다
22 "Y mae Joseff yn gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, a'i cheinciau'n dringo dros y mur.
22요셉은 무성한 가지 곧 샘 곁의 무성한 가지라 그 가지가 담을 넘었도다
23 Bu'r saethwyr yn chwerw tuag ato, yn ei saethu yn llawn gelyniaeth;
23활쏘는 자가 그를 학대하며 그를 쏘며 그를 군박하였으나
24 ond parhaodd ei fwa yn gadarn, cryfhawyd ei freichiau trwy ddwylo Un Cadarn Jacob, trwy enw'r Bugail, Craig Israel;
24요셉의 활이 도리어 견강하며 그의 팔이 힘이 있으니 야곱의 전능자의 손을 힘입음이라 그로부터 이스라엘의 반석인 목자가 나도다
25 trwy Dduw dy dad, sydd yn dy nerthu, trwy Dduw Hollalluog, sydd yn dy fendithio � bendithion y nefoedd uchod, bendithion y dyfnder sy'n gorwedd isod, bendithion y bronnau a'r groth.
25네 아비의 하나님께로 말미암나니 그가 너를 도우실 것이요 전능자로 말미암나니 그가 네게 복을 주실 것이라 위로 하늘의 복과 아래로 원천의 복과 젖먹이는 복과 태의 복이리로다
26 Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion y mynyddoedd tragwyddol, ac ar haelioni'r bryniau oesol; byddant hwy ar ben Joseff, ac ar dalcen yr un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.
26네 아비의 축복이 내 부여조의 축복보다 나아서 영원한 산이 한 없음같이 이 축복이 요셉의 머리로 돌아오며 그 형제중 뛰어난 자의 정수리로 돌아오리로다
27 "Y mae Benjamin yn flaidd yn llarpio, yn bwyta ysglyfaeth yn y bore, ac yn rhannu'r ysbail yn yr hwyr."
27베냐민은 물어 뜯는 이리라 아침에는 빼앗은 것을 먹고 저녁에는 움킨 것을 나누리로다
28 Dyna ddeuddeg llwyth Israel, a dyna'r hyn a ddywedodd eu tad wrthynt wrth eu bendithio, a rhoi i bob un ei fendith.
28이들은 이스라엘의 십 이 지파라 이와 같이 그 아비가 그들에게 말하고 그들에게 축복하였으되 곧 그들 각인의 분량대로 축복하였더라
29 Yna rhoes Jacob orchymyn iddynt a dweud, "Cesglir fi at fy mhobl. Claddwch fi gyda'm hynafiaid yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad,
29그가 그들에게 명하여 가로되 `내가 내 열조에게로 돌아가리니 나를 헷 사람 에브론 밭에 있는 굴에 우리 부여조와 함께 장사하라
30 yr ogof sydd ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yng ngwlad Canaan. Prynodd Abraham hi gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd.
30이 굴은 가나안 땅 마므레 앞 막벨라 밭에 있는 것이라 아브라함이 헷 사람 에브론에게서 밭과 함께 사서 그 소유 매장지를 삼았으므로
31 Yno y claddwyd Abraham a'i wraig Sara; yno y claddwyd Isaac a'i wraig Rebeca, ac yno y cleddais i Lea.
31아브라함과 그 아내 사라가 거기 장사되었고 이삭과 그 아내 리브가도 거기 장사되었으며 나도 레아를 그 곳에 장사하였노라
32 Cafwyd hawl ar y maes a'r ogof sydd ynddo gan yr Hethiaid."
32이 밭과 거기 있는 굴은 헷 사람에게서 산 것이니라'
33 Wedi i Jacob orffen rhoi ei orchymyn i'w feibion, tynnodd ei draed ato i'r gwely, bu farw, a chasglwyd ef at ei bobl.
33야곱이 아들에게 명하기를 마치고 그 발을 침상에 거두고 기운이 진하여 그 열조에게로 돌아갔더라